Rhun ap Iorwerth yn datgan ei fod o’n annerbyniol fod Cleifion Iechyd Meddwl bregus yn cael eu gadael ar waelod y rhestr.

Mae pryder bod cleifion iechyd meddwl yn cael eu rhyddhau o wasanaethau cymorth iechyd meddwl yn sgîl effaith argyfwng y Coronafeirws.

Mewn llythyr sydd wedi ei weld gan Blaid Cymru, mae tystiolaeth fod claf wedi cael ei yrru adref o wasanaeth cymorth iechyd meddwl lleol yn Sir y Fflint oherwydd “sefyllfa’r Coronafeirws”.

Dywed y llythyr bod cleifion wedi cael eu cynghori i drafod ail-gyfeirio gyda’u meddygon teulu “unwaith mae’r cyfyngiadau wedi eu llacio”.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth AS, Gweinidog Iechyd Cysgodol Plaid Cymru, ei bod yn “bryderus iawn” bod meddygon yn cael eu cynghori i adael cleifion iechyd meddwl ar waelod y rhestr blaenoriaethau.

Ychwanegodd Mr ap Iorwerth ei bod hi’n ddealladwy bod oedi am apwyntiadau yn sgîl Covid-19, ond mae gyrru cleifion adref sy’n derbyn cymorth iechyd meddwl oherwydd problemau capasiti yn “annerbyniol”.

Dywedodd Gweinidog Iechyd yr Wrthblaid fod pethau yn mynd o ddrwg i waeth wrth beidio delio â phroblemau iechyd meddwl o achos yr argyfwng presennol, a bod dyletswydd ar Lywodraeth Cymru i gefnogi’r rhai sydd â phroblemau iechyd meddwl yn well yn hytrach na bod meddygon yn cael eu cynghori i’w rhyddhau.

Dywedodd Geoff Ryall-Harvey, Prif Swyddog Cyngor Iechyd Cymuned Gogledd Cymru, fod y sefyllfa yn “bryderus tu hwnt”.

Yn ôl Mr Ryall-Harvey, does “dim rheswm” pam fod cleifion sydd eisioes â phroblemau iechyd yn cael eu rhyddhau, a bod y nifer o gleifion sydd yn mynd at feddyg teulu ynglyn â’r problemau hyn yn “cynyddu”.

Nododd Gweinidog Iechyd Cysgodol Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth AS:

“Mae’n peri gofid mawr bod meddygon yn cael eu cynghori i adael cleifion bregus sydd â phroblemau iechyd meddwl ar waelod y rhestr.”

“Gallwn ni gyd ddeall bod rhaid addasu gwasanaethau yn sgîl pwysau’r Coronafeirws, a bod oedi am apwyntiadau yn ddealladwy. Ond mae rhyddhau cleifion sy’n derbyn cymorth iechyd meddwl, oherwydd trafferthion capasiti, yn annerbyniol”

“Yn amlwg ni ddylai hyn fod wedi digwydd, ac mae angen cwestiynu sut oedd modd i’r neges yma gael ei rhyddhau. Rydym ni eisioes yn ymwybodol bod problemau yn cynyddu wrth beidio trin salwch corfforol, ac yr un ydi’r modd efo iechyd meddwl. Mae’n hollbwysig fod y Llywodraeth yn gwella’u cefnogaeth at y rhai sy’n dioddef o broblemau iechyd meddwl yn hytrach na bod meddygon mewn sefyllfa i’w rhyddhau nhw yn rhy gynnar.”

Dywedodd Geoff Ryall-Harvey, Prif Swyddog Cyngor Iechyd Cymuned Gogledd Cymru:

“Mae gwasanaethau di-frys iechyd meddwl wedi cael eu gohirio yn dilyn cyngor Llywodraeth Cymru ar bellhau cymdeithasol, ac mae hyn yn ddealladwy. Fodd bynnag yng Ngogledd Cymru, mae cleifion wedi cael eu cynghori eu bod nhw wedi cael eu rhyddhau o’r gwasanaeth, ac y dylent geisio ailgofrestru efo’r gwasanaeth unwaith mae cyfyngiadau Covid-19 wedi eu llacio.

“Mae hyn yn bryderus iawn. Does dim rheswm pam y dylai cleifion sydd eisioes â phroblemau iechyd meddwl gael eu rhyddhau. Yn yr oes sydd ohoni, mae cleifion angen cefnogaeth broffesiynol yn fwy nac erioed. Mae meddygon teulu lleol wedi ein hysbysu bod nifer y cleifion sydd yn ein hysbysu ni o broblemau iechyd meddwl yn cynyddu, ac ar ôl Covid-19, gall hyn fod yn broblemus. Byddai hyn yn arwain at gleifion tymor-hir yn ei chael hi’n anodd i dderbyn cymorth gan bod rhestrau aros yn cynyddu’n sylweddol.”