“Gadewch i ni fynd yn ôl i drefn”, meddai Rhun ap Iorwerth wrth Lywodraeth Cymru wrth i’r system brofi Brydeinig wynebu anhawsterau

Mae Gweinidog Cysgodol Iechyd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth AS, wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gael trefn ar y system brofi.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddoe ei bod hi’n mynd i ymuno yn y system brofi wladol. Er gwaethaf hyn, roedd gwefan Llywodraeth Prydain brynhawn Mawrth yn honni nad oedd modd cael pecyn profi cartref, a nad oedd unrhyw argaeledd i’r cyhoedd ddefnyddio canolfannau profi o’u cerbyd yng Nghymru.

Dywedodd Gweinidog Iechyd yr Wrthblaid ei bod yn “bryderus” fod trafferthion wedi dod i’r wyneb yn barod, un dydd yn unig ar ôl i’r cynllun gael ei ryddhau.

Cadarnhaodd Mr ap Iorwerth bod hyn yn cyfiawnhau pryder Plaid Cymru ynglŷn â diffyg brys i gynyddu capasiti yng Nghymru, gan ychwanegu fod angen sicrwydd rwan er mwyn dod yn ôl i drefn.

Dywedodd Mr ap Iorwerth bod angen “system brofi a monitro” ar frys.

Ychwanegodd Gweinidog Iechyd yr Wrthblaid ei fod yn bryderus ar ôl clywed y Gweinidog Iechyd yn datgan fod rhai pobl wedi derbyn llythyrau gan y Llywodraeth er mwyn eu gwarchod ar sail feddygol mewn camgymeriad.

Roedd yn rhaid i’r Gweinidog Iechyd gyfaddef nad oedd yn cael dweud sawl person wnaeth dderbyn y llythyrau yma ar ddamwain.

Dywedodd Mr ap Iorwerth fod Llywodraeth Llafur Cymru wedi gwneud “camgymeriad ar ôl camgymeriad” ac mae angen i’r cyhoedd wybod pam.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth AS, Gweinidog Cysgodol Iechyd Plaid Cymru:

“Fe ddaeth cyhoeddiad ddoe parthed cynnwys Cymru yn y system brofi cartref ledled y DU. Ond erbyn heddiw, mae trafferthion ynghylch y cynllun, a dim argaeledd ar gyfer citiau profi. Mae hyn yn bryderus.

“Mae hyn yn awgrymu i fi ein bod ni’n gywir ynghylch y diffyg brys i gynyddu capasiti yng Nghymru! Roedd angen i Lywodraeth Cymru gynyddu’r capasiti yn gynt yn hytrach na bod yn yr un sefyllfa â’r dair gwlad arall rwan. Mae angen sicrwydd brys ein bod ni am fynd yn ôl ar y trywydd iawn.

“Mae elfennau o’r frwydr yn erbyn Coronafeirws yn mynd i gael ei wneud ar lefel wladol, Ewropeaidd a hyd yn oed ryngwladol, ond mae’n rhaid sicrhau bod trefn yma yng Nghymru hefyd. Mae angen system brofi a monitro gref a dibynadwy.

“Rhywbeth pryderus arall heddiw ydi clywed y Gweinidog yn cyfaddef fod rhai pobl wedi derbyn llythyrau gan y Llywodraeth er mwyn eu gwarchod ar sail feddygol ar ddamwain, a nad oedd modd darganfod faint o bobl a dderbyniodd y llythyrau hyn. Dwi’n ymwybodol fod hwn yn gyfnod anodd, ond rydym ni wedi gweld camgymeriad ar ôl camgymeriad, a rhaid cael atebion.”