Mae Rhun ap Iorwerth, Aelod Seneddol Ynys Môn, wedi mynegi pryder bod llawer o weithwyr allweddol yn cael trafferth gyda gofal plant dros yr haf ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i ailystyried ei phenderfyniad i beidio ag ariannu gofal haf yn llawn.
Mae llawer o rieni sy’n weithwyr allweddol – yn enwedig yn y sector iechyd a gofal – wedi cysylltu â Mr ap Iorwerth yn dilyn y penderfyniad i beidio â pharhau hybiau gofal plant Covid-19 ledled Cymru, sy’n golygu eu bod yn wynebu materion gofal plant munud olaf a annisgwyl.
Mae llawer wedi canfod bod gwasanaethau gwarchod plant arferol eisoes yn llawn ac mae llawer o neiniau a theidiau yn dal i gysgodi, yn gadael opsiynau cyfyngedig i rieni, ond dim ond i blant gweithwyr allweddol y bydd Cynllun Cymorth Gofal Plant Coronavirus (C-CAS) yn cael ei ddarparu yn ystod gwyliau’r haf, ar gyfer plant yn bump oed, a phlant bregus.
Dywedodd Rhun ap Iorwerth, MS dros Ynys Môn:
“Mae rhieni’n dweud wrthyf fod y penderfyniad i beidio ag ariannu gofal plant ar gyfer gweithwyr allweddol dros yr haf wedi eu gadael ‘yn y lurch’. Ar gyfer y gweithwyr allweddol hynny nad oes ganddynt opsiynau gofal plant amgen, maent yn dweud wrthyf eu bod yn gorfod ystyried rhoi’r gorau i weithio.
“Mae llawer fel arfer yn dibynnu ar neiniau a theidiau neu deuluoedd estynedig, ond erbyn hyn maent mewn sefyllfa lle mae neiniau a theidiau yn dal i gysgodi, ac mae eu teulu a’u ffrindiau eisoes wedi ffurfio cartrefi estynedig eraill.
“Rwyf wedi bod mewn cysylltiad â Chyngor Ynys Môn ac maent yn amlwg yn rhwystredig, ar ôl rhoi cynllun manwl ar waith i ddarparu gofal plant i weithwyr allweddol dros yr haf, bod penderfyniad munud olaf gan Lywodraeth Cymru i beidio â’i ariannu yn golygu na ellid cyflawni’r cynlluniau bellach.
“Rwyf hefyd wedi ysgrifennu at Lywodraeth Cymru, yn gofyn iddynt ailystyried y penderfyniad ar frys, neu o leiaf adolygu’r rheolau ar aelwydydd estynedig fel bod gan weithwyr allweddol fwy o opsiynau gofal plant.”
Esboniodd un rhiant, Clare Mcmullen, Nyrs o Gaergybi, y bydd y penderfyniad i beidio â pharhau â’r Cynllun Cymorth Gofal Plant yn cael effaith sylweddol ar ei theulu.
“Mae’r diffyg gofal ar gael yn broblem fawr i mi a fy nheulu. Ni allaf gymryd mwy o wyliau blynyddol, a dydi ysgolion ddim yn agor tan ganol mis Medi, bydd angen mwy o ofal plant nag arfer arnaf.
“Fy unig opsiwn fyddai i’m plant fynd i aelwyd wahanol bob shifft rwy’n gweithio – rhai dyddiau a allai fod gyda pherthnasau sy’n cysgodi, a diwrnodau eraill gyda gweithwyr allweddol sy’n gweithio ar wardiau COVID-19 ar hyn o bryd. Nid wyf am greu’r math hwnnw o risg i iechyd.
“O’r dechrau, rwyf wedi bod yn ymwybodol iawn bod fy rôl fel nyrs yn peryglu fy mhlant, ac eto nid wyf erioed wedi petruso cyn ei wneud. Ond nawr mae angen rhywfaint o help arnaf.“