“Ddim yn ddigon da” nad yw 1 o bob 4 claf yn dechrau triniaeth ganser o fewn y 62 diwrnod targed

Ymateb Rhun ap Iorwerth i restrau aros y GIG, ac amseroedd aros canser

 

Wrth ymateb i’r ffigurau diweddaraf gan Lywodraeth Cymru sy’n dangos bod 600,000 o gleifion ar restrau aros GIG Cymru, ac nad yw 1 o bob 4 claf yn dechrau triniaeth ganser o fewn y 62 diwrnod targed, dywedodd llefarydd ar ran Iechyd, Rhun ap Iorwerth AS,

 

“Tynnwyd sylw at faint o restrau aros sydd wedi tyfu yn ystod y pandemig, ond y gwir yw bod y rhain eisoes yn rhy uchel cyn y pandemig. Nid yw dychwelyd i ‘normal gyn-bandemig’ yn ddigon da.”

 

“Er mwyn gwella pethau, rhaid i Lywodraeth Llafur Cymru gyflwyno cynllun adfer cadarn, uchelgeisiol, sy’n rhoi GIG Cymru mewn gwell sefyllfa nag yr oeddem ar ddechrau’r pandemig. Rhaid i hyn gynnwys strategaeth gweithlu i ddenu a chadw gweithwyr iechyd a gofal.”

 

“Fel mater o frys, rhaid i’r cynllun flaenoriaethu diagnosis canser cynnar, gan ddod â’r rhai sydd heb gael diagnosis i’r system a darparu gofal effeithiol i’r cleifion hynny yng nghyfnodau diweddarach canser a fydd angen triniaethau mwy cymhleth.”