Gwrandewch ar yr arbenigwyr – Rhun yn galw ar Lywodraeth Cymru i argymell gorchuddion er mwyn cyfyngu lledaeniad Coronafeirws

Mae galw gan Arweinyddion Doctoriaid yng Nghymru, yn ogystal â gwybodaeth wyddonol bellach ynghylch effeithlonrwydd gorchuddion wyneb yn y frwydr yn erbyn Coronafeirws wedi ysgogi Plaid Cymru i ailadrodd ei galw ar Lywodraeth Cymru i annog defnyddio gorchuddion wyneb.

Yn dilyn ei alw am argymhellion clir ynghylch gorchuddion wyneb yn y Senedd ddydd Mercher, mae Aelod Seneddol Plaid Cymru a’r Gweinidog Cysgodol Iechyd, Rhun ap Iorwerth, wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ddilyn cyngor doctoriaid yng Nghymru a’r dystiolaeth wyddonol ddiweddaraf ar orchuddion wyneb, yn ogystal ag annog y cyhoedd i wisgo masgiau mewn mannau cyhoeddus caeëdig.

Mae BMA Cymru wedi galw ar Lywodraeth Cymru i annog defnyddio gorchuddion wyneb mewn mannau lle nad oes modd cael pellhau cymdeithasol. Yn eu datganiad, dywedon nhw fod “risg o haint dal yn uchel, ac mae tystiolaeth ddiweddar yn dangos fod cael gorchudd wyneb i guddio ceg a thrwyn mewn mannau cyhoeddus o bosib yn gallu rheoli lledaeniad Covid-19, ac yn y pen draw, yn gallu achub bywydau.

Caiff y galw yma ei atgyfnerthu gan dystiolaeth wyddonol gynyddol sy’n dadlau bod gorchuddion wyneb yn cyfrannu’n helaeth tuag at gyfyngu lledaeniad y feirws drwy leihau trosglwyddiad aerosol y sawl sydd ddim yn dangos symptomau. Mae tystiolaeth sydd wedi ei gyflwyno ym mis Mai 2020 ar y cyd gan Brifysgol California San Diego, a Phrifysgol Cenedlaethol Sun Yat-Sen yn Nhaiwan, yn nodi bod y feirws yn parhau i fod yn heintus tu fewn am oriau, a bod rhaid cael ‘mesurau sydd wedi’u cynllunio i leihau trosglwyddiad aerosol, gan gynnwys masgio cyffredinol’.

Dywedodd Mr ap Iorwerth fod rhaid i’r galw yma gan ddoctoriaid yn ogystal â’r dystiolaeth wyddonol o blaid defnyddio gorchuddion wyneb gael eu hystyried a’u gweithredu gan Lywodraeth Cymru, ochr yn ochr â system brofi gadarn, i ostwng y gyfradd R yng Nghymru.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth, Gweinidog Iechyd yr Wrthblaid,

“Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru wrando ar yr arbenigwyr a’u pryderon nhw, gan dalu sylw agos at y dystiolaeth ddiweddaraf er mwyn casglu’r dystiolaeth sy’n mynd i sicrhau diogelwch pobl yma yng Nghymru. Mae’r ddadl o blaid gorchuddion wyneb mewn mannau cyhoeddus sydd yn peri mwy o risg, megis archfarchnadoedd, yn cynyddu. Dwi’n credu y dylai Llywodraeth Cymru ymateb ac addasu eu strategaeth, gan annog defnyddio gorchuddion wyneb yn rheolaidd.

“Dyna pam dwi wedi galw ar y Gweinidog Iechyd yn y Senedd yr wythnos hon i wrando ar y dystiolaeth gynyddol yma, ac i gyflwyno canllawiau clir er mwyn annog defnyddio gorchuddion wyneb.

“Gan gysidro fod gan Llywodraeth Cymru agwedd bwyllog, sy’n cael ei chroesawu, efo cyfyngiadau’r cyfnod clo, mae hwn yn gyfle arall i ddiogelu pobl. Os ydi o’n cyfrannu’n bositif at yr achos, yna pam ddim ei annog?

Ychwanegodd Mr ap Iorwerth fod hwn yn rywbeth sy’n gofyn am gymorth unigolion a chymunedau ar hyd a lled Cymru er mwyn sicrhau ei lwyddiant, ac mae wedi gofyn ar Weinidogion i gefnogi menter cynhyrchu masgiau ledled Cymru:

“Tra dylai gorchuddion wyneb meddygol gael eu blaenoriaethu i’r rheiny sy’n gweithio yn y maes iechyd a gofal, mae modd gwneud gorchuddion wyneb o’ch cartref. Byddaf yn mynd ati i rannu’r nifer fawr o ddeunydd ar-lein ac offer eraill sydd ar gael ar gyfer gwneud masgiau – gall menter megis ‘Masg Cymru’ uno unigolion a chymunedau, ac os ydi’r dystiolaeth yn gywir, gall achub bywydau.