Mae angen gwelliannau difrifol ar frys ar Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, meddai Rhun ap Iorwerth.

Mae Gweinidog Cysgodol Iechyd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth AS, yn condemnio methiannau’r bwrdd iechyd o dan Lywodraeth Cymru ar ôl pum mlynedd o fod mewn mesurau arbennig.

Mae Rhun ap Iorwerth, Aelod Seneddol Plaid Cymru a Gweinidog Iechyd yr Wrthblaid, wedi tynnu sylw at y camau brys sydd eu hangen er mwyn delio â methiannau Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yng Ngogledd Cymru, sydd erbyn hyn wedi bod mewn mesurau arbennig ers pum mlynedd.

Dywedodd Mr ap Iorwerth fod sawl enghraifft o ddiffygion y bwrdd iechyd wedi bod yn y gorffennol, gan gynnwys methiannau’r gwasanaeth fasgwlaidd a phenodiad ymgynhorwr allanol y ‘Marbella Man’ am gost o bron i £2000 y dydd tra roedd o’n gweithio ar ‘arbedion’ y bwrdd iechyd, a hynny o’i dŷ yn Sbaen ar adegau.

Yn fwyaf diweddar, fe wnaeth y bwrdd iechyd ryddhau bron i 1,700 o gleifion iechyd meddwl yn ystod yr argyfwng, er bod hyn yn sialens seicolegol aruthrol i lawer. Mae system ddata sy’n ymddangos yn hen ffasiwn hefyd yn broblemus i’r bwrdd iechyd gan ei fod yn arwain at dangofnodi marwolaethau Covid.

Ar Ebrill y 27ain, cyhoeddodd y bwrdd iechyd 84 o ‘farwolaethau adolygol’ a ddigwyddodd rhwng Mawrth yr 20fed ac Ebrill yr 22ain.

Dywedodd Gweinidog Iechyd yr Wrthblaid efallai nad oedd dewis arall erbyn hyn ond i rannu’r bwrdd iechyd a “dechrau o’r dechrau”.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth AS, Gweinidog Cysgodol Iechyd Plaid Cymru,

“Gan bod Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi bod mewn mesurau arbennig ers pum mlynedd bellach, mae rhai cwestiynau anochel a sylfaenol o ran y posiblrwydd i adfer y bwrdd iechyd.

“O fethiannau iechyd meddwl difrifol, i wariant gwastraffus ar ymgynghorwyr busnes allanol, mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi dioddef sawl problem gyhoeddus, a hynny o dan arweiniad uniongyrchol Llywodraeth Cymru.

“Lle bynnag yr ydym ni, mae’r pandemig yma wedi ein hysgogi ni gyd i feddwl am y math o wasanaeth iechyd sydd ei angen arnom, a sut mae’n rhaid cael adnoddau priodol a chefnogaeth i’r weithlu. Ond yma yng Ngogledd Cymru, mae wedi ein hysgogi ni i ystyried pa mor ddigonol ac effeithlon ydi Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr.

“Does gen i ddim awydd ceisio cael adrefniant, ond dwi wedi dod i gasgliad cadarn nad oes opsiwn efallai erbyn hyn ond i rannu’r bwrdd iechyd yma, a chychwyn drachefn, ac mae mwy a mwy o weithwyr y GIG o’r un farn. Mae’n gam y byddwn i, fel y mae pethau’n sefyll ar hyn o bryd, yn barod i’w gymryd pe bawn i’n dod yn Weinidog Iechyd yn dilyn yr etholiad.