Gallai triniaeth gynharach o achosion posib fod wedi achub cannoedd o fywydau

Ysgrifennodd Mr ap Iorwerth at y Gweinidog Iechyd ym mis Mawrth ac ym mis Ebrill, gan annog Llywodraeth Cymru i hyrwyddo defnydd profion ocsigen yn y gwaed a’r defnydd o gymorth CPAP ar gyfer anadlu, fel ffordd o ganfod Covid-19 yn gynnar mewn pobl sydd â symptomau perthnasol, a darparu triniaeth yn gynt er mwyn osgoi’r angen am gymorth anadlu gofal dwys. Dangosodd tystiolaeth cynnar y gallai hyn achub bywydau a chymryd pwysau oddi ar y GIG.

Dywedodd fod Gweinidogion yn “frawychus o araf” wrth ddiweddaru’r canllawiau ar gyfer gweithwyr iechyd proffesiynol a’i bod yn bosib bod deufis o ddiffyg gweithredu rhwng yr ohebiaeth, a’r newid yn yr ymagwedd wedi arwain at ganlyniadau trychinebus.

Bellach, dros bedwar mis yn ddiweddarach, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi datganiad yn amlygu manteision yr ymyrraeth cynharach hwn ac yn addo adnoddau newydd i gyflwyno’r dull newydd hwn.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth MS, Gweinidog Iechyd cysgodol Plaid Cymru,

“Mae tystiolaeth rhyngwladol wedi amlygu’n gyson y gallai ymyrryd yn gynharach, drwy ddefnyddio ocsimetrau pwls, peiriannau CPAP a phrofion lefel ocsigen gwaed, arwain at ganlyniadau gwell mewn achosion positif Covid-19.

“Mae Plaid Cymru, ar sawl achlysur dros gyfnod o fisoedd, wedi gofyn i Lywodraeth Cymru fabwysiadu’r dull meddygol hwn – mewn gohebiaeth gyda’r Gweinidog Iechyd, yn ystod cwestiynau yn y Senedd, ac yn y cyfarfodydd grŵp craidd Covid gyda Llywodraeth Cymru.

“Ond maent wedi bod yn frawychus o araf o ran ymateb, gan arwain at fisoedd o ddiffyg gweithredu rhwng yr ohebiaeth a’r newid yn yr ymagwedd ac oedi pellach o 2 fis cyn hysbysu’r Senedd a’r cyhoedd. Gall yr oedi hwn fod wedi costio llawer o fywydau. ”

Wrth ymateb i arweinydd Plaid Cymru Adam Price MS yng nghyfarfod rhithwir y Senedd heddiw, dywedodd y Prif Weinidog fod y GIG rhy brysur yn ymateb i’r pandemig ar y pryd, ond dywedodd Rhun ap Iorwerth MS:

“Pwrpas ein hymyrraeth, a’n annogaeth i adnabod a thrin hypoxia distaw yn gynnar, oedd er mwyn tynnu’r pwysau oddi ar y GIG, a sicrhau bod modd trin mwy o gleifion heb yr angen am gymorth anadlu gofal dwys, lle mae’r siawns o oroesi yn cael ei leihau’n sylweddol.”

Ychwanegodd:

“Mae’n amlwg bod angen i Weinidogion ystyried elfennau o ddiffyg gweithredu yn ystod y pandemig. Mae’n hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn gweithredu’n gyflym ac yn bendant os ydym am ymateb yn well i’r ail don na’r cyntaf.

“Dyna pam y mae’n rhaid i’r Llywodraeth gyhoeddi amserlen fanwl ar gyfer yr ymchwiliad i’r pandemig yng Nghymru – ymchwiliad y mae eisoes wedi ymrwymo iddo – heb unrhyw oedi pellach.”