Prosiectau Ynni Morol Môn yn rhoi cyflwyniad i ACau

Fe wnaeth Aelod Cynulliad Ynys Môn Rhun ap Iorwerth gyd-noddi digwyddiad Ynni Morol yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru yr wythnos hon.

Daeth nifer o wahanol sefydliadau sy’n ymwneud â’r diwydiant carbon isel sy’n datblygu’n gyflym ynghyd yn y digwyddiad, gan gynnwys cynrychiolwyr o SEACAMS, Minesto a Morlais o Ynys Môn, pob un yn rhoi diweddariad i’r sector gyda gwybodaeth am fuddsoddiad, creu swyddi a chyfleusterau presennol ac arfaethedig.

Thema oedd yn cael ei ailadrodd oedd yr angen i bwyso am gefnogaeth polisi gan lywodraeth y DU ar gyfer ynni morol nawr, fel y gall Cymru a’r DU barhau ar flaen y gad yn y diwydiant hwn sy’n tyfu.

Yn siarad ar ôl y digwyddiad, dywedodd Rhun ap Iorwerth AC:

“Roeddwn yn falch o gael cefnogi’r digwyddiad hwn yn y Cynulliad. Rwy’n angerddol am ynni morol, ac roedd y cyflwyniadau a glywsom yn ysbrydoledig. Mae’n ddiwydiant cyffrous iawn i Gymru, ac mae’n wych bod Ynys Môn yn chwaraewr mor allweddol.

“Gyda €100.4 miliwn o arian strwythurol yr UE wedi’i flaenoriaethu ar gyfer ynni’r môr, dau Barth Arddangos ac adnodd tonnau a llanw sylweddol, mae Cymru mewn sefyllfa dda i fod yn arweinydd byd-eang yn y sector hwn.

“Rydw i’n arbennig o gyffrous am ddatblygiadau yn Ynys Môn ac roeddwn yn falch bod Minesto a Morlais yn gallu rhannu eu gweledigaeth gydag Aelodau’r Cynulliad yr wythnos hon. Mae Morlais yn golygu ‘llais y môr’, ac mae’n amlwg bod moroedd Cymru’n sgrechian i ni fanteisio ar ei botensial o ran ei fanteision amgylcheddol ac economaidd i Gymru.

“Mae’n fater o bryder mawr i mi fod San Steffan yn dal Cymru yn ôl ar hyn. Dylai Cymru wneud ei phenderfyniadau ei hun. Fel y mae, mae’n rhaid i ni ddisgwyl am San Steffan ar hyn o bryd. Mae Cymru wedi penderfynu – gadewch i ni fynd amdani.”