Galwad Plaid Cymru i ymestyn brechlyn HPV i fechgyn yn cael ei gefnogi gan gyngor y Pwyllgor Brechlynnau

Plaid Cymru yn croesawu datganiad gan JCVI ac yn annog ymateb ar unwaith gan Lywodraeth Cymru

Wrth ymateb i ddatganiad y JCVI a ryddhawyd heddiw ar argymell ymestyn y rhaglen brechlyn HPV i fechgyn ifanc yn unol â’r rhaglen gyfredol ar gyfer merched, dywedodd Ysgrifennydd Cabinet Cysgodol Plaid Cymru dros Iechyd, Rhun ap Iorwerth AC,

“Roeddwn yn falch o allu cyflwyno dadl i’r Cynulliad fis diwethaf ar ehangu’r defnydd o frechlyn firws y papilloma dynol i fechgyn ifanc, oherwydd tystiolaeth glir o effeithiolrwydd y brechlyn hon wrth atal canserau difrifol, gan gynnwys canser y pen a gwddf. Yn y ddadl honno, dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn aros am gyngor gan y Cydbwyllgor ar Frechu a Imiwneiddio ynghylch p’un ai i ymestyn y rhaglen frechu HPV i fechgyn ifanc.

“Nawr mae’r cyngor yna gennym ni – i argymell ymestyn y rhaglen brechlyn HPV i fechgyn ifanc yn unol â’r rhaglen bresennol ar gyfer merched, felly pam aros? Does gan Lywodraeth Cymru ddim rheswm i ohirio’r penderfyniad mwyach. Mae rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig eisoes wedi gwneud y penderfyniad – am beth mae Llywodraeth Cymru yn aros?

“Mewn ymateb i’r cyhoeddiad, rwyf wedi ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet i ofyn am ymateb ar frys gan y llywodraeth i fwrw ymlaen.”