Mae’r newyddion fod pob swyddfa dreth yng Nghymru y tu allan i Gaerdydd yn cau erbyn 2021 yn gondemniad damniol o flaenoriaethau’r Torïaid a bydd yn arwain at golli swyddi lu yn Wrecsam, Abertawe a Phorthmadog, yn ôl AC Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth.
Gyda chau swyddfeydd treth Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi yn Wrecsam, Porthmadog ac Abertawe, dim ond swyddfa Caerdydd fydd yn gwasanaethu Cymru, a bydd llawer o waith y gogledd yn cael ei wneud yn Lerpwl neu Telford. Mae swyddfa Wrecsam yn cyflogi rhyw 350 o staff, Abertawe 300 a swyddfa Porthmadog, lle mae canolfan alw Gymraeg HMRC, rhyw 20 o weithwyr.
Dywedodd Gweinidog cysgodol Plaid Cymru dros yr Economi, Rhun ap Iorwerth AC:
“Mae cau’r swyddfeydd hyn yn golygu colli nifer fawr o swyddi a bydd yn ergyd drom i economi Cymru ac yn enwedig y cannoedd o weithwyr hynny a’u teulu fydd yn teimlo effaith uniongyrchol y cau.
“Mae un llywodraeth y DG ar ôl y llall dros y ddegawd ddiwethaf wedi bod yn benderfynol o gau swyddfeydd treth, a dengys y cynlluniau diweddaraf hyn ddirmyg llwyr y llywodraeth Dorïaidd hon at Gymru.
“Does dim disgwyl i’r gweithwyr hyn yn Wrecsam, Abertawe a Phorthmadog symud i Gaerdydd, na symud dros y ffin i Telford neu Lerpwl. Nid yn unig y bydd cannoedd o bobl yn colli eu swyddi a’u bywoliaeth, ond bydd unig ganolfan Gymraeg HMRC yn cau. Byddai colli’r swyddi hyn hefyd yn ergyd enbyd i fusnesau lleol sy’n dibynnu ar y gweithwyr hyn i wario eu cyflogau yn yr ardal leol.
“Mae hyn yn gondemniad hallt o flaenoriaethau’r Toriaid – cau swyddfeydd treth, torri swyddi, tra bod y corfforaethau mawr yn parhau i chwarae mig â’r system dreth.”