Diolch i arwyr covid lleol Ynys Mon

Cafodd AS Ynys Môn Rhun ap Iorwerth gyfle i dalu teyrnged i rai o’n pencampwyr covid lleol, fel y’u henwebwyd gan bobl o Ynys Môn, yn y Senedd yr wythnos hon.

Daeth y cyfle wrth i Senedd Cymru benderfynu eu bod am gydnabod rhai o’r pethau rhyfeddol a wnaed gan unigolion, grwpiau, gweithwyr allweddol neu fusnesau yn ystod pandemig Covid-19 i helpu’r rhai mwyaf bregus a chadw cymunedau gyda’i gilydd, drwy eu dangos mewn oriel bortreadau ar-lein.

Gwahoddwyd Aelodau o’r Senedd i enwebu hyd at dri o arwyr o’u hetholaeth.

Wrth siarad yn y Senedd, dywedodd Rhun ap Iorwerth:

“Roeddwn yn falch o allu enwebu arwyr covid o Ynys Môn ar gyfer oriel Senedd Cymru. Yr her fwyaf oedd ceisio dewis tri allan o gynifer sydd wedi rhoi o’u hamser a’u hegni i helpu eraill yn ystod y cyfnod hwn, felly rhoddais y penderfyniad yn nwylo pobl Ynys Môn a gwahoddais enwebiadau gan etholwyr drwy fy nhudalen facebook.

“Roedd yr ymateb a gefais yn anhygoel, gyda dros 40 o enwebiadau ar gyfer unigolion, grwpiau a busnesau ar draws yr ynys. Ac roedd mor galonogol clywed y gwahanol straeon am yr holl waith gwych sydd wedi’i wneud. Mae cymaint o bobl wedi mynd y tu hwnt i’r galw yn eu swyddi, neu wedi gwirfoddoli eu hamser, ond mae pob un wedi chwarae eu rhan i greu ysbryd cymunedol go iawn. Ac mae’n amlwg bod eu hymdrechion yn wirioneddol cael eu gwerthfawrogi.

“Dyna pam y ceisiais gyfle nid yn unig i enwebu’r tri gyda’r enwebiadau mwyaf ar gyfer oriel ar-lein y Senedd, ond hefyd i geisio dweud diolch i bawb a enwebwyd. O’r octogenarian sydd yn dal i wirfoddoli gyda’r banc bwyd i’r plentyn 7 mlwydd oed a gerddodd dros 87,000 o gamau i godi arian. O unigolion a drefnodd mygydau, diffynyddion clust a mwy, i’r postmon yn Llanddeusant a wnaeth ei rownd mewn gwisg ffansi i godi calon plant (ac oedolion!) yn ystod y cyfyngiadau symud.

“Diolch yn fawr iawn i chi i gyd, a’r holl arwyr covid eraill ar draws yr ynys. Mae eich gwaith wir yn cael ei werthfawrogi.”

Y tri a dderbyniodd y nifer fwyaf o enwebiadau o Ynys Môn oedd Chippy Chippy (ar gyfer adeiladu gwir ysbryd cymunedol tra’n darparu prydau am ddim i blant), Gwesty’r Gwalchmai (a oedd yn bwydo’r gweithgareddau bregus a threfnus i blant yn ogystal â sefydlu banc bwyd) a Caru Amlwch (am wneud yn siŵr nad oedd neb yn mynd heb yn ardal Amlwch).

Bydd y portreadau’n cael eu harddangos fel negeseuon cyfryngau cymdeithasol ar gyfrifon cyfryngau cymdeithasol ‘Ymweld â’r Senedd’ (Senedd Instagram, Senedd Facebook, Pierhead Twitter) rhwng mis Tachwedd a mis Rhagfyr 2020.

Mae Rhun hefyd wedi cynhyrchu fideo y mae wedi’i rannu ar ei dudalennau cyfryngau cymdeithasol i ddiolch yn fawr i’n harwyr covid lleol, y gellir eu gweld yma: https://www.facebook.com/rhunynysmon/videos/3569992173065869

Rhun ap Iorwerth yn sicrhau ymrwymiad Llywodraeth Cymru i helpu i adfer Pont Rheilffordd Llangefni

?Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gefnogi’r ymgyrch i gael Pont Rheilffordd Llangefni ei ail-osod gan Network Rail, a fyddai’n hwb sylweddol i’r cynlluniau i ailagor y rheilffordd o Amlwch i Gaerwen ac ailgysylltu â’r brif linell yn y dyfodol.

?Gwyliwch y fideo isod am ragor o fanylion.

Mae Rhun ap Iorwerth yn galw am ddadl ar ddeddfwriaeth diogelu da byw

Rwy’n llwyr gefnogi galwadau am ddeddfwriaeth newydd sy’n rhoi mwy o amddiffyniad i dda byw.

Mae angen mwy o bwerau ar yr heddlu i ymateb i ymosodiadau yn fwy effeithiol a heddiw gofynnais i Lywodraeth Cymru neilltuo amser ar gyfer dadl ar y mater pwysig hwn.

Rhun ap Iorwerth yn croesawu datganoli pwerau treth incwm

Dyma foment hanesyddol i’n Senedd ni. Bydd pobl Cymru yn gallu gweld mewn termau real, ar ei slipiau cyflog, pwysigrwydd Y Senedd a Llywodraeth Cymru o hyn ymlaen, a gweld sut mae’r sefydliadau hynny’n effeithio’n uniongyrchol ar ein bywydau pob dydd.

Rydyn ni fel Senedd yn cryfhau, a thrwy hynny rydyn ni fel cenedl yn cryfhau ag yn aeddfedu. Gadewch i ni ddefnyddio’r pwerau newydd yma i greu system dreth fydd yn decach i bobl Cymru na’r un sydd gennym ar hyn o bryd.

Fideo: Cwestiwn i Llywodraeth Cymru ynglŷn â Pont Rheilffyrdd Llangefni

Wrth i Llywodraeth Cymru gadarnhau heddiw bod Gorsaf Drenau Llangefni wedi symud cam arall yn agosach at ail-agor yn y dyfodol, mae hi rŵan yn bwysicach byth bod pont newydd yn cael ei ailosod dros Ffordd Glanhwfa i gwblhau’r llinell, er mwyn agor yr opsiynau i ni weld y llinell yn ail-agor yn y dyfodol.

Byddai datblygiad o’r fath yn fuddiol iawn i economi Ynys Môn. Heddiw, yn y Siambr, cefais gyfle i godi’r mater o ailosod pont newydd, a gofynnais i Llywodraeth Cymru ymrwymo i helpu’r prosiect i symud yn ei flaen.

Dylai Grid a PINS barchu’r farn ddemocrataidd yng Nghymru pan yn ystyried peilonau, medd AC

Gofynnodd Aelod Cynulliad Ynys Môn Rhun ap Iorwerth i’r Prif Weinidog i wneud yn siwr fod y rhai sy’n edrych ar gynlluniau Grid ar gyfer peilonau newydd ar draws Ynys Môn yn ymwybodol o’r bleidlais yn y Senedd o blaid tanddaearu ceblau.

Yn ystod Cwestiynau i’r Prif Weinidog yr wythnos hon, galwodd AC Môn ar Lywodraeth Cymru i wthio i’r eithaf ar yr Arolygiaeth Gynllunio Prydeinig i sylweddoli bod yn rhaid iddyn nhw barchu barn ddemocrataidd y Senedd.

Dywedodd hefyd y byddai hi’n sgandal pe na bai arian mae’r Grid wedi awgrymu allai fynd tuag at dwnel i gario ceblau ddim yn cael ei wario ar bont newydd yn lle hynny, gyda gweddill yr arian yn cael ei fuddsoddi mewn tanddaearu.

Yn siarad yn y siambr, dywedodd Mr ap Iorwerth:

“Mae’r cais gorchymyn caniatâd datblygu wedi cael ei gyflwyno bellach, ond dydy’r grid, ers dechrau’r broses yma, ddim wedi ildio dim i’r pwysau gen i, yr Aelod Seneddol, y cyngor nac, yn bwysicach fyth, unfrydiaeth trigolion Ynys Môn y dylid tanddaearu.

“A chofiwch fod y Senedd yma wedi pleidleisio dros yr egwyddor o ffafrio tanddaearu yn hytrach na gosod peilonau newydd. Mi ddywedasoch chi ym mis Ionawr y buasech chi’n atgoffa’r grid o hynny, felly, beth oedd eu hymateb nhw? Ond, yn bwysicach na hynny, a wnewch chi roi ymrwymiad i wthio i’r eithaf o Lywodraeth Cymru ar yr Arolygiaeth Gynllunio Prydeinig i sylweddoli bod barn ddemocrataidd y Senedd hon wedi cael ei datgan a bod yn rhaid iddyn nhw barchu hynny?

“Ymhellach, efo’r awgrym bellach y gallai twnnel i roi ceblau o dan y Fenai gostio cymaint â £300 miliwn, onid ydy hi’n amlwg y byddai hi’n sgandal pe na bai’r arian, neu ran ohono, yn cael ei wario ar bont newydd i gario gwifrau a cherbydau, efo gweddill yr arian yn cael ei fuddsoddi mewn tanddaearu?”

Dywedodd y Prif Weinidog eu bod wedi gwneud y pwynt hwn i’r grid ei bod yn bwysig dros ben i ystyried pont newydd ar draws y Fenai er mwyn sicrhau bod y ceblau’n gallu mynd ar y bont honno, a hefyd bydd y grid yn gwybod beth yw barn y Cynulliad hwn a barn pobl leol. Ond dywedodd Rhun ap Iorwerth ein bod ni angen datganiad clir i’r perwyl hwnnw.

GALL Cymru – Rhun ap Iorwerth yn lansio fideo Ymgyrch Arweinyddol

Mae ymgeisydd arweinyddol Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth AC wedi lansio ei fideo ymgyrch swyddogol yr wythnos hon, sy’n amlinellu ei weledigaeth ar gyfer dyfodol y blaid a Chymru a sut y byddai’n arwain y genedl yn ei blaen pe bai’n cael ei ethol yn arweinydd Plaid Cymru.

Yn y fideo, mae Mr ap Iorwerth yn siarad am sut y byddai’n edrych at adeiladu’r genedl, a gwneud Plaid Cymru yn gartref naturiol i’r rhai sydd eisiau datblygu Cymru i fod yn genedl annibynnol.

Dywed Mr ap Iorwerth:

“Mae ras arweinyddol Plaid yn ymwneud â Chymru, a dyfodol ein gwlad. Rydw i’n sefyll gan fy mod yn gwybod fod Cymru a’i phobl yn cael eu dal yn ôl rhag cyrraedd eu potensial, a rydw i am rannu ac arwain gweledigaeth newydd am be all Cymru fod.

“Rydw i eisiau bod yn arweinydd Plaid Cymru er mwyn cael y maen i’r wal a dechrau’r broses o adeiladu Cymru. Rydw i eisiau i bawb sydd eisiau canolbwyntio ar y rhaglen yna i adeiladu cenedl i deimlo fod ganddynt gartref ym Mhlaid Cymru. Eich plaid chi ydym ni, beth bynnag eich cefndir, o ble bynnag yr ydych yn dod, os cawsoch eich geni a’ch magu yng Nghymru neu eich bod wedi symud yma ddoe.

“Mae’n rhaid i ni edrych ymlaen, dim yn ôl, a bod yn glir am yr hyn y gallwn fod. GALL Cymru. Yr unig beth sy’n rhaid i ni wneud ydy dechrau credu hynny. Mae Plaid Cyru’n credu hynny. Dwi’n credu hynny. Ond mae’n rhaid i ni allu cyfathrenu’r weledigaeth yna, ac mae ar y wlad angen arweinyddiaeth.

“Dwi’n sefyll i fod yn arweinydd Plaid Cymru am fy mod eisiau arain Cymru tuag at ddyfodol mwy teg, ffyniannus a chyffroes, felly plis, cefnogwch fy ymgyrch a gadewch i ni rannu’r stori o beth all Cymru fod.”

Gellir gwylio’r fideo ar YouTube: https://www.youtube.com/watch?v=ahgiWcbMGEY&t=48s neu ar dudalennau facebook a twitter Rhun.

Fideo: Diogelu dyfodol y Prince Madog: Yr achos dros gael llong ymchwil forwrol genedlaethol i Gymru

Fy Nadl Fer yn y Senedd yr wythnos hon: Diogelu dyfodol y Prince Madog: Yr achos dros gael llong ymchwil forwrol genedlaethol i Gymru

Mae ardal forol Cymru’n cynnwys adnoddau naturiol gwerthfawr ac amrywiol a all gynnig cyfleoedd economaidd a chymdeithasol sylweddol ac sy’n cyfrannu at les y genedl a lles cenedlaethau’r dyfodol. Ond, mewn difrif, dydym ni’n gwybod fawr ddim manylion am yr adnoddau yna. Mae’n rhyfeddol cyn lleied o’n gwely môr ni sydd wedi cael ei fapio o ystyried manylder mapio’r tir. Ac mae mapio o’r math yma’n flaenoriaeth ar lefel Undeb Ewropeaidd ers tro, ond nid oes yna gynllun wedi’i gydlynu ar gyfer y Deyrnas Unedig—dim cynllun ar gyfer Cymru. Mae’r broses o gasglu data wedi bod yn ad hoc. Nid ydy o wedi cael ei gydlynu’n iawn, ac mae’n rhaid i hynny newid. Ac, wrth gwrs, mae gennym ni’r adnodd sydd ei angen i wneud y gwaith: y Prince Madog.

Rhun yn defnyddio datganiad Cynulliad i ddymuno penblwydd hapus i ganolfan yng Nghaergybi sydd wedi rhoi Môn ar fap chwaraeon y byd

Defnyddiodd Rhun ddatganiad 90 eiliad yn y Cynulliad Cenedlaethol yr wythnos hon i ganmol gwaith Canolfan Codi Pwysau a Ffitrwydd Caergybi ac Ynys Môn.

Roedd Rhun wedi mynychu dathliadau’r Ganolfan yn 50 oed yng Ngwesty Bae Trearddur dros y penwythnos, a oedd hefyd yn gyfle i ddathlu llwyddiant y codwyr pwysau Gareth Evans, Hannah Powell ac erill, yn ogystal a thalu teyrnged i sefydlwr y Ganolfan a’r enillydd medal Cymanwlad, Bob Wrench.

Yr wythnos hon, gwnaeth Rhun ddatganiad yn y Senedd yn canmol gwaith y Ganolfan yn eu cymuned leol yn ogystal ag ar y llwyfan byd-eang. Dywedodd:

“Diolch am y cyfle i ddymuno pen-blwydd hapus i sefydliad sy’n gwneud cyfraniad enfawr at iechyd a ffitrwydd Ynys Môn, ac sydd hefyd, yn digwydd bod, yn ganolfan rhagoriaeth chwaraeon o safon fyd-eang.

“Un o uchafbwyntiau Gemau’r Gymanwlad eleni oedd perfformiad y codwr pwysau Gareth Evans a enillodd y fedal aur. Roedd ei gamp wrth godi pwysau yn aruthrol, ond yr un mor drawiadol oedd yr angerdd a ddangosodd wrth redeg at ei hyfforddwr, Ray Williams, i ddathlu. Roedd Ray ei hun wedi sylweddoli breuddwyd fel hyfforddwr, ond cyn hyfforddi, roedd ef ei hun wedi ennill aur i Gymru yng Ngemau 1986 yng Nghaeredin. Cyflwynwyd Ray i godi pwysau gan Bob Wrench, enillydd efydd yng Ngemau Christchurch yn 1974, a Bob oedd â’r weledigaeth o sefydlu Canolfan Godi Pwysau a Ffitrwydd Caergybi ac Ynys Môn 50 mlynedd yn ôl.

“Yn athro chwaraeon ysgol uwchradd, nid yn unig oedd o’n dalentog iawn wrth godi pwysau, ond hefyd gallai weld beth all codi pwysau ei gynnig i bobl ifanc yr ardal, na fyddai efallai wedi cael cyfleoedd tebyg fel arall. Roedd Ray a Gareth ymysg y miloedd i gael budd. I roi syniad i chi o lwyddiant HAWFC, mae Ray ei hun wedi hyfforddi codwyr pwysau i 97 o fedalau aur ieuenctid ac uwch ar lefelau Cymreig a rhyngwladol. Ond mae agwedd gymunedol y clwb yn un sydd yr un mor bwysig. Mae hwn yn ganolfan gyda’i drysau ar agor i BAWB.

“Felly, Pen-blwydd Hapus a hir oes i’r sefydliad yma sydd wedi gwneud cymaint i’w gymuned a, thrwy ragoriaeth, wedi gwneud cymaint i helpu rhoi Caergybi a Môn ar fap chwaraeon y byd.”