MAE ANGEN MWY O GYMORTH I BOBL SY’N BYW MEWN TLODI TANWYDD

Rhun ap Iorwerth yn galw am gamau pellach i helpu’r rhai sydd fwyaf agored i niwed gyda chostau tanwydd ac ynni’n codi

Heddiw yn y Senedd, gofynnodd Rhun ap Iorwerth, Aelod o’r Senedd dros Ynys Môn, i Weinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol Llywodraeth Cymru pa gamau sy’n cael eu hystyried i ddarparu cymorth ychwanegol i’r rhai sy’n byw mewn tlodi tanwydd cyn y cynnydd a ragwelir yn y cap ar brisiau ynni yn hwyrach ymlaen eleni.

Gall hyd at 45% o holl aelwydydd Cymru fod mewn tlodi tanwydd yn dilyn y cynnydd yn y cap pris ym mis Ebrill 2022, yn ôl mesur tlodi tanwydd Cymru. Roedd yr amcangyfrifon diwethaf a gasglwyd ar gyfer Ynys Môn yn 2018 yn amcangyfrif bod cyfradd tlodi tanwydd yn uwch na chyfartaledd cenedlaethol Cymru ar y pryd.

Yn ei gwestiwn i’r Gweinidog, dywedodd Rhun ap Iorwerth AS:

“Mae lefel y bobl sydd mewn tlodi tanwydd yn syfrdanol, a fe welwn sut mae costau ynni a thanwydd fel rhan o’r argyfwng costau byw yn ehangach yn dyfnhau o ddydd i ddydd, bron, a’r caledi ariannol y mae rhai o’n hetholwyr mwyaf agored i niwed yn ei brofi.

“Mae disgwyl i brisiau tanwydd godi eto, wrth i’r cap godi ymhellach yn ddiweddarach eleni. Fy nghwestiwn i yw: pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd yn awr i ystyried yr opsiynau ar gyfer darparu cymorth ychwanegol i’n hetholwyr mwyaf agored i niwed pan fydd yr ergyd drymach honno’n taro?”

Mewn ymateb, cytunodd Jane Hutt, y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol â’r sylwadau, ac wrth nodi rhai o’r mesurau pellach sy’n cael eu cymryd gan Lywodraeth Cymru – gan gynnwys dechrau talu’r rownd nesaf o’r cynllun cymorth tanwydd yn gynharach, galwodd hefyd ar Lywodraeth y DU i fynd i’r afael â’r cynnydd mewn prisiau ynni.

Cyfeiriodd Mr ap Iorwerth hefyd at yr effaith y mae costau byw yn ei gael ar Ynys Môn a’r cynnydd yn y galw am fanciau bwyd. Llongyfarchodd y bartneriaeth newydd rhwng Cyngor Môn ac Elfennau Gwyllt a gyhoeddwyd yr wythnos hon, sef prosiect lleol arloesol i gyflenwi cynnyrch ffres i fanciau bwyd Ynys Môn.

Ychwanegodd Rhun ap Iorwerth AS:

“Mae’r gwaith sy’n cael ei wneud yn lleol i gefnogi’r rhai sydd â’r angen mwyaf ac sy’n teimlo effaith yr argyfwng costau byw yn cael ei werthfawrogi gymaint – ond mae’n gywilyddus bod angen y mesurau hyn arnom.

“Mae llawer mwy y gellir ei wneud i fynd i’r afael â’r argyfwng hwn. Rhaid i Lywodraeth y DU hefyd gymryd camau i ostwng y cap pris ar gyfer aelwydydd incwm îs er mwyn sicrhau eu bod yn gallu cwrdd â chostau eu hanghenion ynni ymhlith mesurau hanfodol eraill.”

DIWEDD

“Mae’n warthus ei bod wedi cymryd cyhyd i ddechrau gweld pethau o safbwynt menywod mewn gofal iechyd” meddai AS Ynys Môn

Rhun ap Iorwerth yn croesawu cynllun deng mlynedd iechyd menywod Llywodraeth Cymru ond yn mynnu bod rhaid iddo ddod a newid gwirioneddol

Yn y Senedd ar Ddydd Mawrth, 5ed o Orffennaf 2022, fe ymatebodd Rhun ap Iorwerth AS i ddatganiad ansawdd y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan, ar iechyd menywod a merched. Yn y datganiad hwnnw, cyfeiriodd Llywodraeth Cymru hefyd at gynlluniau i gyhoeddi cynllun iechyd menywod deng mlynedd yn yr hydref. Daw hyn ddeufis ar ôl i Blaid Cymru gyflwyno cynnig i’r Senedd yn pwysleisio pwysigrwydd mynd i’r afael â materion yn ymwneud â iechyd menywod a merched.

Tra’n croesawu’r datganiad, gofynnodd Rhun ap Iorwerth, Aelod Seneddol Ynys Môn am sicrwydd y byddai adnoddau digonol yn cael eu neilltuo i weithredu’r cynllun, gan bwysleisio’r angen iddo wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau menywod a merched.

Mae’r “British Heart Foundation” yn amcangyfrif y gallai marwolaethau 8,000 o fenywod dros gyfnod o 10 mlynedd fod wedi cael eu hatal pe baent wedi derbyn gofal cardiaidd oedd yn addas i’w hanghenion.

Yn ei ymateb i’r cynlluniau, dywedodd Rhun ap Iorwerth, Aelod o’r Senedd dros Ynys Môn:

“Mae’n syfrdanol ac yn warthus, a bod yn onest, ei bod wedi cymryd cyhyd i ni ddechrau gweld pethau o safbwynt menywod a merched mewn gofal iechyd.”

Roedd Mr ap Iorwerth, sy’n aelod o Bwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd a llefarydd Plaid Cymru ar Iechyd a Gofal, nid yn unig yn cwestiynu sut y byddai’r cynllun yn cael ei ariannu ond hefyd sut y byddai cynnydd yn cael ei fesur, gan bwysleisio’r angen i sicrhau newid gwirioneddol yn y gofal y mae merched yn ei dderbyn.

Ychwanegodd Rhun ap Iorwerth AS:

“Mae’n hollbwysig i ferched, ac i ninnau fel Seneddwyr, weld a theimlo bod y cynllun yma sydd wedi’i gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru yn gwneud gwahaniaeth.

“Gofynnais i’r Gweinidog felly sut y bydd merched yn gallu gweld a phrofi bod newid wedi bod a bod hynny’n cael effaith amlwg ar y gofal y maent yn ei dderbyn o fewn ein gwasanaethau iechyd a gofal.”

Cyhoeddodd y Gweinidog, Eluned Morgan AS, y byddai’n rhaid i fyrddau iechyd fodloni’r cynllun o fewn eu hadnoddau eu hunain ond bod £160,000 o gyllid ychwanegol wedi’i neilltuo wrth ei ddatblygu.

DIWEDD

Rhun yn gofyn am gymorth Llywodraeth i ddelio gyda effeithiau storm Emma ar Gaergybi

Yn dilyn effaith dinistriol storm Emma ar farina Caergybi yr wythnos diwethaf, fe gyflwynodd Rhun ap Iorwerth AM gwestiwn brys i Lywodraeth Cymru a gafodd ei ateb yn y Cynulliad heddiw.

Gofynnodd Aelod Cynulliad Ynys Môn i Lywodraeth Cymru am gymorth i’r busnesau gafodd eu heffeithio, am sicrwydd fod popeth yn cael ei wneud yn y tymor byr i gyfyngu ar y difrod amgylcheddol, ac yn y tymor hir am ymchwil i fewn i’r angen posibl am amddiffynfeydd môr i’r darn yna o’r harbwr yng Nghaergybi.

Yn siarad yn y Sened heddiw, dywedodd Rhun ap Iorwerth:

“Mi roeddwn i ym marina Caergybi ddydd Gwener, yn syth ar ôl y storm, ac mi roedd yr olygfa—llawer ohonoch chi wedi ei gweld hi ar y teledu ac ati—yn un wirioneddol dorcalonnus: dinistr llwyr yno. Wrth gwrs, mae yna lawer o gychod pleser personol yno, a rheini’n bwysig yn economaidd i’r ardal, ond buodd yna bymtheg o gychod masnachol yn y marina hefyd, a llawer o rheini wedi cael eu dinistrio neu eu difrodi yn rhannol. Nawr, mae’r holl fusnesau sy’n defnyddio’r marina yn rhan bwysig o economi forwrol Môn, ac o ystyried y pwyslais rŵan, o’r diwedd, diolch byth, ar ddatblygu strategaeth forwrol i Gymru, mi hoffwn i wybod pa fath o becyn cymorth gall y Llywodraeth ei roi at ei gilydd i gefnogi y busnesau yma rŵan yn eu hawr o angen yn y byr dymor.

“Yn ail, yn edrych y tu hwnt i’r tymor byr, a gaf i ymrwymiad y gwnaiff y Llywodraeth helpu i ariannu gwaith ymchwil i’r angen posib am amddiffynfa i’r rhan yma o’r harbwr yng Nghaergybi yn y dyfodol ac a ydych chi’n cytuno bod yna rôl bwysig iawn i adran astudiaethau eigion Prifysgol Bangor yn y gwaith yma, yn cynnwys defnydd o’u llong ymchwil, y Prince Madog?

“Yn olaf wedyn—ac yn allweddol—rydych chi wedi cyfeirio ato fo, yn y byr dymor, rydym ni yn wynebu problemau amgylcheddol difrifol yn sgil y storm. Rydw i’n deall nad oedd yna ormod o danwydd yn y llongau; bod y rhan fwyaf o hwnnw wedi cael ei gasglu, ond yn sicr rydym ni’n wynebu bygythiad mawr o ran llygredd yn dod o weddillion polysterin y pontŵns yn y marina. Rŵan, bum niwrnod ymlaen, mi hoffwn i ddiweddariad ynglŷn â’r hyn sydd yn cael ei wneud i ddelio â’r llygredd yna a’r sicrwydd y bydd beth bynnag sydd ei angen yn cael ei wneud i sicrhau nad ydym ni’n wynebu mwy o’r dinistr amgylcheddol yma rydym ni wedi’i weld yn barod.”

Ychwanegodd yn ddiweddarach:

“Roeddwn yn falch o glywed yr Ysgrifennydd Cabinet yn dweud ei bod yn hapus i ystyried rhoi cymorth ariannol posib ar gyfer atgyweirio isadeiledd ac edrychaf ymlaen i gael diweddariad pellach ganddi ar ô lei hymweliad i Ynys Môn yfory.”

Dylai’r cysylltiad trydan barchu Cenedlaethau’r Dyfodol, medd AC

Bu Aelod Cynulliad Ynys Môn Rhun ap Iorwerth yn holi Llywodraeth Cymru am pa rôl allai Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol ei chwarae mewn datblygiadau isadeiledd trydan yn Ynys Môn.

Dywedodd Rhun mai cysylltiad o dan y môr neu’r ddaear, yn hytrach na pheilonau newydd, fyddai’n gwarchod buddiannau pobl Môn rwan a chenedlaethau’r dyfodol orau, a dyma beth mae pobl Môn yn ofyn amdano. Nododd fod gennym Ddedf Cenedlaethau’r Dyfodol yng Nghymru a dylai’r cysylltiad trydan fod yn unol ag egwyddorion y ddeddf.

Yn siarad yn y siambr heddiw, dywedodd Rhun ap Iorwerth:

“Mae Grid Cenedlaethol yn bwriadu codi cysylltiad trydan newydd ar draws Ynys Môn efo’r gost yn brif – os nad yr unig – factor mewn penderfynu sut gysylltiad i’w gael, a beth maen nhw am wneud ydy mynd am yr opsiwn rhataf, sef peilonau uwchben y ddaear yn hytrach na mynd o dan y ddaear neu o dan y môr sef beth rydym ni yn Ynys Môn yn gofyn amdano fo.

“Mynd o dan y môr neu o dan y tir fyddai’n gwarchod buddiannau Ynys Môn rŵan, a chenedlaethau’r dyfodol yn Ynys Môn, ac mae ganddom ni Ddeddf Cenedlaethau’r Dyfodol yma yng Nghymru.

“Rŵan, chi ydy’r Ysgrifennydd Cabinet sydd â chyfrifoldeb dros weithrediad y Ddeddf honno. A ydych chi’n barod i roi ymrwymiad i weithio efo fi ac eraill fel ymgyrchwyr yn erbyn peilonau i wthio ar Grid, ar Ofgem, ar Lywodraeth Prydain – fydd yn gwneud y penderfyniad yn y pen draw – i sicrhau bod y cynllun cysylltu yma ddim ond yn gallu digwydd yn unol ag egwyddorion y darn pwysig yna o ddeddfwriaeth sydd wedi cael ei basio yn y lle yma?”

Yn ei ymateb, dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet:

“Rydw i’n gwybod am y gwaith y mae e wedi’i wneud yng nghyd-destun yr ynys ar y pwnc yma. Rydym ni fel Llywodraeth yn gweithio’n agosach gyda’r cyngor lleol ar y pethau mae ef wedi cyfeirio atyn nhw.

“Roeddwn i’n falch i weld y datganiad gan National Grid yn dweud

‘While these do not specifically place requirements on the National Grid or the development of new transmission lines, National Grid believes that the aims of the Act are important and deserve consideration.’

“Felly, mae yna beth gydnabyddiaeth gan y Grid Cenedlaethol o effaith y Ddeddf.

“Rwy’n clywed yr hyn y mae’r Aelod yn ei ddweud o ran ceblau dan y ddaear neu dan y môr, a safbwynt gychwynnol Llywodraeth Cymru yw mai tanddaearu yw’r dewis a ffefrir, ond bydd angen cael trafodaethau, abydd yr awdurdod lleol a Llywodraeth Cymru yn cymryd rhan mewn ynddynt wrth inni geisio gwneud yn fawr o’r manteision i’r ynys tra’n lliniaru effeithiau’r datblygiadau hyn.”

Yn siarad wedi’r cyfarfod yn y Senedd, ychwanegodd Rhun ap Iorwerth:

“Byddaf yn cyfarfod gyda Grid Cenedlaethol yn fuan i drafod y mater yma ymhwllach gyda nhw. Er nad ydynt hwy’n rhwym i’r Ddeddf, Mae’n bwysig fod egwyddorion y Ddeddf yn cael eu parchu.”

Rhaid amddiffyn rhaglenni i gefnogi pobl ddigartref ar Ynys Môn, medd AC

Yr wythnos hon, gofynnodd Aelod Cynulliad Ynys Môn, Rhun ap Iorwerth i Lywodraeth Cymru gynnal y gefnogaeth ariannol i fudiadau sy’n delio ac yn mynd i’r afael â digartrefedd a dywedodd na fyddai gwneud hynny yn rhoi pwysau ar rai o’r bobl fwyaf bregus yn ein cymdeithas.

Yn ystod Cwestiynau Gweinidogol yn y Cynulliad ddoe, canmolodd Rhun waith rhagorol sefydliadau ar Ynys Môn megis The Wallich, Digartref Môn a Gorwel.

Roedd hyn yn dilyn ymweliad Rhun â Phrosiect Housing First Wallich yn Llangefni yr wythnos diwethaf, lle dysgodd fwy am y gwaith y maen nhw’n ei wneud a phwysigrwydd y rhaglen Cefnogi Pobl.

Mae Housing First Môn yn helpu pobl ddigartref i ddod o hyd i gartref parhaol yn gyflym, gan ddarparu cefnogaeth parhaus i’w helpu i ymgartrefu a chynnal eu cartref newydd. Mae’r prosiect yn darparu pecyn cymorth dwys i fynd i’r afael â materion mewn modd creadigol ac arloesol.

Dywedodd Shian Thomas, Rheolwr Prosiect Housing First Anglesey yn The Wallich:

“Bu’n bleser siarad â Rhun ap Iorwerth AC am ein gwaith ar Ynys Môn a manteision Housing First fel model o gefnogaeth i’r rhai sy’n dioddef o ddigartrefedd.

“Housing First Môn yw’r unig brosiect Housing First yng Nghymru ac rydym yn falch o weithio gyda’r awdurdod lleol a landlordiaid ar draws yr ynys i leddfu digartrefedd a darparu tai i rai o’r rhai mwyaf bregus yn ein cymdeithas.

“Mae gwasanaethau fel rhai ni’n allweddol i helpu i leddfu ac atal digartrefedd a sicrhau bod pobl yn derbyn y gefnogaeth iawn tra’n byw’n annibynnol.”

Meddai AC Ynys Môn Rhun ap Iorwerth:

“Cefais gyfarfod da gyda thîm The Wallich yn Llangefni am eu gwaith yn mynd i’r afael â digartrefedd.

“Rhaid i Lywodraeth Cymru amddiffyn y rhaglen Cefnogi Pobl. Ariennir llawer o brosiectau Wallich drwy’r rhaglen, ac felly roeddwn yn falch o allu codi’r mater yn siambr y Cynulliad yr wythnos hon.”

Yn ei gwestiwn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau Carl Sargeant, gofynnodd Rhun ap Iorwerth:

“Rydw i wedi cyfarfod, y mis yma, efo staff a rheolwyr rhai o’r cyrff ac elusennau sy’n gwneud gwaith rhagorol yn Ynys Môn yn mynd i’r afael ac yn delio â digartrefedd, gan gynnwys y Wallich a Digartref Môn a Gorwel hefyd.

“Yn anffodus, mae gofyn iddyn nhw wneud mwy a mwy efo llai a llai o adnoddau yn cyrraedd at y pwynt rŵan lle mae’n gwbl amhosib i’w gyflawni, ac mae bygythiad o doriad i gyllid Cefnogi Pobl gan Lywodraeth Cymru yn berig o ddadwneud a thanseilio llawer o’r gwaith da sydd yn ac wedi bod yn cael ei wneud yn Ynys Môn a rhannau eraill o Gymru.

“A ydy’r Gweinidog yn cydnabod hynny ac yn derbyn os na wnaiff Llywodraeth Cymru gynnal y gefnogaeth ariannol i’r cyrff yma, y byddan nhw’n gwneud cam gwag ac yn gwasgu ar rai o’r bobl fwyaf bregus yn ein cymdeithas ni?”

Yn anffodus, ni wnaeth Ysgrifennydd y Cabinet warantu’r rhaglen Cefnogi Pobl ond dywedodd ei fod wedi gwrando ar bryderon cyn y cyhoeddiad ar y gyllideb ddrafft ar Hydref 3ydd.

AC yn gwneud achos dros gryfhau darpariaeth Band eang yn Ynys Môn

Yr wythnos diwethaf, cynhaliodd Aelod Cynulliad Ynys Môn, Rhun ap Iorwerth, ymweliad gan y Gwenidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, sef y Gwenidog yn Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am fand eang, i Ynys Môn.

Yn ystod yr ymweliad, aeth a hi i Barc Diwydianol Mona ac i Llangoed, fel ei bod yn cael cipolwg o’r problemau mae busnesau, unigolion a chymunedau ar draws yr ynys yn gorfod eu gwynebu.

Cyn yr ymweliad, bu Rhun yn gwahodd etholwyr i rannu eu profiad o fand eang gydag ef, ac roedd yn gallu casglu gwybodaeth at ei gilydd i gyflwyno i’r Gwenidog
Dywedodd AC Môn, Rhun ap Iorwerth:

“Dydy cysylltiad data cyflym ddim yn ‘foethusrwydd’ y dyddiau hyn. O addysg i delefeddygaeth, o fusnes i hamdden, mae ein hangen am gcysylltiad band eang yn ran annatod o’n bywydau bob dydd, a ni ddylai’r ffaith ein bod yn wledig fod yn reswm dros beidio cael y cysylltiad hwn. Mae ardaloedd gwledig yn disgwyl, ac yn derbyn, dŵr a thrydan. Yn y 21ain ganrif, dylem gael disgwyliadau tebyg o ran cysylltedd data. Efallai bod Ynys Môn yn wledig, ond nid yw’n anghysbell!

“Mi hoffwn i weld siop-un-stop ar gyfer cymorth ymarferol a chefnogaeth i’r rhai sydd â chysylltiad anerbyniol. Ar hyn o bryd, os oes atebion amgen ar gael, anaml mae pobl yn ymwybodol o’r atebion rheini, nac yn gwybod i bwy i ofyn y cwestiwn hyd yn oed, ac nid yw’n amlwg pa gymorth all fod ar gael.

“Rwyf hefyd eisiau gweld eglurhad i’r rhai sy’n methu cael amserlen glir ar gyfer cysylltu eu heiddo drwy raglen Cyflymu Cymru (neu debyg) – yn cynnwys datganiad glir os NAD yw’n bosib i gysylltu, ac am gefnogaeth ariannol wedi’i anelu at y rheini na all gael cysylltiad ‘traddodiadol’, gan gynnwys datblygiadau ar lefel cymuned gyfan.

“Yn ystod ei hymweliad, llwyddais i wneud yr achos gyda’r Gweinidog i gryfhau band eang ar gyfer pobl Môn. Cytunodd y Gwenidog i edrych ar beth all gael ei wneud – er enghraifft, cytunwyd y byddwn yn gallu cynnal Fforwm Busnes gyda thîm cysylltiad y llywodraeth, i sicrhau bod busnesau lleol yn gallu darganfod beth all Llywodraeth Cymru wneud i’w helpu.”

Cynulliad Cenedlaethol yn cefnogi ffafrio ceblau dan ddaear yn hytrach na pheilonau

Mae’r Cynulliad Cenedlaethol wedi galw ar Grid Cenedlaethol i ffafrio ceblau dan ddaear mewn datblygiadau newydd i drosglwyddo trydan yng Nghymru, fel y cynllun ar gyfer Ynys Môn, o ganlyniad i gynnig a gyflwynwyd gan AC Ynys Môn Rhun ap Iorwerth.
 
Yn ystod y ddadl wedi’i harwain gan Blaid Cymru, siaradodd Rhun am y gwrthwynebdiad ar Ynys Môn i gynlluniau Grid Cenedlaethol i adeiladu rhes newydd o beilonau ar draw yr ynys a’r ffafriaeth tuag at atebion amgen a fyddai’n cael llai o effaith weledol.

Yn dilyn y ddadl, pleidleisiodd Aelodau Cynulliad yn unfrydol o blaid ffafrio ceblau o dan y ddaear neu ddewisiadau amgen yn hytrach na pheilonau trydan.
 
Yn siarad yn ystod y ddadl yn y Senedd heddiw, dywedodd Rhun ap Iorwerth:
 
“Cost sydd wrth wraidd cynlluniau y Grid ym Môn. Peilonau ydy’r cyswllt rhataf. Mae’r gost byr-dymor i’r Grid yn is nag opsiynau eraill. Ond beth am y gost o osod peilonau i bobl Môn? – ar werth eu heiddo nhw, i fusnesau, i dwristiaeth, heb sôn, wrth gwrs, am yr effaith ar safon byw?

“Yn hytrach na rhoi’r pwysau ariannol ar bobl Môn, mi ddylai’r gost gael ei rhannu dros holl ddefnyddwyr ynni. Mae grid wedi cytuno i wneud hynny mewn rhannau eraill o’r DG.”
 
Yn siarad wedi’r ddadl, dywedodd Mr ap Iorwerth:
 
“Heddiw fe wnaethom ni ofyn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ddweud ein bod ni’n credu mai tanddaearu ddylai fod y norm yma yng Nghymru – ym mhrosiect cysylltu gogledd Cymru, ar draws Ynys Môn a’r tir mawr, a phob prosiect arall.
 
“Rydw i’n falch o fod wedi derbyn cefnogaeth y mwyafrif o Aelodau Cynulliad, a Llywodraeth Cymru, i ffafrio ceblau dan ddaear.
 
“Er fy mod yn siomedig bod y llywodraeth wedi cyflwyno gwelliant yn gwanhau’r cynnig gwreiddiol rhywfaint – a bod aelod Ukip gogledd Cymru wedi siarad yn frwd o blaid peilonau! – mae’r neges yn dal yn un gref. Mae’n rhaid i’r Grid rwan ystyried fod cynrychiolwyr democrataidd Cymru wedi dweud y dylid rhoi’r gorau i’r chwilio dim ond am yr ateb rhataf.
 
“Bydd pleidlais heddiw yn anfon neges gref i Grid Cenedlaethol fod angen rhoi mwy o ystyriaeth i ddewisiadau amgen i beilonau, yn ogystal â neges gref i bobl Môn fod y Cynulliad yn eu cefnogi ar y pwnc yma.”

Dweud eich dweud ar newid ffiniau

Wrth i’r argymhellion ffiniau newydd gael eu cyhoeddi heddiw, mae Rhun ap Iorwerth wedi galw ar i Ynys Môn gael ei thrin fel achos arbennig.

Mae Aelod Cynulliad Ynys Môn Rhun ap Iorwerth yn annog trigolion Ynys Môn i ddweud eu dweud ar gynigion y Comisiwn Ffiniau ar gyfer etholaethau newydd San Steffan.

Byddai’r cynigion a gyhoeddwyd heddiw, yn gweld Ynys Môn yn diflannu fel etholaeth seneddol, ac yn hytrach yn ymuno gyda rhannau o beth sy’n Arfon rwan.

Ni fyddai’r newidiadau yn effeithio ar ffiniau etholaethau’r Cynulliad.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth:

“Mae ynysoedd eraill wedi aros fel ag y maent – cafodd Ynys Wyth ac Ynysoedd yr Alban eu heithrio o’r newidiadau. Rwy’n credu y dylai Ynys Môn hefyd cael ei thrin fel achos arbennig. Fel ynys, mae ffiniau Ynys Môn yn cael eu diffinio’n glir iawn, ac mae gwerth gwirioneddol mewn cadw’r cyswllt clir rhwng pobl yr ynys a’r rhai sy’n eu cynrychioli.

“Byddaf yn ysgrifennu at y Comisiwn Ffiniau fel rhan o’r ymgynghoriad, a byddwn yn annog pobl eraill ar Ynys Môn i leisio eu barn hefyd. Gallant wneud hynny naill ai drwy gysylltu â fy swyddfa neu drwy wefan y Comisiwn Ffiniau, http://www.bcw2018.org.uk/