RAF Fali yn anelu’n uchel gyda buddsoddiad rhedffordd newydd

Mae RAF y Fali yn edrych ymlaen at lawer mwy o flynyddoedd ym Môn ar ôl i’w redffordd fwyaf gael arwyneb newydd.

Bydd yn cymryd tua blwyddyn i’r gwaith gael ei gwblhau, ond eglurodd comander yr orsaf, y Capten Grŵp Brian Braid, wrth AC Ynys Môn Rhun ap Iorwerth ei fod yn fuddsoddiad hollbwysig yn nyfodol prif ganolfan hyfforddi peilotiaid jetiau cyflym y RAF.

Mae’r Capten Grŵp newydd Brian Braid, yn falch iawn i fod yn ôl yng nghanolfan y Llu Awyr Brenhinol yn y Fali, gan mai yma y cafodd ef ei hun ei hyfforddi fel peilot.

Bu ef a Mr ap oedd Iorwerth yn trafod nifer o faterion yn ymwneud â gwaith y Llu Awyr Brenhinol ar yr Ynys, gan gynnwys y rhedffordd newydd, y potensial i ddatblygu mwy o hediadau sifil, cyfleoedd cyflogaeth lleol ymysg y gweithlu sifil o 1000+, a phryderon ynglŷn â sŵn awyrennau.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth AC: “Mae RAF y Fali yn gyflogwr pwysig iawn ar yr ynys, ac mae’n rhan bwysig o’m gwaith fel cynrychiolydd yr ynys yn y Cynulliad i weithio’n agos gyda’r Capten Grŵp Braid a’i dîm i sicrhau bod y berthynas rhwng RAF y Fali a’r gymuned yn parhau i fod yn un da.

“Gellir datblygu’r ganolfan ar gyfer mwy o gyfleoedd hedfan sifil, yn ogystal â’r hediad i Gaerdydd, ac mae hynny’n gyffrous dros ben. Mae sŵn awyrennau yn fater sydd wedi’i ddwyn i’m sylw ar nifer o achlysuron, ac yr wyf wedi gohebu yn ddiweddar gyda’r Weinyddiaeth Amddiffyn a Llywodraeth Cymru ar y mater hwn.”

Ychwanegodd fod rhoi arwyneb newydd ar y rhedffordd yn hanfodol ar gyfer dyfodol y ganolfan, a’i fod yn gobeithio y bydd cyn lleied o darfu a phosib ar yr ardal gyfagos yn ystod y cyfnod adeiladu.