Mae angen mwy o gefnogaeth i Gynghorau i ddiogelu ysgolion gwledig: Ymgeisydd Arweinyddol Plaid Cymru

Mae AC Ynys Môn a’r ymgeisydd ar gyfer Arweinyddiaeth Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, wedi datgelu ei gynlluniau i helpu i gadw ysgolion wrth wraidd ein cymunedau.

Mae Mr ap Iorwerth yn dweud ei fod yn cydymdeimlo â chynghorau sy’n gweithio i gyfyngiadau gwario tynnach a thynnach, tra hefyd yn dod dan bwysau gan Lywodraeth Cymru o nifer o gyfeiriadau sy’n gwrthdaro a’i gilydd.

Dywedodd: “Mae Llywodraeth Cymru eisiau rhoi’r argraff ei bod yn amddiffyn ysgolion gwledig trwy ddyfeisio ‘cod’ newydd y bydd yn rhaid i gynghorau ei ddilyn cyn cau ysgolion. Rwy’n croesawu unrhyw ymdrechion gwirioneddol i helpu ysgolion llai, ond ar yr un pryd â’r cod hwn yn cael ei ddatblygu, mae polisi’r Llywodraeth yn annog symud tuag at ysgolion mwy, ac yn hollbwysig, mae cod sydd ddim yn cael ei gefnogi gydag adnoddau ychwanegol yn llen fwg.”

Ychwanegodd: “Fel Prif Weinidog, hoffwn gefnogi Cynghorau i geisio dod o hyd i ffyrdd newydd ac arloesol o gadw ysgolion yn agored yn eu cymunedau, ac yr wyf yn arbennig yn ffafrio creu ‘Ysgolion Ardal’ aml-safle, gydag un Pennaeth ac un Corff Llywodraethol yn rhannu costau a gosod nodau a safonau cyffredin ar draws y gwahanol safleoedd, ond yn hollbwysig yn caniatáu i fwy o gymunedau gadw eu hysgolion cynradd.

“Ni fydd y ‘fargen newydd’ hon ar gyfer clystyrau ysgolion gwledig yn atal pob ysgol rhag cau, ond bydd yn rhoi grym i Gynghorau i edrych am atebion arloesol, yn helpu i gyflwyno safonau mewn lleoliad ysgol fechan, a bydd adnoddau priodol yn golygu bod natur wledig yn cael ei groesawu yn hytrach na chael ei ystyried fel baich.”

Dywedodd Mr ap Iorwerth nad yw wedi gwrthwynebu’n llwyr yr egwyddor o uno ysgolion lle nad oes unrhyw opsiynau eraill, a bod achosion lle mae rhai ysgolion yn anghynaladwy yn addysgol ac yn ariannol oherwydd niferoedd isel o ddisgyblion. Fodd bynnag, mae am i gynghorau gael helpu i sicrhau mai cau ydy’r dewis olaf.