Mae angen mwy o gefnogaeth i Gynghorau i ddiogelu ysgolion gwledig: Ymgeisydd Arweinyddol Plaid Cymru

Mae AC Ynys Môn a’r ymgeisydd ar gyfer Arweinyddiaeth Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, wedi datgelu ei gynlluniau i helpu i gadw ysgolion wrth wraidd ein cymunedau.

Mae Mr ap Iorwerth yn dweud ei fod yn cydymdeimlo â chynghorau sy’n gweithio i gyfyngiadau gwario tynnach a thynnach, tra hefyd yn dod dan bwysau gan Lywodraeth Cymru o nifer o gyfeiriadau sy’n gwrthdaro a’i gilydd.

Dywedodd: “Mae Llywodraeth Cymru eisiau rhoi’r argraff ei bod yn amddiffyn ysgolion gwledig trwy ddyfeisio ‘cod’ newydd y bydd yn rhaid i gynghorau ei ddilyn cyn cau ysgolion. Rwy’n croesawu unrhyw ymdrechion gwirioneddol i helpu ysgolion llai, ond ar yr un pryd â’r cod hwn yn cael ei ddatblygu, mae polisi’r Llywodraeth yn annog symud tuag at ysgolion mwy, ac yn hollbwysig, mae cod sydd ddim yn cael ei gefnogi gydag adnoddau ychwanegol yn llen fwg.”

Ychwanegodd: “Fel Prif Weinidog, hoffwn gefnogi Cynghorau i geisio dod o hyd i ffyrdd newydd ac arloesol o gadw ysgolion yn agored yn eu cymunedau, ac yr wyf yn arbennig yn ffafrio creu ‘Ysgolion Ardal’ aml-safle, gydag un Pennaeth ac un Corff Llywodraethol yn rhannu costau a gosod nodau a safonau cyffredin ar draws y gwahanol safleoedd, ond yn hollbwysig yn caniatáu i fwy o gymunedau gadw eu hysgolion cynradd.

“Ni fydd y ‘fargen newydd’ hon ar gyfer clystyrau ysgolion gwledig yn atal pob ysgol rhag cau, ond bydd yn rhoi grym i Gynghorau i edrych am atebion arloesol, yn helpu i gyflwyno safonau mewn lleoliad ysgol fechan, a bydd adnoddau priodol yn golygu bod natur wledig yn cael ei groesawu yn hytrach na chael ei ystyried fel baich.”

Dywedodd Mr ap Iorwerth nad yw wedi gwrthwynebu’n llwyr yr egwyddor o uno ysgolion lle nad oes unrhyw opsiynau eraill, a bod achosion lle mae rhai ysgolion yn anghynaladwy yn addysgol ac yn ariannol oherwydd niferoedd isel o ddisgyblion. Fodd bynnag, mae am i gynghorau gael helpu i sicrhau mai cau ydy’r dewis olaf.

Trafod dementia yn y Gymru wledig mewn cyfarfod yn y Cynulliad Cenedlaethol

Cyfarfu Aelodau Cynulliad Plaid Cymru gyda’r elusen Alzheimer’s Society Cymru yn y Cynulliad Cenedlaethol i drafod dyfodol gofal dementia yn y Gymru wledig.

Dywedodd Ysgrifennydd Iechyd Cysgodol Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth AC:

“Yn Sioe Frenhinol y llynedd fe wnes helpu i lansio adroddiad Alzheimer’s Society ar ddarparu gofal dementia yn y Gymru wledig, ond ymddengys mai ychydig iawn sydd wedi digwydd ers hynny i awgrymu fod y Llywodraeth wedi mabwysiadu syniadau da yr adroddiad hwnnw. Bydd Simon a finnau yn parhau i weithio gyda Alzheimer’s Society i sicrhau fod anghenion Cymru wledig yn cael eu wir adlewyrchu ym mholisi a gweithredoedd y Llywodraeth. Dydy ‘un maint’ ddim yn ffitio pawb pan mae hi’n dod i ofal dementia.”

Dywedodd Ysgrifennydd Cysgodol Plaid Cymru dros Faterion Gwledig a’r AC dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru, Simon Thomas:

“Mae’r heriau cy’n wynebu pobl gyda dementia yn ardaloedd gwledig y wlad yn aml wedi’i dwysau gan ddiffyg gwasanathau sylfaenol i fynd i’r afael a fo.

“Rydw i’n ddiolchgar am waith Alzheimer’s Society Cymru. Mae’r adroddiad ar Ddementia yn y Gymru wledig yn disgrifio’r profiadau o safbwynt y rhai sydd wedi’u heffeithio, sydd o bwysigrwydd allweddol mewn amlygu’r diffygion mewn trafnidiaeth, gwasanaethau cefnogi ac ymwybyddiaeth cyffredinol ymysg y cyhoedd, i sicrhau fod pethau ddim yn gallu cario ymlaen fel mae nhw ar hyn o bryd.”

“Byddaf yn codi’r materion yma gyda’r Llywodraeth Lafur a’r Cynghorau Sir perthnasol i adleisio pryderon Alzheimer’s Society. Rydw i’n bryderus yn benodol am y diffyg darpariaeth o welyau nyrsio preswyl.”

Ychwanegodd Sue Phelps, Cyfarwyddwr Alzheimer’s Society yng Nghymru:

“Mae Alzheimer’s Society Cymru yn ymgyrchu am well bargen i bobol sy’n byw mewn ardaloedd gwledig ac wedi’u heffeithio gan ddementia. Rydym yn ddiolchgar i Simon Thomas AC a Rhun ap Iorwerth AC am eu hamser i siarad gyda ni am y materion mae pobl yn eu hwynebu ac yn edrych ymlaen at gydweithio i sicrhau fod strategaeth dementia newydd Llywodraeth Cymru yn delifro gwelliannau pendant i bobl wedi’u heffeithio gan ddementia ar draws cymunedau gwledig Cymru.”