Dylai’r cysylltiad trydan barchu Cenedlaethau’r Dyfodol, medd AC

Bu Aelod Cynulliad Ynys Môn Rhun ap Iorwerth yn holi Llywodraeth Cymru am pa rôl allai Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol ei chwarae mewn datblygiadau isadeiledd trydan yn Ynys Môn.

Dywedodd Rhun mai cysylltiad o dan y môr neu’r ddaear, yn hytrach na pheilonau newydd, fyddai’n gwarchod buddiannau pobl Môn rwan a chenedlaethau’r dyfodol orau, a dyma beth mae pobl Môn yn ofyn amdano. Nododd fod gennym Ddedf Cenedlaethau’r Dyfodol yng Nghymru a dylai’r cysylltiad trydan fod yn unol ag egwyddorion y ddeddf.

Yn siarad yn y siambr heddiw, dywedodd Rhun ap Iorwerth:

“Mae Grid Cenedlaethol yn bwriadu codi cysylltiad trydan newydd ar draws Ynys Môn efo’r gost yn brif – os nad yr unig – factor mewn penderfynu sut gysylltiad i’w gael, a beth maen nhw am wneud ydy mynd am yr opsiwn rhataf, sef peilonau uwchben y ddaear yn hytrach na mynd o dan y ddaear neu o dan y môr sef beth rydym ni yn Ynys Môn yn gofyn amdano fo.

“Mynd o dan y môr neu o dan y tir fyddai’n gwarchod buddiannau Ynys Môn rŵan, a chenedlaethau’r dyfodol yn Ynys Môn, ac mae ganddom ni Ddeddf Cenedlaethau’r Dyfodol yma yng Nghymru.

“Rŵan, chi ydy’r Ysgrifennydd Cabinet sydd â chyfrifoldeb dros weithrediad y Ddeddf honno. A ydych chi’n barod i roi ymrwymiad i weithio efo fi ac eraill fel ymgyrchwyr yn erbyn peilonau i wthio ar Grid, ar Ofgem, ar Lywodraeth Prydain – fydd yn gwneud y penderfyniad yn y pen draw – i sicrhau bod y cynllun cysylltu yma ddim ond yn gallu digwydd yn unol ag egwyddorion y darn pwysig yna o ddeddfwriaeth sydd wedi cael ei basio yn y lle yma?”

Yn ei ymateb, dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet:

“Rydw i’n gwybod am y gwaith y mae e wedi’i wneud yng nghyd-destun yr ynys ar y pwnc yma. Rydym ni fel Llywodraeth yn gweithio’n agosach gyda’r cyngor lleol ar y pethau mae ef wedi cyfeirio atyn nhw.

“Roeddwn i’n falch i weld y datganiad gan National Grid yn dweud

‘While these do not specifically place requirements on the National Grid or the development of new transmission lines, National Grid believes that the aims of the Act are important and deserve consideration.’

“Felly, mae yna beth gydnabyddiaeth gan y Grid Cenedlaethol o effaith y Ddeddf.

“Rwy’n clywed yr hyn y mae’r Aelod yn ei ddweud o ran ceblau dan y ddaear neu dan y môr, a safbwynt gychwynnol Llywodraeth Cymru yw mai tanddaearu yw’r dewis a ffefrir, ond bydd angen cael trafodaethau, abydd yr awdurdod lleol a Llywodraeth Cymru yn cymryd rhan mewn ynddynt wrth inni geisio gwneud yn fawr o’r manteision i’r ynys tra’n lliniaru effeithiau’r datblygiadau hyn.”

Yn siarad wedi’r cyfarfod yn y Senedd, ychwanegodd Rhun ap Iorwerth:

“Byddaf yn cyfarfod gyda Grid Cenedlaethol yn fuan i drafod y mater yma ymhwllach gyda nhw. Er nad ydynt hwy’n rhwym i’r Ddeddf, Mae’n bwysig fod egwyddorion y Ddeddf yn cael eu parchu.”

Cynulliad Cenedlaethol yn cefnogi ffafrio ceblau dan ddaear yn hytrach na pheilonau

Mae’r Cynulliad Cenedlaethol wedi galw ar Grid Cenedlaethol i ffafrio ceblau dan ddaear mewn datblygiadau newydd i drosglwyddo trydan yng Nghymru, fel y cynllun ar gyfer Ynys Môn, o ganlyniad i gynnig a gyflwynwyd gan AC Ynys Môn Rhun ap Iorwerth.
 
Yn ystod y ddadl wedi’i harwain gan Blaid Cymru, siaradodd Rhun am y gwrthwynebdiad ar Ynys Môn i gynlluniau Grid Cenedlaethol i adeiladu rhes newydd o beilonau ar draw yr ynys a’r ffafriaeth tuag at atebion amgen a fyddai’n cael llai o effaith weledol.

Yn dilyn y ddadl, pleidleisiodd Aelodau Cynulliad yn unfrydol o blaid ffafrio ceblau o dan y ddaear neu ddewisiadau amgen yn hytrach na pheilonau trydan.
 
Yn siarad yn ystod y ddadl yn y Senedd heddiw, dywedodd Rhun ap Iorwerth:
 
“Cost sydd wrth wraidd cynlluniau y Grid ym Môn. Peilonau ydy’r cyswllt rhataf. Mae’r gost byr-dymor i’r Grid yn is nag opsiynau eraill. Ond beth am y gost o osod peilonau i bobl Môn? – ar werth eu heiddo nhw, i fusnesau, i dwristiaeth, heb sôn, wrth gwrs, am yr effaith ar safon byw?

“Yn hytrach na rhoi’r pwysau ariannol ar bobl Môn, mi ddylai’r gost gael ei rhannu dros holl ddefnyddwyr ynni. Mae grid wedi cytuno i wneud hynny mewn rhannau eraill o’r DG.”
 
Yn siarad wedi’r ddadl, dywedodd Mr ap Iorwerth:
 
“Heddiw fe wnaethom ni ofyn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ddweud ein bod ni’n credu mai tanddaearu ddylai fod y norm yma yng Nghymru – ym mhrosiect cysylltu gogledd Cymru, ar draws Ynys Môn a’r tir mawr, a phob prosiect arall.
 
“Rydw i’n falch o fod wedi derbyn cefnogaeth y mwyafrif o Aelodau Cynulliad, a Llywodraeth Cymru, i ffafrio ceblau dan ddaear.
 
“Er fy mod yn siomedig bod y llywodraeth wedi cyflwyno gwelliant yn gwanhau’r cynnig gwreiddiol rhywfaint – a bod aelod Ukip gogledd Cymru wedi siarad yn frwd o blaid peilonau! – mae’r neges yn dal yn un gref. Mae’n rhaid i’r Grid rwan ystyried fod cynrychiolwyr democrataidd Cymru wedi dweud y dylid rhoi’r gorau i’r chwilio dim ond am yr ateb rhataf.
 
“Bydd pleidlais heddiw yn anfon neges gref i Grid Cenedlaethol fod angen rhoi mwy o ystyriaeth i ddewisiadau amgen i beilonau, yn ogystal â neges gref i bobl Môn fod y Cynulliad yn eu cefnogi ar y pwnc yma.”

Gwarchod amgylchedd naturiol gweledol Môn rhag peilonau

Bu AC Ynys Môn Rhun ap Iorwerth yr wythnos hon yn holi’r Ysgrifennydd Amgylchedd am effaith amgylcheddol cynlluniau’r Grid Cenedlaethol ar draws Ynys Môn.

Yn siarad yn y Senedd, dywedodd Rhun ap Iorwerth:

“Mi fydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn ymwybodol o’r penderfyniad gan y Grid Cenedlaethol i roi gwifrau mewn twnnel o dan y Fenai. Rydym yn gobeithio gweld pont newydd yn cael ei chodi i ddeuoli pont Britannia; rwy’n siŵr y byddai’r Ysgrifennydd Cabinet yn cytuno â fi y bydd yna lai o impact amgylcheddol o roi gwifrau ar y bont honno yn hytrach na chodi pont a thyrchu twnnel.

“Ond hefyd, os ydy’r grid yn mynd am opsiwn y twnnel rhag niweidio amgylchedd naturiol gweledol ardal y Fenai, onid ydy’r un peth yn wir am yr angen i warchod amgylchedd naturiol gweledol Ynys Môn drwy danddaearu ar draws yr holl ynys?”

Rhaid pwyso am degwch – a meddwl ynghyd…!

Mae Rhun ap Iorwerth yn teimlo’n rhwystredig gyda’r Grid Cenedlaethol a’u cynlluniau diweddaraf i gynnig y nesa peth i ddim fel ymateb i brotestiadau yn erbyn eu cynigion i godi peilonau uchel dros Ynys Môn.

Mae’n galw hefyd am ymdriniaeth ffresh er mwyn ymchwilio i ffyrdd gwahanol a fyddai’n creu llinell trawsgludo trydan a fyddai’n dod a budd, ac yn croesi’r Fenai ar bont newydd, a fyddai’r Grid yn medru cyfrannu ato.

Yn rhifyn mis Mehefin y Grid Cenedlaethol am Newyddion y Prosiect mae’n cynnig rhywfaint o gonsesiwn am y daith arfaethedig yn ardal Gaerwen/Llanddaniel Fab, a fydd yn ddiamheuol yn cael ei groesawu yn yr ardal honno – ond am Ynys Môn yn ei gyfanrwydd nid oes mynd yn ôl ar eu penderfyniad i bwyso ymlaen gyda cheblau uchel.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth AC Ynys Môn:

“Dwi’n teimlo’n ofnadwy o rwystredig unwaith eto gydag amharodrwydd y grid i wrando ar ddewisiadau eraill. Maen nhw wedi taflu’r syniad gwreiddiol o geblau o dan y môr. Yr opsiwn nesaf – o dan y ddaear – mae’n ddrytach ac yn achosi aflonyddwch tymor byr, ond mae’r gost, o beth rwy’n ddeall yn un a ddylid ei gyrraedd er mwyn gwarchod buddiannau Mon.”