Fideo: Fy araith yn nadl Plaid Cymru ar fancio

“Mae wedi dod yn amlwg bod yna batrwm yn datblygu, ac mae sawl Aelod wedi cyfeirio ato yn barod—y patrwm yma o ganoli mewn nifer o ‘hubs’ ardal, ac mae beth sy’n digwydd ar Ynys Môn yn esiampl wych o hyn. Ar Ynys Môn, ac eithrio Ynys Gybi am eiliad, yn dilyn cyhoeddiadau diweddar, dim ond yn Llangefni fydd yna unrhyw fanc llawn-amser ar agor o gwbl. Mae Barclays rhan-amser yn Amlwch, ond mae Caergybi, fel prif ardal boblog Ynys Môn, hefyd wedi clywed yn ddiweddar ei bod hi’n colli ei HSBC. Felly, mae yna batrwm yn datblygu yma. Y cyhoeddiadau rydym ni wedi eu cael yn ddiweddar ydy: cau NatWest yn Amlwch, yng Nghaergybi, ym Miwmares ac ym Mhorthaethwy; a HSBC yn mynd yng Nghaergybi, yn Amlwch, ym Mhorthaethwy a Biwmares yn ddiweddar. Nid dim ond y banciau chwaith, ond sefydliadau ariannol yn ehangach—Yorkshire Building Society yn Llangefni i gau hefyd.

“Ac os gwnaf roi sylw i Fiwmares am eiliad, yn yr un ffordd ag y clywsom ni hanes gan Llyr Gruffydd am wasanaethau yn cael eu sugno i ffwrdd, pan gafwyd y cyhoeddiadau gan NatWest a HSBC am gau Biwmares: ‘Peidiwch â phoeni—dim ond 4 milltir i ffwrdd ydy Porthaethwy.’ Wrth gwrs, mae Porthaethwy hefyd wedi clywed bod y banciau hynny yn cau erbyn hyn.

“Y rheswm rydym yn ei glywed yw bod mwy o fancio yn digwydd ar-lein; wrth gwrs, mae hynny yn ffeithiol gywir. Mae yna lawer o wasanaethau ar gael yn y post, rydym yn ei glywed; wrth gwrs bod hynny yn wir hefyd. Ond gyda phob parch i swyddfeydd post, sydd yn cynnig mwy a mwy o wasanaethau o ran gallu talu arian i mewn a thynnu arian allan, nid yw’r cyngor, y gwasanaethau ychwanegol a’r gefnogaeth y gellid ei chael drwy ganghennau ddim ar gael. Dyna’r math o gefnogaeth mae’r pobl mwyaf bregus ei hangen. Nid wyf yn disgwyl gweld dychwelyd i’r dyddiau lle mae gan bob tref fach gangen o bob banc, ond rhywsut mae angen sicrhau bod gwasanaeth ariannol sylfaenol ar gael i bawb o fewn pellter synhwyrol a chymedrol.

“O ran yr ymgynghori sy’n digwydd, mae gen i lythyr gan NatWest yn fan hyn ynglŷn â chau cangen Porthaethwy yn dweud bod yna bump ATM—peiriant twll yn y wal—ar gael o fewn milltir i’r gangen, felly beth ydy’r ots am golli y peiriant ATM hwnnw? Wel, beth wnes i bwyntio allan i NatWest oedd bod pedwar o’r rheini ar y tir mawr—un ohonyn nhw yn Ysbyty Gwynedd ac un ohonyn nhw yng Ngholeg Menai; hynny ydy, camarwain pobl drwy roi yr argraff bod yna wasanaethau amgen ar gael. Nid oes yna ddim; un sydd yna ar gael ym Mhorthaethwy, fel mae’n digwydd, ac nid yw hwnnw, chwaith, yng nghanol y dref.”

Cyfarfod gorlawn i drafod cynlluniau Zorbio Menai

Mynychodd dros 100 o bobl y cyfarfod cyhoeddus a drefnwyd gan AC Ynys Môn Rhun ap Iorwerth i drafod y cynigion ar gyfer Canolfan ‘Zorbio’ rhwng Llanfairpwll a Phorthaethwy.
 
Roedd cynghorwyr lleol a chynrychiolwyr y datblygwyr Zorb Eryri hefyd yn bresennol yn y cyfarfod llawn dop a gynhaliwyd yng Ngwesty Carreg Bran neithiwr.
 
Yn dilyn y cyfarfod, dywedodd Rhun ap Iorwerth AC:
 
“Gyda cymaint o bobl wedi cysylltu gyda mi am hyn, roeddwn yn meddwl y byddai’n ymarfer defnyddiol i gael pawb mewn un cyfarfod, boed o blaid neu yn erbyn, a rhoi cyfle i bobl gael dweud eu dweud mewn fforwm gyhoeddus. Roeddwn wrth fy modd bod cynrychiolwyr y cwmni hefyd wedi mynychu.”
 
Mae’r AC lleol wedi dweud y bydd yn awr yn ysgrifennu at y Cyngor Sir gyda chrynodeb o’r pwyntiau a godwyd yn ystod y cyfarfod ac mewn gohebiaeth uniongyrchol gydag ef. Ychwanegodd:
 
“Ar ôl clywed barn y bobl heno, mae’n amlwg iawn nad yw pobl yn y rhan hon o Ynys Môn yn dymuno i’r datblygiad Zorb fod yn y lleoliad eiconig yma ar lan y Fenai. Felly, er bod cefnogaeth i’r bobl ifanc hyn sydd wedi dod ymlaen â’r syniad, y neges glir heno oedd y dylent ailystyried y lleoliad a’i osod mewn man arall.”

Cyfarfod Cyhoeddus i drafod cynlluniau canolfan zorbio

Bydd Aelod Cynulliad Ynys Môn Rhun ap Iorwerth yn cynnal cyfarfod cyhoeddus i roi’r cyfle i etholwyr drafod cynlluniau i ddatblygu canolfan zorbio newydd rhwng Llanfairpwll a Phorthaethwy.

Dywed Mr ap Iorwerth:

“Mae nifer ohonoch wedi cysylltu ynglyn â’r cais ar gyfer canolfan Zorbio ym Mhorthaethwy. Bydd y cyfarfod yma yn gyfle i drafod eich pryderon mewn fforwm cyhoeddus.”

Pa bryd? Dydd Iau, Medi 15fed 6:00pm

Ble? Gwety Carreg Bran, LL61 5YH

Fideo: Rhun yn siarad mewn dadl ar fancio yn y Senedd

Mewn dadl yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru ar gau banciau, siaradodd AC Ynys Môn Rhun ap Iorwerth am y ddwy enghraifft yn Amlwch a Phorthaethwy, a bu’n dadlau y dylai banciau rhoi ystyriaeth lawn i effaith eu penderfyniadau ar gymunedau.

Araith Rhun yn llawn:

Wrth gwrs, mae colli banc lleol yn ergyd fawr i unrhyw un yn unrhyw gymuned. Ar y gorau, gallai hynny olygu bod rhywun yn gorfod newid cyfrif banc i’r banc arall lawr y ffordd; ar y gwaethaf, ac yn llawer rhy aml, y realiti, wrth gwrs, ydy mai’r banc sy’n gadael ydy’r banc olaf yn y gymuned.

Y ddwy enghraifft sydd gen i o fy etholaeth i yn ddiweddar ydy Porthaethwy ac Amlwch. Ym Mhorthaethwy, mae HSBC yn cau yn y fan honno—tref ffyniannus, llawn bwrlwm economaidd, ac nid yw’n gwneud dim synnwyr i unrhyw un sy’n edrych o’r tu allan pam y byddai HSBC yn bwriadu cau’r gangen honno, yn enwedig o ystyried mai mater o flwyddyn neu ddwy sydd yna ers i’r gangen ym Miwmares gau. Yr hyn a ddywedwyd wrth gwsmeriaid y banc ar y pryd oedd: ‘Peidiwch â phoeni, ewch i Borthaethwy i wneud eich bancio.’ Yn Amlwch, mae’r gangen yn y fan honno’n cau. Mae Amlwch yn dref sydd yn mynd i fod yng nghanol bwrlwm economaidd rhyfeddol yn y degawd nesaf, ond mae’n amlwg nad oes edrych ymlaen tua’r dyfodol wedi digwydd gan y banc yn y cyd-destun hwnnw. Beth sy’n cael ei ddweud wrth gwsmeriaid rŵan? ‘Peidiwch â phoeni, mi allwch chi wneud eich bancio yn y post.’ Ond rydym yn gwybod yn Amlwch fod yna ansicrwydd ynglŷn â dyfodol y post yn y fan honno ac rydym yn gwybod am ormod o gymunedau yng Nghymru lle mae’r post wedi cael ei golli hefyd.

Rydym yn gwybod bod hyn, yn ôl y banciau, yn cael ei yrru gan newid yn ein harferion bancio, ac, wrth gwrs, rydym ni, bob un ohonom ni, rwy’n siŵr, yn y Siambr yma yn gwneud mwy o’n bancio ar-lein ac ati. Ond mae’r penderfyniadau i gau’r canghennau yn digwydd ar adeg lle nad yw’n cymunedau ni drwyddi draw yn barod i allu dweud, ‘Ydyn, rydym yn gymunedau sy’n llwyr fancio ar-lein.’ Mae yna ormod o bobl sy’n fregus, yn oedrannus yn ein cymunedau ni nad ydynt yn barod i allu cymryd rhan yn yr oes fodern o fancio ar-lein. Rydym yn siarad hefyd yn y Siambr yma’n ddigon aml am broblemau efo band llydan yn ein hardaloedd gwledig ni. Mae yna ormod o ardaloedd nad oes ganddynt y gallu o ran yr isadeiledd digidol i allu cymryd rhan lawn mewn bancio ar-lein.

Yr hyn mae’r banciau yn ei ddweud, wrth gwrs, ydy nad ydy’r canghennau yma’n broffidiol. Mae’n siŵr eu bod nhw’n iawn, o ystyried y canghennau eu hunain. Mi gyfeiriaf at bapur a gafodd ei gyhoeddi gan yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd ym mis Awst y llynedd fel rhan o ymchwiliad i’r farchnad bancio a manwerthu:

Mae’r banciau’n gwneud arian oddi ar eu bancio manwerthu. Beth ddylai ddigwydd ydy bod banciau yn gweithredu fel rhwydwaith, efo canghennau proffidiol yn helpu, yn eu tro, i gynnal y rhai llai proffidiol, mewn ffordd y mae rheoleiddio yn sicr yn digwydd efo marchnad breifat ffonau symudol, er enghraifft—dydy mastiau yn Ynys Môn ddim yn gwneud arian i’r cwmnïau ffôn, ond fel rhan o rwydwaith maen nhw’n gorfod, wrth gwrs, darparu gwasanaeth ehangach. Felly, dyna ddylai ddigwydd efo’r banciau, ond yn amlwg nid oes gan y banciau ddiddordeb yn hynny. Felly, mae’n rhaid inni gadw’r pwysau ar y banciau ac ar Lywodraethau i sicrhau bod yna ystyriaeth lawn yn cael ei rhoi gan y sefydliadau yma o effaith eu penderfyniadau nhw ar gymunedau.

Fe allwn ni wneud ymdrechion i sicrhau hyfywedd y stryd fawr, er enghraifft, er mwyn dod â rhagor o gwsmeriaid i’r banciau, ond, wrth gwrs, banc ydy un o’r pethau hynny sydd yn creu stryd fawr ffyniannus. Mi wnawn ni chwarae’n rhan, wrth gwrs, o ran ceisio sicrhau bod yna bobl a ‘footfall’ mewn banciau, ond mae’n rhaid i fanciau ystyried eu cyfrifoldebau fel rhan, fel rwy’n dweud, o rwydwaith sy’n gwasanaethu nid ein hardaloedd poblog a chyfoethog yn unig, ond ein hardaloedd gwledig a thlotach hefyd.

Rhun yn cyfarfod HSBC

Yn dilyn eu cyhoeddiad i gau canghennau ym Mhorthaethwy ac Amlwch, fe wnaeth Rhun ap Iorwerth AM gyfarfod rheolwyr rhanbarthol HSBC. Yn dilyn y cyfarfod dywedodd:

“Yn fy nghyfarfod gyda HSBC, pwysleisiais pa mor siomedig oedd eu cyhoeddiad. Cefais sicrwydd na fyddai unrhyw swyddi’n cael eu colli, ond mae hyn yn ergyd arall i’r trefi, ac roedd yn amlwg nad oedd ganddynt fwriad i ail-ystyried. Gyda’r ansicrwydd ynghylch dyfodol y Swyddfa Bost yn Amlwch hefyd, gofynnais am oedi wrth wneud unrhyw benderfyniad hyd nes y byddwn yn cael mwy o sicrwydd am y gwasanaethau bancio a fydd ar gael i gwsmeriaid drwy’r swyddfa bost.

“Ydy, mae arferion bancio wedi newid ac mae hynny’n golygu llai o bobol yn mynd i’r gangen, ond mae penderfyniadau i gau yn cael eu cymryd tra bod llawer, gan gynnwys yr henoed a’r bregus, yn ei chael yn anodd neu yn methu gallu troi at ffyrdd mwy modern o fancio a dal i fod angen y cysylltiad gyda’u cangen leol.”

AC i gyfarfod HSBC i drafod canghennau lleol

Bydd Aelod Cynulliad Ynys Môn Rhun ap Iorwerth yn cyfarfod gyda HSBC yr wythnos yma i drafod eu penderfyniad i gau canghennau ym Mhorthaethwy ac Amlwch.

Dywed Rhun ap Iorwerth AC ei fod yn cefnogi’r ddeiseb yn Amlwch yn galw am oedi yn y penderfyniad.

“Gyda datblygiad Wylfa Newydd, mae gogledd Ynys Môn ar fin dechrau ar gyfnod o weithgaredd economaidd sylweddol. Yn y cyd-destun hwnnw’n unig, nid yw’n gwneud dim synnwyr i ruthro ymlaen gyda chau’r gangen leol.

“Mae Porthaethwy eisoes yn llawn gweithgaredd wedi trawsnewidiad economaidd y blynyddoedd diwethaf. Siawns y gall HSBC weld fod rŵan yn amser rhyfedd iawn i benderfynu cau eu gweithrediadau yno, yn enwedig mor fuan ar ôl cau eu cangen ym Miwmares, pan gafodd cwsmeriaid eu hannog i ddefnyddio cangen Porthaethwy yn lle hynny.”

Mae Rhun hefyd yn gobeithio codi’r mater yma gyda’r Prif Weinidog yn y Senedd yr wythnos hon.