Plaid: Byddai modd hyfforddi deugain o feddygon y flwyddyn ym Mangor

Plaid Cymru yn cynnig ffordd ymlaen wedi i Lywodraeth Cymru gau’r drws ar gwrs meddygaeth yn y gogledd

Mae Plaid Cymru wedi cynnig ffordd ymlaen i gryfhau gwasanaethau’r Gig yn y gogledd wedi i Lywodraeth Cymru wrthod cymryd cam i sefydlu ysgol feddygol ym Mangor. Mae Ysgrifennydd Cabinet cysgodol y Blaid dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol Rhun ap Iorwerth wedi cynnig y gellid sefydlu campws hyfforddi ar y cyd rhwng Prifysgolion Caerdydd, Abertawe a Bangor gyda deugain o fyfyrwyr y flwyddyn yn cael eu lleoli ym Mangor.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth, er nad oes modd sefydlu ysgol feddygol newydd dros nos, y byddai cynnig Plaid Cymru yn cychwyn y broses o hyfforddi israddedigion ym Mangor.

Meddai Ysgrifennydd Cabinet cysgodol Plaid Cymru dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol Rhun ap Iorwerth:

“Yr oedd penderfyniad Llywodraeth Cymru i wfftio datblygu hyfforddiant meddygol ym Mangor yn siom enfawr i bobl yn y gogledd ac yn ergyd i weithwyr y GIG yno sydd ar hyn o bryd wedi eu llethu â gwaith oherwydd nad yw’r llywodraeth wedi cynllunio’r gweithlu yn ddigonol.

“Nid dim ond Plaid Cymru sydd eisiau hyn – mae’r arbenigwyr wedi galw amdano, mae gweithwyr y GIG ei eisiau, a galwodd adroddiad diweddar gan Bwyllgor Iechyd y Cynulliad Cenedlaethol am yr un peth.

“Mae’n bwysig ein bod yn angori myfyrwyr yn y gogledd. Trwy anelu i gael nifer cynyddol o israddedigion wedi eu lleoli yma, gallwn gryfhau gwasanaethau’r GIG ar draws y rhanbarth. Byddai modd i ni hefyd ddatblygu arbenigedd mewn meddygaeth wledig a hyfforddi meddygon i ddarparu gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg.

“Bydd Plaid Cymru yn parhau i weithio tuag at sefydlu ysgol feddygol annibynnol yn y pen draw ym Mangor, ond mae ein cynigion heddiw yn rhoi ffordd ymlaen i ni gyrraedd y nod o ddarparu gwasanaethau ysbyty cryf a chynaliadwy ar draws y gogledd.”