Fideo: Rheilffyrdd Ynys Môn

Mewn ymateb i sylwadau gan AC Ynys Môn Rhun ap Iorwerth yn y Cynulliad ddoe, cafodd ymateb addawol gan Lywodraeth Cymru am y potensial i ail-agor y rheilffordd i Langefni, a hefyd i Amlwch, ond hefyd am wella cysylltiadau i Faes Awyr Môn.

Yn siarad yn y Senedd, gofynnodd Rhun ap Iorwerth:

“Roeddwn yn falch pan y gwnaethoch gyhoeddi’n ddiweddar fod Llangefni ar restr o orsafoedd a allai gael eu hail-agor. Allai ofyn am sicrwydd fod hyn dal ar y gweill, ac allai ofyn i chi symud tuag at beth yr ydw i’n obeithio fydd yn ganlyniad positif ar y posibilrwydd o afor y rheilffordd i Langefni, agor gorsaf Llangefni, ond hefyd – ac yn hanfodol – tu hwnt i Langefni ac ymlaen i Amlwch? Oherwydd byddai agor llinell i Amlwch yn gallu trawsnewid tref sydd wedi dioddef yn ddiweddar, ac mae gennym gyfle unigryw yma gan fod rheilffordd eisoes yn bod a’i fod mewn cyflwr da iawn, iawn, sydd dim ond angen ychydig o uwchraddio a chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru.”

Yn ei ymateb, dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates:

“Mae’r Aelod wedi bod yn angerddol am ail-agor yr orsaf yn Llangefni, a’r lein i Amlwch, ac mae’n rhywbeth yr ydw i yn gefnogol ohono hefyd. Rydym yn ceisio rhoi gorsafoedd yng Nghymru ar flaen y rhestr er mwyn gallu denu buddsoddiad gan Lywodraeth y DG, ond, ynglŷn â’r enghraifft benodol yma, byddwn yn hapus i gyfarfod gyda’r Aelod i drafod cynnydd, os mae’n cael ei wneud, oherwydd dwi’n meddwl fod ganddo botensial anferth yn y tymor byr, efallai fel rheilffordd dreftadaeth, ond yn y tymor hirach fel llinell cario teithwyr llawn.

“Dwi’n meddwl bod potensial hefyd mewn gwella cysylltiadau rhwng y prif rheilffordd a Maes Awyr Môn.”

Fideo: Fy araith yn nadl Plaid Cymru ar fancio

“Mae wedi dod yn amlwg bod yna batrwm yn datblygu, ac mae sawl Aelod wedi cyfeirio ato yn barod—y patrwm yma o ganoli mewn nifer o ‘hubs’ ardal, ac mae beth sy’n digwydd ar Ynys Môn yn esiampl wych o hyn. Ar Ynys Môn, ac eithrio Ynys Gybi am eiliad, yn dilyn cyhoeddiadau diweddar, dim ond yn Llangefni fydd yna unrhyw fanc llawn-amser ar agor o gwbl. Mae Barclays rhan-amser yn Amlwch, ond mae Caergybi, fel prif ardal boblog Ynys Môn, hefyd wedi clywed yn ddiweddar ei bod hi’n colli ei HSBC. Felly, mae yna batrwm yn datblygu yma. Y cyhoeddiadau rydym ni wedi eu cael yn ddiweddar ydy: cau NatWest yn Amlwch, yng Nghaergybi, ym Miwmares ac ym Mhorthaethwy; a HSBC yn mynd yng Nghaergybi, yn Amlwch, ym Mhorthaethwy a Biwmares yn ddiweddar. Nid dim ond y banciau chwaith, ond sefydliadau ariannol yn ehangach—Yorkshire Building Society yn Llangefni i gau hefyd.

“Ac os gwnaf roi sylw i Fiwmares am eiliad, yn yr un ffordd ag y clywsom ni hanes gan Llyr Gruffydd am wasanaethau yn cael eu sugno i ffwrdd, pan gafwyd y cyhoeddiadau gan NatWest a HSBC am gau Biwmares: ‘Peidiwch â phoeni—dim ond 4 milltir i ffwrdd ydy Porthaethwy.’ Wrth gwrs, mae Porthaethwy hefyd wedi clywed bod y banciau hynny yn cau erbyn hyn.

“Y rheswm rydym yn ei glywed yw bod mwy o fancio yn digwydd ar-lein; wrth gwrs, mae hynny yn ffeithiol gywir. Mae yna lawer o wasanaethau ar gael yn y post, rydym yn ei glywed; wrth gwrs bod hynny yn wir hefyd. Ond gyda phob parch i swyddfeydd post, sydd yn cynnig mwy a mwy o wasanaethau o ran gallu talu arian i mewn a thynnu arian allan, nid yw’r cyngor, y gwasanaethau ychwanegol a’r gefnogaeth y gellid ei chael drwy ganghennau ddim ar gael. Dyna’r math o gefnogaeth mae’r pobl mwyaf bregus ei hangen. Nid wyf yn disgwyl gweld dychwelyd i’r dyddiau lle mae gan bob tref fach gangen o bob banc, ond rhywsut mae angen sicrhau bod gwasanaeth ariannol sylfaenol ar gael i bawb o fewn pellter synhwyrol a chymedrol.

“O ran yr ymgynghori sy’n digwydd, mae gen i lythyr gan NatWest yn fan hyn ynglŷn â chau cangen Porthaethwy yn dweud bod yna bump ATM—peiriant twll yn y wal—ar gael o fewn milltir i’r gangen, felly beth ydy’r ots am golli y peiriant ATM hwnnw? Wel, beth wnes i bwyntio allan i NatWest oedd bod pedwar o’r rheini ar y tir mawr—un ohonyn nhw yn Ysbyty Gwynedd ac un ohonyn nhw yng Ngholeg Menai; hynny ydy, camarwain pobl drwy roi yr argraff bod yna wasanaethau amgen ar gael. Nid oes yna ddim; un sydd yna ar gael ym Mhorthaethwy, fel mae’n digwydd, ac nid yw hwnnw, chwaith, yng nghanol y dref.”

Llangefni i herio tîm rygbi Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Mae AC Ynys Môn a hyfforddwr tîm iau Clwb Rygbi Llangefni wedi gwahodd tîm Rygbi’r Cynulliad i Langefni i godi arian ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn 2017.

Hwn fydd gêm gyntaf Rygbi’r Cynulliad yng ngogledd Cymru, ac er bod Rhun ap Iorwerth yn aelod o’r tîm, bydd yn chwarae yn lliwiau Llangefni yn erbyn ei gyd-chwaraewyr o’r Cynulliad.

Yn edrych ymlaen at y gêm, dywedodd Rhun ap Iorwerth:

“Mae’n grêt cael dod a thîm rygbi’r Cynulliad Cenedlaethol i fyny i Ynys Môn. Edrychaf ymlaen at ornest gyfeillgar ond caled – ac at godi arian ar gyfer Eisteddfod 2017 a Bowel Cancer UK. Gan fy mod yn hyfforddwr tîm iau Llangefni ac yn aelod o dîm y Cynulliad, mi allaf ddewis i ba dîm i chwarae iddo…felly fedrai ddim colli!”

Bydd y gic gyntaf am 2:00 ar ddydd Sadwrn, Tachwedd 12fed (ychydig oriau cyn y gêm Cymru v Yr Ariannin). Dewch yn llu i gefnogi’r ddau dîm.

Angen gwrando ar farn leol ac ailystyried penderfyniad llysoedd, medd AC

Mae AC Ynys Môn Rhun ap Iorwerth yn gofyn i’r Llywodraeth wrando ar farn lleol ac ailystyried eu penderfyniad i gau llysoedd Môn.

Yn dilyn datganiad diweddar Llywodraeth y DG eu bod am gau’r llysoedd yng Nghaergybi a Llangefni, er gwaethaf gwrthwynebiad lleol yn ystod y broses ymgynghori, mae Rhun wedi ysgrifennu atynt yn galw arnynt i ailystyried. Dywed:

“Fe ddangosodd y broses ymgynghori fod gwrthwynebiad clir i gau’r llysoedd. Allan o bob un a wnaeth ymateb am Lys Ynadon Caergybi, er enghraifft, nid oedd yr un ohonynt yn cefnogi’r cynnig i gau.

“Ond er gwaethaf hyn, ac er gwaetha’r achos cryf a oedd wedi cael ei wneud gan gynrychiolwyr etholedig o sawl plaid ar sawl lefel, yn ogystal â gan gyfreithwyr ac ynadon lleol a defnyddwyr eraill o’r llysoedd i gadw llysoedd Caergybi a Llangefni ar agor, daeth y llywodraeth i’r casgliad y dylid cau’r ddau.

“Er eu bod nhw’n dweud eu bod yn chwilio am ffyrdd eraill o ddarparu gwasanaethau ar Ynys Môn, siawns y dylid fod wedi gwneud hyn cyn gwneud y penderfyniad i gau.

Rydw i’n dal i gredu y byddai’r penderfyniad i gau yn cael effaith andwyol ar gyfiawnder lleol ac felly wedi galw arnynt i ailystyried ac i wrando ar farn mwyafrif y rhai a wnaeth ymateb i’r ymgynghoriad.”