AC lleol Rhun ap Iorwerth yn rhoi addewid i wneud i ‘bob cennin pedr gyfri’ dros Marie Curie fis Chwefror eleni.

Mae AC Ynys Mon, Rhun ap Iorwerth wedi yn gofyn i pawb I rhoddi a gwisgo’r daffodil yn ystod mis Chwefror a mis Mawrth a helpu Nyrsys Marie Curie i ddarparu gofal a chefnogaeth i bobl sy’n byw gyda salwch terfynol a’u teuluoedd.

Mae Rhun ap Iorwerth wedi ymuno gyda Nyrsys Marie Curie Amy Law, Sue Thomas a Ruth Mcghee mewn digwyddiad yn y Senedd yng Nghaerdydd ar ddydd Mawrth, 6ed Chwefror i helpu lansio Apêl Fawr y Daffodil, sef ymgyrch codi arian flynyddol fwyaf Marie Curie.

Yn ogystal â rhoi ei gefnogaeth i’r apêl, mae Rhun ap Iorwerth yn annog pobl Ynys Mon i helpu codi mwy o arian nag erioed o’r blaen drwy’n syml rhoi cyfraniad a gwisgo bathodyn Daffodil Marie Curie, sydd ar gael gan wirfoddolwyr drwy’r wlad, mewn siopau Marie Curie, Superdrug, Spar, Poundworld a Hotter Shoes ac mewn canolfannau garddio Wyevale.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth :“Mae’r arian sy’n cael ei godi drwy Apêl Fawr Daffodil Marie Curie yn helpu i ddarparu gofal a chefnogaeth i bobl ar amser pan maen nhw ei angen fwyaf. Rydw i’n falch o ‘gefnogi’r Cennin Pedr’ dros Marie Curie, a gobeithiaf y bydd pobl Cymru yn ymuno â mi wrth gefnogi pobl sy’n cael eu heffeithio gan salwch terfynol drwy’r wlad.”
Ychwanegodd Simon Jones, Pennaeth Polisi a Materion Cyhoeddus, Cymru, Marie Curie: “Mae cael cefnogaeth Rhun ap Iorwerth yn gwneud gwahaniaeth anferth i Marie Curie. Gyda’r help y maen nhw’n ei roi, rydym yn gallu codi ymwybyddiaeth ynglŷn â beth yr ydym ni’n ei wneud ac yn cyrraedd mwy o bobl sydd ein hangen.

“Mae ein gwasanaethau yn dibynnu ar gyfraniadau elusennol, ac felly hoffwn ddiolch o galon i bob un ohonoch sy’n rhoi cyfraniad ac yn gwisgo bathodyn Daffodil ym mis Chwefror a mis Mawrth eleni. Bydd yr arian a godir o Apêl Fawr y Daffodil yn helpu Nyrsys Marie Curie ddarparu gofal a chefnogaeth i bobl sy’n byw gyda salwch terfynol, a’u hanwyliaid, mewn cartrefi drwy Gymru, yn ogystal ag yn un o Hosbisau’r elusen, Hosbis Caerdydd a’r Fro ym Mhenarth.”

Am fwy o wybodaeth ynglŷn ag Apêl Fawr y Daffodil ac er mwyn gwirfoddoli i gasglu dros Marie Curie, cysylltwch drwy ffonio 0845 601 3107* neu ewch i www.mariecurie.org.uk/daffodil. Er mwyn gwneud cyfraniad o £5, anfonwch neges destun *DAFF at 70111 neu ffoniwch 0800 716 146 er mwyn cyfrannu dros y ffôn.

Capsiwn y llun: Rhun ap Iorwerth gyda Nyrsys Marie Curie Amy Law, Sue Thomas a Ruth McGhee

Rhun ap Iorwerth yn galw am derfyn i breifateiddio graddol o fewn Gwasanaeth Iechyd Cymru

Mae mwy o wasanaethau iechyd Cymreig yn cael eu hallanoli i gwmni preifat. Fe ddatgelodd Prif Chwip Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth y wybodaeth yng Nghwestiynau i’r Prif Weinidog wrth ddirprwyo i Leanne Wood.

Mae gwasanaethai dialysis yn Ysbyty Maelor Wrecsam yn y broses o gael eu preifateiddio i gwmni preifat “o dan oruchwyliaeth y Prif Weinidog Carwyn Jones”, gyda gwerth £700,000 o arbedion yn dod o “daliadau salwch, gwyliau a phensiynau staff y gwasanaeth iechyd”.

Credir bod y trafodaethau’n ymwneud ag allanoli’r gwasanaeth i gwmni preifat fel ‘Braun Avitum’, sydd eisoes yn rhedeg gwasanaethau dialysis yn Ysbyty Gwynedd ac Alltwen.

Gallai’r gwasanaeth gael ei drosglwyddo i gwmni preifat mewn ychydig wythnosau yn dilyn bod allan i dendr o dan nodyn caffael “Sell2Wales” Llywodraeth Cymru. O dan y cynlluniau preifateiddio, bydd staff yn cael eu hallanoli i gwmni preifat gan golli eu hawliau lefel-GIG o ran amodau a thermau.

Fe nododd Rhun ap Iorwerth fod system iechyd dwy-haen yn tyfu o dan y llywodraeth Lafur, gyda chleifion yn cael eu hannog i ystyried talu am driniaeth neu ddiagnosis cynt yn hytrach nag wynebu amseroedd aros hir.

Yn siarad yn dilyn Cwestiynau i’r Prif Weinidog, dywedodd Rhun ap Iorwerth AC:

“Mae’n anhygoel bod Prif Weinidog Cymru yn caniatáu preifateiddio graddol o wasanaethau iechyd o dan ei oruchwyliaeth.

“Fe addawodd maniffesto 2016 Llafur y byddai’r ‘gwasanaeth iechyd yn cael ei foderneiddio ond nid ei breifateiddio’, ond yn dilyn yr argyfwng tymhorol diweddar, mae’n edrych mwy fel achos o ‘breifateiddio ond nid moderneiddio’.

“Mae hefyd yn dod yn gynyddol glir fod amseroedd aros hirach yn creu system iechyd dwy-haen, lle mae’r rheini sydd â’r gallu i dalu yn gallu cael llawdriniaethau o fewn amser rhesymol, ond bod y rheini sy’n ddibynnol ar y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn wynebu aros yn hir gan ddioddef canlyniadau posib i’w hiechyd yn sgil hynny.

“Nid mater o ideoleg yw hyn, ond mater o flaenoriaethu darparu cleifion Cymru â’r gofal maent eu hangen yn hytrach na chaniatáu cwmnïau preifat i wneud elw drwy bigo i ffwrdd ar wasanaethau iechyd craidd. Mae hefyd ynglŷn â gwarchod staff cydwybodol, sydd eisoes dan straen, rhag wynebu dirywiad i’w amodau a thermau.

“Mae’n hen bryd i Lywodraeth Cymru greu cynllun hirdymor ar gyfer gwasanaeth iechyd cynaliadwy.”

Plaid: Byddai modd hyfforddi deugain o feddygon y flwyddyn ym Mangor

Plaid Cymru yn cynnig ffordd ymlaen wedi i Lywodraeth Cymru gau’r drws ar gwrs meddygaeth yn y gogledd

Mae Plaid Cymru wedi cynnig ffordd ymlaen i gryfhau gwasanaethau’r Gig yn y gogledd wedi i Lywodraeth Cymru wrthod cymryd cam i sefydlu ysgol feddygol ym Mangor. Mae Ysgrifennydd Cabinet cysgodol y Blaid dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol Rhun ap Iorwerth wedi cynnig y gellid sefydlu campws hyfforddi ar y cyd rhwng Prifysgolion Caerdydd, Abertawe a Bangor gyda deugain o fyfyrwyr y flwyddyn yn cael eu lleoli ym Mangor.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth, er nad oes modd sefydlu ysgol feddygol newydd dros nos, y byddai cynnig Plaid Cymru yn cychwyn y broses o hyfforddi israddedigion ym Mangor.

Meddai Ysgrifennydd Cabinet cysgodol Plaid Cymru dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol Rhun ap Iorwerth:

“Yr oedd penderfyniad Llywodraeth Cymru i wfftio datblygu hyfforddiant meddygol ym Mangor yn siom enfawr i bobl yn y gogledd ac yn ergyd i weithwyr y GIG yno sydd ar hyn o bryd wedi eu llethu â gwaith oherwydd nad yw’r llywodraeth wedi cynllunio’r gweithlu yn ddigonol.

“Nid dim ond Plaid Cymru sydd eisiau hyn – mae’r arbenigwyr wedi galw amdano, mae gweithwyr y GIG ei eisiau, a galwodd adroddiad diweddar gan Bwyllgor Iechyd y Cynulliad Cenedlaethol am yr un peth.

“Mae’n bwysig ein bod yn angori myfyrwyr yn y gogledd. Trwy anelu i gael nifer cynyddol o israddedigion wedi eu lleoli yma, gallwn gryfhau gwasanaethau’r GIG ar draws y rhanbarth. Byddai modd i ni hefyd ddatblygu arbenigedd mewn meddygaeth wledig a hyfforddi meddygon i ddarparu gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg.

“Bydd Plaid Cymru yn parhau i weithio tuag at sefydlu ysgol feddygol annibynnol yn y pen draw ym Mangor, ond mae ein cynigion heddiw yn rhoi ffordd ymlaen i ni gyrraedd y nod o ddarparu gwasanaethau ysbyty cryf a chynaliadwy ar draws y gogledd.”

Siom ddiweddaraf Llafur i’r gogledd: Dim ysgol feddygol i Fangor

Cyhoeddodd y llywodraeth Lafur heddiw na fydd yn bwrw ymlaen gyda chynlluniau i sefydlu ysgol feddygol yn y gogledd. Mynegodd ACau Plaid Cymru eu siom gyda’r penderfyniad, y ceisiodd Llywodraeth Cymru ei gladdu ar wythnos olaf y tymor.

Dywedodd Ysgrifennydd Cabinet cysgodol Plaid Cymru dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol Rhun ap Iorwerth na fydd cael myfyrwyr yn treulio mwy o amser yng ngogledd Cymru yn cymryd lle sefydlu ysgol feddygol.

Galwodd AC Arfon Sian Gwenllian y mater yn frad ar ogledd Cymru.

Dywedodd AC Plaid Cymru dros Arfon Sian Gwenllian:

“Mae’r angen am ysgol feddygol ym Mangor yn glir, ac y mae Llywodraeth Cymru ei hun wedi cydnabod hyn. Ceisiodd Llywodraeth Cymru gladdu’r ergyd hon i fyfyrwyr meddygol a chleifion yn y gogledd ar ddiwrnod olaf busnes y llywodraeth.

“Brad ar bobl Bangor, Arfon a’r gogledd i gyd yw hyn. Bydd Plaid Cymru yn parhau i ymgyrchu dros greu ysgol feddygol yn y gogledd. Mae’n gam pwysig o ran datblygu gwasanaeth iechyd diogel a chynaliadwy yng ngogledd Cymru, a datblygu gwasanaethau arbenigol y tu hwnt i goridor yr M4.”

Meddai Ysgrifennydd Cabinet cysgodol Plaid Cymru dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol Rhun ap Iorwerth:

“Fe wyddom nad oes modd sefydlu ysgol feddygol dros nos, ond mae’r cyhoeddiad hwn yn ergyd ddifrifol. Rydym wastad wedi bod o blaid cydweithio i gychwyn pethau, a dydy dweud y bydd myfyrwyr “yn treulio mwy o amser yng ngogledd Cymru” ddim yn ddigon da. Mae arnom angen myfyrwyr wedi eu lleoli yn y gogledd, mae ar ein GIG eu hangen, a rhaid i ni roi cychwyn ar bethau. Mae’n amlwg nad oes gan y llywodraeth Lafur hon unrhyw uchelgais.”

Meddai AS Plaid Cymru dros Arfon Hywel Williams:

“Rwyf wedi dychryn ac yn flin gyda’r cyhoeddiad hwn. Bu’n ddealledig o’r cychwyn cyntaf mai sefydlu ysgol feddygol i Fangor oedd bwriad Llywodraeth Cymru, ac y mae Gweinidogion Iechyd blaenorol Cymru wedi dweud wrthyf i ac eraill fod Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn Fwrdd Iechyd Prifysgol oherwydd y byddai ysgol feddygol yn cael ei sefydlu mewn partneriaeth â’r brifysgol ym Mangor.”

Angen bwrw ymlaen ar frys i recriwtio meddygon

Plaid Cymru yn rhybuddio am yr angen dybryd i weithredu eu cynllun am fil o feddygon

Heb ymdrech bendant i gynyddu nifer y meddygon sy’n gweithio yng Nghymru gallai’r GIG wynebu eu gaeaf anoddaf eto, rhybuddiodd Ysgrifennydd Cabinet cysgodol Plaid Cymru dros Iechyd, Rhun ap Iorwerth.

Dros y tair blynedd diwethaf, disgynnodd nifer y meddygon teulu yng Nghymru o ryw 30. Yn y cyfamser, soniodd 97% o bob practis meddyg teulu fod cynnydd wedi bod yn y galw am apwyntiadau.

Galwodd Rhun ap Iorwerth ar i’r llywodraeth weithredu ar unwaith i roi cychwyn ar gynllun Plaid Cymru i hyfforddi a recriwtio mil o feddygon yn ychwanegol i’r GIG, neu fe allai’r gwasanaeth wynebu’r gaeaf mwyaf anodd hyd yma.

Meddai Ysgrifennydd Cabinet cysgodol Plaid Cymru dros Iechyd, Rhun ap Iorwerth:

“Mae’r galw am wasanaethau iechyd yn cynyddu tra bod nifer ein meddygon teulu yn gostwng. Oni fydd Llywodraeth Cymru yn gweithredu ar unwaith i gynyddu nifer y meddygon, gallai’r GIG wynebu eu gaeaf mwyaf anodd hyd yma.

“Bob gaeaf, mae’r galw am wasanaethau yn codi, ond eleni dyma ni’n nesau at gyfnod oeraf y flwyddyn gyda llai o feddygon teulu na thros y tair blynedd diwethaf. Mae angen i Lywodraeth Cymru ddod o hyd i gynllun ar fyrder.

“Dywed Llywodraeth Cymru wrthym fod ganddynt fwy o feddygon nac erioed o’r blaen yn gweithio yn y GIG, ond fe wyddom mai yn rhan amser y mae llawer o’r rhain yn gweithio. Mae nifer y meddygon teulu yn benodol wedi disgyn, ac y mae gwadu hyn yn gwneud tro gwael â holl weithlu’r GIG sy’n cael ei wthio i’r eithaf i gwrdd â galwadau ar weddill y gwasanaeth oherwydd prinder meddygon teulu.

“Byddai gweithredu ar unwaith i gychwyn rhoi ar waith gynllun Plaid Cymru i hyfforddi a recriwtio mil o feddygon yn ychwanegol i’r GIG yn cynyddu nifer y meddygon sy’n gweithio yn y gwasanaeth yn gyflym ac yn gynaliadwy. Rydym eisiau gweld mwy o lefydd yn ysgolion meddygol Cymru, ac yr ydym am roi cymhellion i feddygon weithio mewn ardaloedd lle mae’n anodd recriwtio fel bod gwasanaethau ym mhob rhan o Gymru yn cael eu cryfhau.”