Siom ddiweddaraf Llafur i’r gogledd: Dim ysgol feddygol i Fangor

Cyhoeddodd y llywodraeth Lafur heddiw na fydd yn bwrw ymlaen gyda chynlluniau i sefydlu ysgol feddygol yn y gogledd. Mynegodd ACau Plaid Cymru eu siom gyda’r penderfyniad, y ceisiodd Llywodraeth Cymru ei gladdu ar wythnos olaf y tymor.

Dywedodd Ysgrifennydd Cabinet cysgodol Plaid Cymru dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol Rhun ap Iorwerth na fydd cael myfyrwyr yn treulio mwy o amser yng ngogledd Cymru yn cymryd lle sefydlu ysgol feddygol.

Galwodd AC Arfon Sian Gwenllian y mater yn frad ar ogledd Cymru.

Dywedodd AC Plaid Cymru dros Arfon Sian Gwenllian:

“Mae’r angen am ysgol feddygol ym Mangor yn glir, ac y mae Llywodraeth Cymru ei hun wedi cydnabod hyn. Ceisiodd Llywodraeth Cymru gladdu’r ergyd hon i fyfyrwyr meddygol a chleifion yn y gogledd ar ddiwrnod olaf busnes y llywodraeth.

“Brad ar bobl Bangor, Arfon a’r gogledd i gyd yw hyn. Bydd Plaid Cymru yn parhau i ymgyrchu dros greu ysgol feddygol yn y gogledd. Mae’n gam pwysig o ran datblygu gwasanaeth iechyd diogel a chynaliadwy yng ngogledd Cymru, a datblygu gwasanaethau arbenigol y tu hwnt i goridor yr M4.”

Meddai Ysgrifennydd Cabinet cysgodol Plaid Cymru dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol Rhun ap Iorwerth:

“Fe wyddom nad oes modd sefydlu ysgol feddygol dros nos, ond mae’r cyhoeddiad hwn yn ergyd ddifrifol. Rydym wastad wedi bod o blaid cydweithio i gychwyn pethau, a dydy dweud y bydd myfyrwyr “yn treulio mwy o amser yng ngogledd Cymru” ddim yn ddigon da. Mae arnom angen myfyrwyr wedi eu lleoli yn y gogledd, mae ar ein GIG eu hangen, a rhaid i ni roi cychwyn ar bethau. Mae’n amlwg nad oes gan y llywodraeth Lafur hon unrhyw uchelgais.”

Meddai AS Plaid Cymru dros Arfon Hywel Williams:

“Rwyf wedi dychryn ac yn flin gyda’r cyhoeddiad hwn. Bu’n ddealledig o’r cychwyn cyntaf mai sefydlu ysgol feddygol i Fangor oedd bwriad Llywodraeth Cymru, ac y mae Gweinidogion Iechyd blaenorol Cymru wedi dweud wrthyf i ac eraill fod Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn Fwrdd Iechyd Prifysgol oherwydd y byddai ysgol feddygol yn cael ei sefydlu mewn partneriaeth â’r brifysgol ym Mangor.”