Rhun yn defnyddio datganiad Cynulliad i ddymuno penblwydd hapus i ganolfan yng Nghaergybi sydd wedi rhoi Môn ar fap chwaraeon y byd

Defnyddiodd Rhun ddatganiad 90 eiliad yn y Cynulliad Cenedlaethol yr wythnos hon i ganmol gwaith Canolfan Codi Pwysau a Ffitrwydd Caergybi ac Ynys Môn.

Roedd Rhun wedi mynychu dathliadau’r Ganolfan yn 50 oed yng Ngwesty Bae Trearddur dros y penwythnos, a oedd hefyd yn gyfle i ddathlu llwyddiant y codwyr pwysau Gareth Evans, Hannah Powell ac erill, yn ogystal a thalu teyrnged i sefydlwr y Ganolfan a’r enillydd medal Cymanwlad, Bob Wrench.

Yr wythnos hon, gwnaeth Rhun ddatganiad yn y Senedd yn canmol gwaith y Ganolfan yn eu cymuned leol yn ogystal ag ar y llwyfan byd-eang. Dywedodd:

“Diolch am y cyfle i ddymuno pen-blwydd hapus i sefydliad sy’n gwneud cyfraniad enfawr at iechyd a ffitrwydd Ynys Môn, ac sydd hefyd, yn digwydd bod, yn ganolfan rhagoriaeth chwaraeon o safon fyd-eang.

“Un o uchafbwyntiau Gemau’r Gymanwlad eleni oedd perfformiad y codwr pwysau Gareth Evans a enillodd y fedal aur. Roedd ei gamp wrth godi pwysau yn aruthrol, ond yr un mor drawiadol oedd yr angerdd a ddangosodd wrth redeg at ei hyfforddwr, Ray Williams, i ddathlu. Roedd Ray ei hun wedi sylweddoli breuddwyd fel hyfforddwr, ond cyn hyfforddi, roedd ef ei hun wedi ennill aur i Gymru yng Ngemau 1986 yng Nghaeredin. Cyflwynwyd Ray i godi pwysau gan Bob Wrench, enillydd efydd yng Ngemau Christchurch yn 1974, a Bob oedd â’r weledigaeth o sefydlu Canolfan Godi Pwysau a Ffitrwydd Caergybi ac Ynys Môn 50 mlynedd yn ôl.

“Yn athro chwaraeon ysgol uwchradd, nid yn unig oedd o’n dalentog iawn wrth godi pwysau, ond hefyd gallai weld beth all codi pwysau ei gynnig i bobl ifanc yr ardal, na fyddai efallai wedi cael cyfleoedd tebyg fel arall. Roedd Ray a Gareth ymysg y miloedd i gael budd. I roi syniad i chi o lwyddiant HAWFC, mae Ray ei hun wedi hyfforddi codwyr pwysau i 97 o fedalau aur ieuenctid ac uwch ar lefelau Cymreig a rhyngwladol. Ond mae agwedd gymunedol y clwb yn un sydd yr un mor bwysig. Mae hwn yn ganolfan gyda’i drysau ar agor i BAWB.

“Felly, Pen-blwydd Hapus a hir oes i’r sefydliad yma sydd wedi gwneud cymaint i’w gymuned a, thrwy ragoriaeth, wedi gwneud cymaint i helpu rhoi Caergybi a Môn ar fap chwaraeon y byd.”