Pobl ifanc ddigartref o Ynys Môn yn rhannu eu syniadau gydag ACau yng Nghaerdydd

Teithiodd grŵp o bobl ifanc o Ynys Môn i’r Cynulliad Cenedlaethol yng Nghaerdydd yr wythnos hon i gymryd rhan mewn dadl ar Ddigartrefedd ymysg pobl ifanc.
 
Trefnwyd y ddadl, a noddwyd gan AC Ynys Môn Rhun ap Iorwerth, gan fyfyriwr PhD o Brifysgol Bangor Natalie Roberts a Dr Julia Wardhaugh, yn gweithio gyda Digartref Môn, gyda chymorth grant a ddarparwyd gan Gyfrif Cyflymu Effaith ESRC trwy Brifysgol Bangor
 
Daeth nifer o bobl ifanc o Ynys Môn, sy’n byw mewn llety â chymorth ar hyn o bryd, i siarad ag Aelodau’r Cynulliad o wahanol bleidiau am faterion sy’n effeithio arnynt.
 
Yn siarad ar ôl y digwyddiad, dywedodd AC Ynys Môn Rhun ap Iorwerth:
 
“Roedd hi’n wych gallu croesawu pobl ifanc o Ynys Môn i’r Cynulliad Cenedlaethol heddiw i gymryd rhan mewn dadl ar ddigartrefedd ieuenctid. Buom yn trafod nifer o faterion, o dai cymdeithasol i’r rhaglen Cefnogi Pobl, a hoffwn ddiolch iddynt am rannu eu profiadau a’u syniadau gyda ni. ”
 
Dywedodd y cyd-drefnydd Natalie Roberts:
 
“Rwy’n credu bod hwn wedi bod yn brosiect cyffrous a phwysig iawn, a rydw i wedi mwynhau bod yn rhan ohono. Mae’r bobl ifanc dan sylw wedi gweithio’n dda fel tîm i baratoi a chyflwyno’r cyflwyniad sy’n cwmpasu materion y maent yn frwdfrydig amdanynt. Roedd y ddadl yn llwyddiannus a hoffem ddiolch i’r Aelodau Cynulliad a oedd yn bresennol am wrando ac ymateb i’r materion yr ymdriniwyd â nhw. Yn y pen draw, hoffem weld rhai o’n syniadau yn cael eu cymryd ymhellach ac efallai’n cael effaith ar bolisi digartrefedd yn y dyfodol yng Nghymru.”
 
Nododd rhai o’r bobl ifanc a gymerodd ran hefyd am eu profiad.
 
Dywedodd Phil Corrie “Roedd y ddadl yn ein galluogi i gael llais mewn sefyllfa ddadl ac i gael adborth gan Aelodau’r Cynulliad. Os ydym wedi effeithio ar ddim ond un pwnc sy’n ymwneud â digartrefedd, rydym wedi cael effaith.”
 
Dywedodd Josh Lloyd: “Mae Digartrefedd yn fater cymdeithasol hanfodol ac angen cael ei gydnabod. Mae’n bryder cynyddol ac mae angen gwneud rhywbeth”.
 
Ychwanegodd Camilla Zirniauskaite “Rwy’n credu bod y ddadl wedi dechrau sgwrs bwysig iawn am y problemau cymhleth ac anodd iawn. Rwy’n credu, fel tîm, ein bod wedi cael ein pwyntiau ar draws a gallu ddangos i’r ACau pam fod y materion hyn yn bwysig”.