“Wythnos Cofio yn amser da i atgoffa’n hunain am ein dyletswydd i gyn-filwyr” medd Rhun

Yn ystod Cwestiynau i’r Prif Weinidog yr wythnos hon, holodd Rhun ap Iorwerth AC am y gefnogaeth i gyn-filwyr sydd ei angen. Yn siarad yn y Sened, dywedodd:

“Mae wythnos y Cofio yn amser da i atgoffa ein hunain bod yna ddyletswydd arnom i ofalu am gyn-bersonél y gwasanaethau arfog.

“Nid ydym yn gwybod yn union faint o gyn-filwyr sy’n dioddef o broblemau iechyd meddwl achos nid yw’r ffigyrau union yn cael eu cyhoeddi, ond rydym ni’n meddwl bod rhyw 4% yn dioddef o anhwylder straen ôl-drawmatig, neu ‘post-traumatic stress disorder’. Rydym ni’n meddwl bod rhyw un o bob pump yn dioddef o ryw fath o afiechyd meddwl. Lleiafrif o gyn-filwyr ydy hyn, wrth gwrs, ond wrth i ni nesáu at Sul y Cofio, mae angen i bob cyn-filwr wybod bod y rhai a fu’n gwasanaethu ochr yn ochr â nhw yn cael eu gwerthfawrogi a’u bod yn cael eu gweld am yr hyn ydyn nhw, sef asedau i’n cymdeithas ni ac i’r gweithle, ac ati.

“Mae Plaid Cymru’n credu bod angen Deddf lles milwrol i sicrhau bod y cymorth ar gyfer cyn-filwyr yn gyson ac o ansawdd uchel ar draws y wlad, fel bod yr holl gyn-filwyr yn gwybod bod gan wasanaethau cyhoeddus rwymedigaeth gyfreithiol i fod yno i’w cyn-gymrodyr.”