Colofn i’r Mail 11/3/2020 – Coronafirws

Mae’r newyddion am y coronafirws yn achos pryder i nifer o fy etholwyr. Fe wnaf i fy ngorau felly i rannu unrhyw wybodaeth a roddir i mi gyda chi, a allai efallai helpu i leddfu rhai pryderon, a gall hynny helpu i’ch amddiffyn chi a’ch teulu.

Fel Gweinidog Iechyd Cysgodol Plaid Cymru rwy’n derbyn sesiynau briffio rheolaidd gan Lywodraeth Cymru, a’r wythnos diwethaf, fel aelod o Bwyllgor Iechyd y Cynulliad, llwyddais i holi Prif Swyddog Meddygol Cymru, yn ogystal ag uwch arweinwyr GIG Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Y peth cyntaf i’w ddweud ydy fy mod i’n deall pryderon pobl. Mae gen i deulu hefyd, ac fel chi rydw i eisiau gallu arfogi fy hun gyda’r wybodaeth orau y gallwn ni gael ein dwylo arni. Mae angen i ni wneud hyn er mwyn gallu gofalu amdanom ein hunain a’r rhai sy’n annwyl i ni, boed hynny’n blentyn, neu’n rhiant neu’n berthynas hŷn efallai.

Y cyngor diweddaraf (ar nos Lun) gan Lywodraeth Cymru oedd ei bod yn ymddangos bod y mwyafrif o achosion yn rai ysgafn. Ond wrth gwrs, fel gyda llawer o firysau, gall achosi symptomau mwy difrifol ymysg grwpiau mwy agored i niwed, gan gynnwys y rhai â chyflyrau iechyd hirdymor eraill.

Mae’n bwysig ein bod ni’n talu sylw i’r cyngor yr ydym yn ei gael. Synnwyr cyffredin ydy peth ohono. Golchwch eich dwylo yn aml. Defnyddiwch ‘tissue’ os ydych chi’n pesychu neu’n tisian, ac yna ei roi yn y bin sbwriel. A cheisiwch osgoi cyffwrdd â’ch wyneb.

Yna mae yna rai cyfarwyddiadau mwy caeth, er enghraifft i hunan-ynysu os ydych chi wedi ymweld â rhai ardaloedd yn ddiweddar, symptomau neu beidio, neu i gadw draw oddi wrth bobl eraill os oes gennych chi symptomau ar ôl dychwelyd o leoliadau eraill.

Mae’n debygol y bydd deddf newydd yn cael ei phasio i roi mwy o bwerau i awdurdodau geisio rheoli neu ohirio lledaeniad y firws. Byddaf yn ceisio dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif am y cynlluniau hynny, ac ar faterion fel sicrhau bod gweithwyr iechyd yn cael y gefnogaeth a’r adnoddau angenrheidiol i drin eraill a chadw eu hunain yn ddiogel. Rwyf wedi clywed rhai pryderon ac mae angen i gamau gan y Llywodraeth fod mor effeithiol â phosibl.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn diweddaru gwybodaeth a chyngor ar-lein yn rheolaidd. Rydw i wedi creu’r llwybr byr hwn i’ch helpu chi i ddod o hyd iddo: tinyurl.com/phwcovid19

Mae’n cynnwys y wybodaeth a’r atebion diweddaraf i Gwestiynau Cyffredin. Rwy’n sylweddoli na fydd gan lawer o bobl fynediad i’r rhyngrwyd, felly efallai y gallai ffrind neu aelod o’r teulu ofyn am atebion ar y wefan ar eich rhan os oes gennych unrhyw gwestiynau. Os na fedrwch wneud hynny, er na all fy swyddfa roi cyngor iechyd, os ydych chi am i’m tîm drosglwyddo’r wybodaeth a’r cyngor diweddaraf o’r wefan i chi, ffoniwch ni ar 01248 723599.

#CofiwchDryweryn

?Read my column in this week’s paper below.

Tryweryn has always been of great significance to me. My parents made sure I knew the story of how the village of Capel Celyn was drowned as the river Tryweryn was dammed to provide water for the Liverpool Corporation in the early 1960s.

As a child I remember during one hot, dry summer, taking a walk down to the village as the reservoir waters subsided. It left a deep impression on me, just as the drowning had caused a political awakening in Wales. Welsh MPs had voted against the drowning. Wales protested. But it went ahead anyway.

Never again could this be allowed to happen.
‘Cofiwch Dryweryn!’ (‘Remember Tryweryn’) was the protest cry painted on a wall on the A487 south of Aberystwyth in 1963 or 1964 by author and academic the late Dr Meic Stephens (father, incidentally, of Radio 1 DJ Huw Stephens).

And to this day it remains there. As a reminder.
It has evolved over the years, with additional words and symbols of protest added. But each time it’s eventually been touched up to its original form.

Recently, however, it’s come under attack. The political slogan was painted over by the word ‘Elvis’ earlier this year. It was quickly repainted. This weekend, however, vandals went a stage further, and demolished the top half of the wall.

Within hours, young Welsh men and women armed with cement and trowels – as well as the obligatory red and white paint – had rebuilt it.

Whilst the vandalism hurts me, striking as it does at the core of the need to stand up for this nation of ours, the determination with which the wall rose again gives real hope that we are a people that will not be cowed.

The police are treating the attack on the wall as a hate crime. We owe it to ourselves to conquer that hate. The love of Wales and its people, and a vision of our nation as welcoming, equal, international in outlook, diverse, proud of our history and excited about our future are values I’m committed to, and I hope you agree that in an a world that can seem very dark at times, we can together shine a beacon for what this country of ours can be, no matter who tries to divide us.

Colofn i’r Chronicle 10/1/2019 – Blwyddyn Newydd Dda!

Blwyddyn Newydd Dda!

Mae dechrau pob blwyddyn newydd yn amser i edrych ymlaen ar y flwyddyn o’n blaenau. Rydym yn wynebu cyffordd, a rhaid penderfynu pa ffordd yr ydym am fynd ymlaen. Beth yrasom ni at y gyffordd hon, yw pleidlais ddigwyddodd yn ôl ym mis Mehefin 2016, ble gofynnwyd i bobl benderfynu – ar sail yr hyn a addawyd ar ochrau bysiau ymhlith mannau eraill – os oeddent am aros yn aelodau o’r Undeb Ewropeaidd, neu am adael.

Pleidleisio i aros gwnes i, yn seiliedig ar fy ngwybodaeth i o’r hyn y mae mewn gwirionedd yn ei olygu i Gymru fod yn aelod o’r UE. Er enghraifft, rydym ni yng Nghymru yn cael mwy o arian gan yr UE nag yr ydym yn ei roi i mewn. Rydym ni yng Nghymru hefyd yn allforio mwy i’r UE nag yr ydym yn ei fewnforio. Yr ydym ni ar Ynys Môn ar y ffin, gyda chroesfan ffin uniongyrchol gyda’n cymydog agosaf yn yr UE, felly mae’n gwneud synnwyr cael marchnad sengl ac undeb tollau. Ychwanegwch at hynny’r manteision ehangach i genedl fach fel ni o fod yn rhan o ‘rwydwaith’ rhyng-Ewropeaidd, sy’n helpu ein Prifysgol leol ac yn hybu ymchwil, sy’n darparu cyfleoedd i’n pobl ifanc, sy’n gwneud teithio mor hawdd â phosib.

Pleidleisiodd eraill i adael, ac rwy’n parchu eu dewis yn llawn. Yn seiliedig ar yr hyn a gynigwyd iddynt – sef Brexit rhwydd, gydag arian yn cael ei ddychwelyd i’r Gwasanaeth Iechyd ac ati – penderfynodd eraill, gan gynnwys ffrindiau i mi, gymryd y naid, ac ar hyn o bryd dyna ble rydym ni rwan. Ond ar y pwynt yma dwi’n meddwl fod gan bobol yr hawl i wybod pa risg mae’r naid yna yn mynd i gael arnyn nhw.

Gall naid yn y gwyll fod yn beth da. Dechreuad newydd. Ond peidiwch â drysu hynny gyda naid i’r gwyll, a glanio yn y tywyllwch, pan rwyt ti’n gwybod fod ymyl clogwyn yn y tywyllwch hwnnw.

“Ni allai pethau fod yn waeth nag ydyn nhw rwan,” oedd meddwl ambell un yn ystod y refferendwm hwnnw. Mae gen i lawer iawn o gydymdeimlad â’r math hwn o chwilio am rywbeth ‘gwell’. Dyna pam rydw i mewn gwleidyddiaeth – oherwydd dwi’n gwybod y gallai Cymru a’n cymunedau yma ar Ynys Môn ymdrechu am gymaint mwy nag yr ydym yn ei gyflawni ar hyn o bryd. Ond nid oes gen i unrhyw amheuaeth, pan ddaw hi at ein haelodaeth o’r UE, y gallai pethau fod yn waeth. Yn llawer gwaeth.

Felly, gadewch i bobl benderfynu rwan, yn seiliedig ar y dystiolaeth sydd gennym rwan, os oes posib cyflawni’r hyn a addawyd i ni. (Profwyd fod yr addewid am arian mawr ychwanegol i’r GIG yn nonsens llwyr o fewn oriau o ganlyniad y refferendwm, er enghraifft).

Nid yw’n ymwneud ag ail-gynnal y refferendwm – gwyddom beth oedd y bobl wedi ei ddweud ym mis Mehefin 2016 – ond yn hytrach am benderfynu ar yr hyn y gellir ei gyflawni mewn gwirionedd. Mae’n ymwneud â phriodweddau ymarferol y cyfan. Ond byddaf hefyd yn parhau i wneud yr achos emosiynol bod bod yn rhan o’r UE yn gweithio i ni.

Yn ein cyfarfod staff cyntaf y flwyddyn y bore yma, addawodd fy nhîm i fod mor gadarnhaol ag y gallwn drwy gydol 2019, felly gadewch i ni fod yn Ewropwyr cadarnhaol yng Nghymru.

Colofn y Mail 21/11/18

Yr oedd wythnos diwethaf yn un hynod o ryfeddol i wleidyddiaeth. Wrth wylio’r sioe Brecsit yn San Steffan yn datblygu, rwyf yn pryderu beth fydd hyn yn ei olygi i ni yma yng Nghymru, ac wrth gwrs ar Ynys Môn, a’r effaith ar ein hallforwyr, ffermwyr, porthladd, Prif Ysgol… a’n pobl ifanc.

Mae’n bron i flwyddyn a hanner ers i Gymru ac Ynys Môn pleidleisio dros adael yr Undeb Ewropeaidd. Wrth ystyried achos Ynys Môn yr oedd y canlyniad bron yn union gyfartal wedi ei hollti rhwng Gadael ac Aros. Petai’r bleidlais oedd Aros a’r canlyniad mor agos, mi fysa hi’n amhosib rhag ystyried pryderon yr hanner arall o’r boblogaeth. Wrth gwrs, mi fyswn ni wedi aros yn yr UE, ond bysa angen i bryderon y bobl ei nodi a’i ystyried yn fanwl. Heb os nag oni bai, bysa Llywodraeth y DU angen addasu a llymhau ei reolau ar y rhyddid i bobl symud (er, nid gyda llaw – mae rheolau’r UE yn barod yn galluogi i aelodau’r undod rheoli camddefnydd o fudiant rhynglywodraethol), yn ogystal â mwy o drolowyder yn gyffredinol ynglŷn â materion yr UE.

Fel y mae, nid yn unig yw’r 50% bleidleisiodd dros Aros yn cael eu hanwybyddu, mae’r Llywodraeth yn cynnig rhywbeth hollol wahanol i’r addunedau a wnaethpwyd i’r rhai bleidleisiodd dros Adael. Mae’n hollol draed moch, a byddwch yn gwybod mai fy marn i yw, gyda thystiolaeth glir nawr o’n Blaenau, y dylid caniatáu i bobl bleidleisio a ydyn yn credu bod gadael NAWR fel y mae’r ddêl yn cael ei awgrymu yn rhywbeth y maen nhw’n ei gefnogi.

Roeddwn i gyda disgyblion yn Ysgol Uwchradd Caergybi yr wythnos diwethaf. Roedden yn hollol glir yn eu barn. Maen nhw’n meddwl bod gadael, nail I ar y termau sydd wedi cael eu ‘trafod’ neu Brecsit caled heb ddêl, yn hollol hurt. Ac ar ddiwedd y dydd, eu barn nhw sy’n bwysit. Y nhw yw’r dyfodol, a ni ddylai eu dyfodol cael ei darfu gan ideolegau hurt neu’r rhai sydd yn dyheu am ddyddiau Ymerodraeth Prydain.

Felly, mae Brecsit fel yr ydy yn gweld wedi dominyddu wythnosau diwethaf, ond mae yna lawer o bethau eraill wedi bod ar fy mhlât i gadw fi’n brysur. Rydw i wedi cymryd rhan yn y gwaith o graffu ar y Gyllideb, ac wedi cyfarfod a’r Ysgrifennydd Cyllid I lobio am ragor o gyllid ar gyfer Llywodraeth Leol. Rwy wedi cyfarfod a’r FSB i siarad am sut y gallwn ni wneud mwy i helpu busnesau bach, a theithio i ogledd ddwyrain Lloegr i ddysgu’r technegau orau wrth hyrwyddo’r Stryd Fawr. Rwyf wedi trafod marchnata Cymru a chynnyrch Cymru mru gydag arweinwyr ffermwyr ac wedi cymryd rhan mewn trafodaethau ar ddyfodol porthladd Caergybi. Mae cynrychioli Ynys Môn mewn trafodaethau o’r fath yn anrhydedd mawr.

Colofn y Mail – 7/11/2018

Felly… ydi ‘austerity’ drosodd? Ond mae Llywodraeth y DU yn honni hynny yng nghyhoeddiad y gyllideb yr wythnos diwethaf. Wel, gadewch i mi ddweud wrth y Canghellor Toriaidd fod hi ddim yn edrych nac yn teimlo felly o ble rydw i’n sefyll. Mae’n Cyngor ni yma yn Môn yn wynebu pwysau heb ei debyg o’r blaen. Mae cyllideb y rhan fwyaf o’r adrannau wedi cael ei torri yn aruthrol dros y degawd diwethaf, gydag addysg a gwasanaethau cymdeithasol yn cael ei warchod cyn belled ag sy’n bosibl. Wel, heb weithrediadau difrifol fydd dim dewis arall, ond rhagor o doriadau. Yn gynharach eleni, honnodd Cyngor Swydd Nottingham yn swyddogol ei bod nhw yn fethdalwyr, ac rydw i’n ofni bydd awdurdodau lleol yma yng Nghymru mewn sefyllfaoedd tebyg heb chwistrelliad mawr o adnoddau.

Mae Llywodraeth Llafur Cymru wedi dewis i beidio cymryd y pwysau oddi arnynt ei hunain gyda’i phenderfyniadau cyllideb, ac yn fy rôl newydd fel Ysgrifennydd Cysgodol Cyllid dros Blaid Cymru, byddaf yn cyfarfod Ysgrifennydd Cyllid y Cabinet yr wythnos yma i’w holi, yng ngolau cyllideb y DU, am gymorth i’n cynghorau fedru anadlu yn haws wrth iddynt gamu mewn i ‘aeaf arall, ac wynebu blwyddyn ariannol newydd.

Doedd camu i mewn i Dachwedd ddim yn hawdd, gyda thywydd garw a gwyntoedd trymion dros yr Ynys. Ond diolch i’r storm, doedd o ddim yn rhy ffyrnig y tro yma, a ni wnaeth y glaw ddaeth i’w ganlyn achosi gormod o broblemau. Ond mae difrod yn sgil stormydd o’r gorffennol a dros y flwyddyn ddiwethaf wedi gwneud i ni edrych ar newid hinsawdd. Yr wythnos yma, byddaf yn cadeirio cyfarfod cyhoeddus yn Llangefni fydd yn rhoi cyfle i holi’r cyngor, Cyfoeth Naturiol Cymru a Dŵr Cymru am y camau sydd wedi ei gymryd ers llifogydd yn y dref (rydw i wedi cadeirio cyfarfod tebyg yn Dwyran hefyd). Mae pobol angen sicrwydd, ac rydw i’n ddiolchgar i’r cyngor am gymryd camau pendant i warchod Llangefni trwy adeiladu wal newydd i’r Gogledd o Bont y Plas.

Yng Nghaergybi, gwyntoedd stormydd Emma oedd yn gyfrifol am y dinistr ar ddechrau’r flwyddyn. Cafodd marina’r dref ei chwalu, ac fel rydyn ni’n wynebu ein hail gyfarfod o’r Grŵp Defnyddwyr y Porthladd yr wythnos hon (rydw i’n cadeirio’r cyfarfod yma ar y cyd gyda’r AS), rydw i’n galw am fwy o dorchi llewys er mwyn dod a’r marina yn ôl yn gryf ac ar ffurf fwy cadarn. Roedd colli’r marina fel adnodd yn ergyd economaidd, ac rydw i’n gobeithio gallu tanio’r datblygiad yn ei flaen er mwyn ail-ddatblygu’r marina.

Colofn Rhun ar gyfer yr Holyhead and Anglesey Mail 18.07.18

Roeddwn yn falch o gael fy newis yn y balot yn ddiweddar i gyflwyno dadl fer i’r Cynulliad ar bwnc o’m dewis.

Ar ôl cael cywed am (a chel gweld drosof fy hun yn ystod ymweliad diweddar) y gwaith rhagorol sy’n cael ei wneud gan adran gwyddorau eigion Prifysgol Bangor ym Mhorthaethwy a bod yn ymwybodol o botensial Ynys Môn o ran ynni morol yn ogystal ag ymchwil, penderfynais ddefnyddio fy amser yn siambr y Cynulliad i drafod dyfodol y llong ymchwil Prince Madog.

Rwy’n siŵr y bydd y Prince Madog yn olygfa gyfarwydd i lawer ohonoch sydd wedi ei weld ynghlwm wrth y pier ym Mhorthaethwy. Dyma’r llong fwyaf i’w gweld yn rheolaidd ar y Fenai ac mae pawb sy’n falch ohoni yn gwybod ei bod yn symbol o ragoriaeth yr Ysgol Gwyddorau Eigion ym Mangor.

Roedd fy nadl nid yn unig yn dathlu y rôl honno, ond hefyd yn pwyso ar Lywodraeth Cymru bwysigrwydd y Prince Madog rwan a’i botensial cenedlaethol am flynyddoedd i ddod, gan wneud yr achos iddo gael ei wneud yn Long Ymchwil Morol Cenedlaethol i Gymru. Mae gan Iwerddon ddau yn barod!

Mae ardal morol Cymru yn cynnwys adnoddau naturiol gwerthfawr ac amrywiol a all ddarparu cyfleoedd economaidd a chymdeithasol sylweddol, ac sy’n cyfrannu at les y genedl a chenedlaethau’r dyfodol. Ond, mewn gwirionedd, gwyddom bron ddim am yr adnoddau hynny. Mae’n syfrdanol gyn lleied o wely’r môr sydd wedi’i fapio, o ystyried y mapio manwl ar y tir.

Mae mapio o’r fath yn flaenoriaeth ar lefel yr UE ac wedi bod ers peth amser, ond ni fu unrhyw gynllun cydlynol ar gyfer y DU – dim cynllun i Gymru. Mae’r broses o gasglu data wedi bod yn ad hoc. Nid yw wedi’i gydlynu’n iawn, a rhaid i hynny newid. Wrth gwrs, mae gennym yr adnodd y mae angen inni wneud y gwaith hwnnw: y Prince Madog. Gadewch i ni fod yn arloesol a gwneud iddo ddigwydd.

Mae disgyblion Ysgol David Hughes yn sicr yn gwybod beth yw arloesi! Cefais amser gwych yn siarad am fusnes ac entrepreneuriaeth yn Ffair Arloesi Ysgol David Hughes yr wythnos diwethaf. Roedd y ffair yn llawn syniadau gwych a grŵp gwych o fyfyrwyr. Dechreuwyd Dillad Arfordir yn y ffair y llynedd, ac maent wedi mynd o nerth i nerth, a newydd lansio cynnyrch newydd. Mae angen inni gefnogi a hyrwyddo’r entrepreneuriaid ifanc hyn. E wch amdani gyda’ch cynlluniau! – Dymunaf y gorau i chi gyd.

Colofn Rhun i’r Holyhead and Anglesey Mail 25 04 18

“Gwenwch!” Yn eu lycra, fe gymerodd grŵp o feicwyr anhygoel lun cyn iddynt ddechrau eu taith o Ynys Môn i Gaerdydd, ac ymunais â nhw i ddymuno’n dda iddynt. Byddai meddwl am daith 200 milltir yn ddigon i wneud i lawer grio yn hytrach na gwenu! Fodd bynnag, dwi wedi gwneud y daith fy hun, ac yn gwybod teimlad mor braf ydy hi i gyrraedd pen y daith – yn enwedig ar ôl codi arian neu ymwybyddiaeth ar gyfer achos da.

Yn yr achos yma, yr Hosbis Dewi Sant newydd sy’n cael ei agor yn Ysbyty Penrhos Stanley yng Nghaergybi. Roedd Cadeirydd yr Ymddiriedolwyr, Lyndon Miles, ymhlith y beicwyr. Ers agor ym 1998, mae Hosbis Dewi Sant yn Llandudno wedi darparu’r gofal lliniarol gorau posibl i filoedd o bobl yn Ynys Môn, Gwynedd a Chonwy. Nawr, bydd y gofal hwnnw’n cael ei gynnig yn nes at y cartref i bobl ar Ynys Môn. Rwy’n ddiolchgar i dîm Dewi Sant am eu hymrwymiad i’r ynys.

Fe wnes i’r daith i Gaerdydd mewn ffordd llawer llai blinedig, lle roeddwn i’n gallu rhoi nifer o faterion Ynys Môn ar yr agenda. Gofynnais i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd egluro pam mae staff sy’n monitro Afon Cefni i helpu i gynllunio amddiffynfeydd llifogydd newydd wedi cael eu symud i ddyletswyddau eraill. Nid yw’n ddigon da – mae angen atebion i’r bygythiad llifogydd gyda brys, yn Llangefni ac mewn mannau eraill.

Hefyd yn gysylltiedig â’r tywydd, rydym yn dal i ddelio ag effeithiau Storm Emma. Ar ôl dinistr y Marina, rwy’n falch o ddweud ein bod yn nesau at gyfarfod cyntaf Grŵp Defnyddwyr Porthladd Caergybi, y byddaf yn cyd-gadeirydd gydag AS yr ynys. Fe wnes i ymweld â Moelfre yr wythnos diwethaf i weld effeithiau’r storm yno hefyd. Byddaf yn helpu i gysylltu â’r awdurdod lleol ynghylch yr hyn sydd angen ei wneud i ddelio gyda’r effaith a gafodd y storm ar draeth y pentref.

Yn olaf – fe darodd storm wleidyddol Bae Caerdydd yr wythnos diwethaf gyda Llywodraeth Cymru Lafur yn bygwth mynd a’r Cynulliad i’r llys i’w atal rhag trafod adroddiad sy’n gysylltiedig â marwolaeth yr AC Carl Sargeant. Cefais fy siomi’n fawr gyda chamau gweithredu’r Llywodraeth. Mae’r Cynulliad yno i ddal y Llywodraeth i gyfrif – nid y ffordd arall rownd!

Wedi dweud hynny, efallai y bydd yn help gyda’r dasg bwysig o helpu pobl i wahaniaethu rhwng y Cynulliad a’r Llywodraeth. Y Cynulliad yw llais democrataidd Cymru. EICH llais CHI. Ac mae’n rhaid i’r Llywodraeth – y gellir ei newid mewn unrhyw etholiad – ei barchu bob amser.

Colofn Rhun i’r Holyhead and Anglesey Mail 11.04.18

Bydd nifer ohonoch wedi bod yn dilyn y ffrae diweddar dros gynlluniau’r RSPB i godi tâl o £5 am barcio yn Ynys Lawd. Rydw i’n teimlo’n anghyfforddus iawn am y newid arfaethedig yma.

Fe ysgrifennais at Bennaeth RSPB yng Nghymru y mis diwethaf, a cefais gyfarfod gyda hi yn Ynys Lawd yr wythnos diwethaf. Gofynnais iddynt ail-ystyried, gan bwysleisio pwysigrwydd Ynys Lawd i bobl Caergybi a Môn a gofyn iddynt ddatblygu cynllun fwy sensitif – pas blynyddol i bobl leol, er enghraifft, neu wahaniaethu rhwng parcio amser hir a byr. Fe ofynais hefyd iddynt rannu unrhyw elw gyda’r menter gymdeithasol sy’n rhedeg y goleudy – wedi’r cyfan, dyma pam mae lot o bobl yn ymweld ag Ynys Lawd.

Fe wnes i wrando ar RSPB hefyd. Dywedwyd wrthyf nad oedd dewis arall go iawn. Mae eu cyllid grant wedi mynd i lawr dros y blynyddoedd, ac mae angen iddyn nhw wneud Ynys Lawd yn gynaliadwy. Byddai’r tâl yn £2.50 ar amseroedd llai prysur o’r flwyddyn, yn hytrach na £5, a byddai am ddim cyn 9 y bore ac ar ôl 5 y prynhawn – delfrydol ar gyfer ymwelwyr lleol rheolaidd neu bobl sy’n mynd a’u cŵn am dro ayb (gwybodaeth bositif a ddylai wedi cael ei wneud yn gyhoeddus gan RSPB). Ond roeddwn yn dal eisiau iddynt gyfaddawdu.

Mae ymgyrch gret wedi tyfu ers i’r newidiadau arfaethedig gael eu gwneud yn gyhoeddus, ac rydw i’n ddiolchgar i bawb sydd wedi lobîo RSPB. Yn ddiweddarach yr wythnos diwethaf, dywedodd RSPB y byddent yn cyflwyno pas blynyddol o £20 i drigolion Ynys Cybi. Mae hyn yn gam yn y cyfeiriad iawn, ond mae’n dal i fod yn lot o arian, a byddai’n dda gweld y diffiniad o ‘lleol’ yn cael ei ehangu hefyd. Mae hefyd y mater o rannu elw. Ond rydym yn symud beth bynnag.

Felly gadewch i ni barhau i ddefnyddio grym perswâd…a hoffwn i RSPB ddefnyddio grym ymchwil i weithio allan sut y byddai’r tâl yn effeithio ar ddefnyddwyr lleol, gan gynnwys ymwelwyr i’r caffi, er enghraifft.

Efallai yn gyfreithiol fod Ynys Lawd yn eiddo i RSPB, ond ym Môn, rydym yn gwybod ei fod yn eiddo i ni i gyd go iawn.

Colofn Rhun ap Iorwerth i’r Holyhead and Anglesey Mail 14 02 18

Dwi’n falch o ddweud, gyntaf i gyd, fod eich Aelod Cynulliad yn dal i fod mewn un darn ar ôl gêm rygbi ffyrnig arall rhwng y Cynulliad a Thai’r Cyffredin ac Arglwyddi. Mae’n ddigwyddiad blynyddol, sy’n cael ei gynnal ar ddiwrnod gêm Cymru v Lloegr yn y Chwe Gwlad. Fe enillodd y Cynulliad unwaith eto (am y 7fed gwaith yn olynol rwan) ar ddydd Sadwrn, ond yn fwy pwysig, cawsom gyfle eto i godi ymwybyddiaeth o’n helusen, Bowel Cancer UK/Beating Bowel Cancer. Mae fy nghyd-weithiwr ym Mhlaid Cymru, Steffan Lewis AC, yn brwydro canser y coluddyn ar hyn o bryd, ac roedd o’n flaenllaw yn ein meddyliau wrth i ni gamu ar y cae ym Mharc Rosslyn yn Llundain.

Hefyd ar thema chwaraeon, hoffwn ddiolch i Ray Williams o Glwb Codi Pwysau a Ffitrwydd Caergybi ac Ynys Môn am roi tystiolaeth mor rymus i Bwyllgor Iechyd y Cynulliad yr wythnos diwethaf ar yr angen am fesurau brys i gynyddu gweithgaredd corfforol ymysg pobl ifanc. Roeddwn i eisiau iddo ddod i siarad gyda ni am fy mod yn gwybod gymaint o ddadleuwr angerddol a gwybodus ydy o yn y maes yma. Mae hi i fyny i ni fel Aelodau Cynulliad rwan i wneud yr achos dros weithredu gan y Llywodraeth.

Roedd fy ymarfer i gyda grŵp arbennig o ddisgyblion ysgol ar Ynys Môn yr wythnos ddiwethaf o natur feddyliol yn hytrach na chorfforol. Mae hi wastad yn braf cael cyfarfod gyda disgyblion, ond rhaid i mi ddiolch yn fawr i ddisgyblion blynyddoedd 3 a 4 yn Ysgol Henblas am wneud gwaith cartref mor dda cyn ein cyfarfod, fel fy mod wedi wynebu awr a hanner o gwestiynu di-dor. Fe wnes i wir fwynhau fy hun gyda chi – diolch bawb.

Mae ein hymchwiliad Pwyllgor Iechyd i weithgaredd corfforol wedi’i anelu at ddisgyblion fel nhw – gan roi bob cyfle iddynt aros yn heini ac yn iach. Yn ogystal â bod yn dda iddyn nhw, mae hefyd yn rhan o strategaeth tymor hir sydd ei angen arnom i gadw pwysau oddi ar yr NHS a’r system ofal – gan gadw pobl yn iach ac allan o’r ysbyty. Fe ddangosodd fy ymweliad i “bentwr diogelwch” Ysbyty Gwynedd yr wythnos cynt y math o bwysau mae nhw odano. I’r holl ddoctoriaid, nyrsys, rheolwyr a staff eraill, diolch am y croeso a’r mewnwelediad.

Colofn Rhun yn yr Holyhead and Anglesey Mail 13 09 17

Mae cyfarfodydd dros y dyddiau diwethaf wedi fy atgoffa i mi pa mor bwysig yw bod Llywodraeth Cymru yn cydnabod y gefnogaeth sydd ei hangen ar rai o’r bobl fwyaf bregus yn ein cymunedau. Mae arian ‘Cefnogi Pobl’ yn cyfrannu tuag at ystod eang o rwydweithiau cefnogi, ac os caiff arian ei dorri, bydd rhai o’r rheiny sydd angen help fwyaf yn teimlo’r effaith yn uniongyrchol.

Mae digartrefedd yn rhywbeth y bydd y rhan fwyaf o bobl yn ddigon ffodus i’w osgoi, ond gall ein hamgylchiadau newid yn gyflym iawn, gan ein gadael ni’n agored i niwed mewn ffyrdd nad oeddem erioed yn meddwl yn bosibl. Mae llawer gormod o bobl – yn ifanc ac yn hen – yn cael eu hunain, am ba reswm bynnag, a thrwy ddim bai eu hunain, yn methu â chael to uwch eu pen.

Dyna pam mae grwpiau fel Digartref Ynys Môn a Gorwel a gyfarfûm â’r wythnos hon, yn darparu gwasanaeth hanfodol. Mae yna grwpiau eraill hefyd, rydw i wedi cyfarfod llawer ohonynt yn y gorffennol ac yn edrych ymlaen at weithio gyda nhw eto.

Ond mae eu gwasanaethau’n costio arian, ac mae cronfeydd Cefnogi Pobl wedi dod yn asgwrn cefn llawer o’r hyn maen nhw’n ei wneud. Mae’r arian wedi’i dorri eisoes dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, ond ceir pwynt lle na all sefydliadau nad ydynt yn gwneud elw fel y rhain wynebu mwy o wasgfa. Byddaf yn edrych am gyfleoedd i atgoffa Llywodraeth Cymru am beryglon gwneud toriadau yn y meysydd hyn.

Byddaf hefyd yn cadw’r pwysau i wella cysylltiad ffonau symudol a band eang. Rwy’n gobeithio y bydd y rhai a ddaeth i ddigwyddiad a wnes i ei drefnu yn Cartio Mon yr wythnos diwethaf wedi cael defnydd ohono. Roedd yn gyfle i unigolion a busnesau sgwrsio’n uniongyrchol â Llywodraeth Cymru, Openreach, Vodafone ac EE am eu hanghenion a’u rhwystredigaeth. (Ac yr wyf yn ymddiheuro i’r rhai a ddaeth yno ddau ddiwrnod yn hwyr, oherwydd bod y dyddiad anghywir wedi’i argraffu mewn erthygl newyddion … ond mae fy swyddfa bob amser yn agored i chi!)

Yn olaf, uwch reolwyr Barclays oedd y diweddaraf i ddod i’m swyddfa i esbonio’r rheswm y tu ôl i’w penderfyniad i gau banc arall. Mae cau cangen Amlwch ym mis Tachwedd yn ergyd arall i’r dref. Ni allwn ni beidio, ac ni ddylem, ddod yn imiwn i’r penderfyniadau yma i gau a chodi ein hysgwyddau – a byddaf yn parhau i ddadlau gyda’r banciau mawr, fel y gwnes i gyda Barclays ar yr achlysur hwn, eu bod yn siomi eu cwsmeriaid ffyddlon.