RHAID AMAU’R PENDERFYNIAD I DYNNU BETSI ALLAN O FESURAU ARBENNIG

“Llywodraeth Cymru sydd dal yn gyfrifol” medd Rhun ap Iorwerth

Wrth ymateb i’r newyddion y bydd Betsi Cadwaladr yn cael ei dynnu allan o fesurau arbennig ar unwaith, dywedodd Rhun ap Iorwerth, Aelod o’r Senedd dros Ynys Mon a Gweinidog Cysgodol Plaid Cymru dros Iechyd,

“Mae’r cyhoeddiad heddiw yn syndod o gofio mai dim ond ychydig wythnosau’n ôl y dywedodd y Gweinidog Iechyd nad oedd digon o gynnydd wedi’i wneud er mwyn dod allan o fesurau arbennig. Dywedodd wrthym fod heriau mawr i’w goresgyn o hyd, yn enwedig ym maes iechyd meddwl.

“Drwy ymyrraeth barhaus wedi ei dargedu, mae Gweinidogion Llafur yn parhau i fod yn gyfrifol am yr hyn sy’n digwydd o ran cyfeiriad strategol a darparu gwasanaethau yn y gogledd, ac ar ôl 5 mlynedd a hanner o fesurau arbennig, gellir maddau i gleifion am fod yn amheus ynghylch yr hyn y bydd y cyhoeddiad heddiw’n ei olygu mewn gwirionedd o ran gwelliannau i wasanaethau.

“Mae Plaid Cymru yn credu bod problemau’r Bwrdd yn gronig ac yn strwythurol, a bod angen newidiadau mawr o hyd. Dyna pam yr ydym yn dweud ei bod yn bryd i ddechrau o’r newydd, gyda strwythurau iechyd a gofal newydd yn gwasanaethu’r gogledd yn hytrach na’r Bwrdd presennol, sy’n rhy fawr ac anghysbell o’r cymunedau mae’n ei wasanaethu. Mae cleifion a staff yn haeddu gwell, ac rwy’n diolch i’r staff rheng flaen sy’n gweithio’n galed am eu gwaith a’u hymrwymiad yn ystod blwyddyn mor anodd.”

DIWEDD.

‘SIOP-UN-STOP’: RHUN AP IORWERTH YN RHYDDHAU CYNLLUN AR GYFER DARPARIAETH IECHYD MEDDWL POBL IFANC

Rhun ap Iorwerth yn cyhoeddi cynllun newydd i gefnogi lles meddyliol pobl ifanc

Byddai Llywodraeth Plaid Cymru yn sefydlu canolfannau ar hyd a lled Cymru i ddarparu cymorth iechyd meddwl i bobl ifanc, meddai Aelod o’r Senedd dros Ynys Môn Rhun ap Iorwerth AS, Gweinidog Cysgodol Iechyd.

Byddai’r canolfannau’n cynnig cymorth cynnar i bobl ifanc nad ydynt yn ddigon sâl i ofyn am driniaeth seiciatrig uwch, ond eto angen cymorth iechyd meddwl arnynt. Byddent yn cynnig apwyntiadau cwnsela wedi trefnu o flaen llaw, neu ddelio ag argyfyngau, a hefyd ar sail pobl yn galw i mewn.

Dywedodd Mr ap Iorwerth y byddai’r canolfannau “siop-un-stop” yn “chwyldroi” y ffordd y mae pobl ifanc yn cael cymorth iechyd meddwl, ac, wrth fod yn gysylltiedig â gwasanaethau iechyd eraill, byddai’n helpu i gydgysylltu “gwasanaeth cynyddol wasgaredig”.

Mae’r cynllun sydd wedi’i gostio’n llawn yn adlewyrchu cysyniad tebyg sydd wedi’i lansio yn Seland Newydd, gyda’r lleoliadau yng nghanol y dref yn cynnig gwasanaethau gan feddygon, nyrsys, cwnselwyr, gweithwyr cymdeithasol a staff ieuenctid.

Mae astudiaeth newydd gan Brifysgolion Abertawe a Chaerdydd yn dangos bod Cymru’n wynebu ton o broblemau iechyd meddwl yn sgil Covid-19, gydag oedolion iau, menywod a phobl o ardaloedd difreintiedig yn dioddef fwyaf.

Meddai Rhun ap Iorwerth AS,

“Gan fod cyfyngiadau Covid a gofynion hunan-unigedd yn effeithio fwyfwy ar bobl ifanc, ac amseroedd aros ar gyfer gwasanaethau sydd ddim yn gysylltiedig â Covid yn ymestyn, nid ydym yn gwybod faint o bobl ifanc y gallai fod angen cymorth iechyd meddwl ar hyn o bryd.

“Mae angen i’r newidiadau o ran gwasanaethau a’u hargaeledd fod yn chwyldroadol. Bydd canolfannau ‘siop-un-stop’ Plaid Cymru yn rhan allweddol o’r trawsnewidiad hwnnw mewn gwasanaethau i bobl ifanc.

“Bydd y canolbwynt ar les ac iechyd meddwl. Byddai’r canolfannau hyn yn cynnig cwnsela drwy apwyntiad ond hefyd – yn hollbwysig – ar sail galw i mewn. Mae gennym eisoes wasanaethau galw i mewn ar gyfer problemau corfforol yn ein hadrannau damweiniau ac achosion brys, felly mae’n iawn cael gwasanaethau galw i mewn i’r rhai sydd â phroblemau iechyd meddwl.

“Ni ddylid gadael unrhyw berson ifanc yn teimlo nad oes ganddyn nhw unrhyw gymorth, yn enwedig yn dilyn un o’r cyfnodau mwyaf o newid yn ein hanes. Heb ofal, gall iechyd meddwl gwael yn ystod plentyndod a’r glasoed arwain at broblemau iechyd meddwl pan yn hyn, ac felly mae’n bwysig iawn darparu cymorth cynnar yn hawdd i unrhyw berson ifanc sydd eu hangen.”

DIWEDD

“Angen i ni weld y data a’r tystiolaeth yn cael ei ddefnyddio’n effeithiol i gadw pobl yn ddiogel”

Rhun ap Iorwerth yn galw am fesurau ychwanegol i ddiogelu pobl mewn ardaloedd sydd â nifer uchel o achosion.

Wrth i’r cyfnod clo cenedlaethol ddod i ben neithiwr, mae Aelod o’r Senedd dros Ynys Môn, a Gweinidog Iechyd cysgodol Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth yn galw am fesurau ychwanegol i helpu i gadw pobl yn ddiogel mewn ardaloedd sydd a nifer uchel o achosion:

“Gyda’r clo cenedlaethol bellach wedi dod i ben, bydd y rhan fwyaf o bobl yn deall bod angen lefel sylfaenol o gyfyngiadau Cymru gyfan am beth amser, ond gobeithiaf y gall hynny fod yn set gymharol isel a chynaliadwy o reolau all bawb addasu i fyw â nhw.

“Ond lle mae gennym glystyrau neu ardaloedd mwy lleol gyda achosion arbennig o uchel, mae’n gwneud synnwyr I gael set tynnach o reolau i ostwng y gyfradd R, a helpu i ddiogelu pobl yn yr ardaloedd yna. Dylid gefnogi hyn gyda chymorth cymunedol ac ariannol sylweddol hyd nes bydd lefel yr haint dan reolaeth unwaith eto.

“Mae gennym lefelau difrifol o’r feirws mewn rhai ardaloedd – mae pobl wrth reswm yn bryderus am hyn, ac mae angen i’r Llywodraeth egluro wrthym sut mae’n bwriadu ymateb i hynny. Llywodraeth Cymru sydd â’r data a’r tystiolaeth, felly gadewch i ni weld bod data a thystiolaeth yn cael eu defnyddio’n effeithiol i gadw pobl yn ddiogel.”

DIWEDD.

MAE ANGEN INNI DDEFFRO I’R ARGYFWNG YN EIN HYSBYTAI

Rhun ap Iorwerth AS yn galw eto am ysbytai ‘Gwyrdd’ di-GOVID

Wrth ymateb i’r newyddion bod bron i 200 achos o goronafeirws wedi’i ddal mewn ysbytai yn ystod yr wythnos diwethaf, dywedodd Aelod o’r Senedd dros Ynys Môn a Gweinidog Iechyd Cysgodol Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth AS:

“Fe wyddom bod y pandemig yn rhoi straen difrifol ar wasanaeth iechyd Cymru, ond dyma atgoffwr arall heddiw. Mae amseroedd rhestrau aros saith gwaith yn uwch na buon nhw, mae adroddiad diweddar gan Macmillan yn dangos oedi pryderus iawn am wasanaethau canser, a chawn bellach ar ddeall bod bron i 200 o gleifion wedi dal coronafeirws yn ein hysbytai dros yr wythnos diwethaf.

“Mae’n rhaid darbwyllo pobl bod y Llywodraeth yn gwneud popeth fedran nhw i ddarparu safleoedd di-COVID ‘Gwyrdd’ ar frys, neu safleoedd ‘COVID-isel’ ar gyfer diagnosis a thriniaeth. Ac o ystyried pa mor gyflym all y feirws ymledu o fewn lleoliadau iechyd a gofal, rhaid iddynt fod yn hyderus yn y camau a gymerir i gadw’r feirws allan yn y lle cyntaf hefyd. Dydw i ddim eisiau i bobl all fod angen triniaeth wneud y penderfyniad i aros i ffwrdd, gall arwain at broblemau mwy difrifol iddyn nhw eu hunain ac i’r gwasanaeth iechyd.”

DIWED

Gallai triniaeth gynharach o achosion posib fod wedi achub cannoedd o fywydau

Ysgrifennodd Mr ap Iorwerth at y Gweinidog Iechyd ym mis Mawrth ac ym mis Ebrill, gan annog Llywodraeth Cymru i hyrwyddo defnydd profion ocsigen yn y gwaed a’r defnydd o gymorth CPAP ar gyfer anadlu, fel ffordd o ganfod Covid-19 yn gynnar mewn pobl sydd â symptomau perthnasol, a darparu triniaeth yn gynt er mwyn osgoi’r angen am gymorth anadlu gofal dwys. Dangosodd tystiolaeth cynnar y gallai hyn achub bywydau a chymryd pwysau oddi ar y GIG.

Dywedodd fod Gweinidogion yn “frawychus o araf” wrth ddiweddaru’r canllawiau ar gyfer gweithwyr iechyd proffesiynol a’i bod yn bosib bod deufis o ddiffyg gweithredu rhwng yr ohebiaeth, a’r newid yn yr ymagwedd wedi arwain at ganlyniadau trychinebus.

Bellach, dros bedwar mis yn ddiweddarach, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi datganiad yn amlygu manteision yr ymyrraeth cynharach hwn ac yn addo adnoddau newydd i gyflwyno’r dull newydd hwn.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth MS, Gweinidog Iechyd cysgodol Plaid Cymru,

“Mae tystiolaeth rhyngwladol wedi amlygu’n gyson y gallai ymyrryd yn gynharach, drwy ddefnyddio ocsimetrau pwls, peiriannau CPAP a phrofion lefel ocsigen gwaed, arwain at ganlyniadau gwell mewn achosion positif Covid-19.

“Mae Plaid Cymru, ar sawl achlysur dros gyfnod o fisoedd, wedi gofyn i Lywodraeth Cymru fabwysiadu’r dull meddygol hwn – mewn gohebiaeth gyda’r Gweinidog Iechyd, yn ystod cwestiynau yn y Senedd, ac yn y cyfarfodydd grŵp craidd Covid gyda Llywodraeth Cymru.

“Ond maent wedi bod yn frawychus o araf o ran ymateb, gan arwain at fisoedd o ddiffyg gweithredu rhwng yr ohebiaeth a’r newid yn yr ymagwedd ac oedi pellach o 2 fis cyn hysbysu’r Senedd a’r cyhoedd. Gall yr oedi hwn fod wedi costio llawer o fywydau. ”

Wrth ymateb i arweinydd Plaid Cymru Adam Price MS yng nghyfarfod rhithwir y Senedd heddiw, dywedodd y Prif Weinidog fod y GIG rhy brysur yn ymateb i’r pandemig ar y pryd, ond dywedodd Rhun ap Iorwerth MS:

“Pwrpas ein hymyrraeth, a’n annogaeth i adnabod a thrin hypoxia distaw yn gynnar, oedd er mwyn tynnu’r pwysau oddi ar y GIG, a sicrhau bod modd trin mwy o gleifion heb yr angen am gymorth anadlu gofal dwys, lle mae’r siawns o oroesi yn cael ei leihau’n sylweddol.”

Ychwanegodd:

“Mae’n amlwg bod angen i Weinidogion ystyried elfennau o ddiffyg gweithredu yn ystod y pandemig. Mae’n hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn gweithredu’n gyflym ac yn bendant os ydym am ymateb yn well i’r ail don na’r cyntaf.

“Dyna pam y mae’n rhaid i’r Llywodraeth gyhoeddi amserlen fanwl ar gyfer yr ymchwiliad i’r pandemig yng Nghymru – ymchwiliad y mae eisoes wedi ymrwymo iddo – heb unrhyw oedi pellach.”