Dylai pobl sydd ddim eisiau neu ddim yn gallu mynd ar-lein ddim colli allan, medd AC

Dylai pobl sydd ddim yn gallu, neu ddim yn teimlo’n gyfforddus hefo mynd ar y we ddim colli allan ar gyngor a gwasnaethau hanfodol, medd Rhun ap Iorwerth AC.

Defnyddiodd Rhun ddadl aelod unigol yn y Senedd yr wythnos hon i dynnu sylw at y ffaith fod mwy a mwy o wasanaethau ar gael ar-lein yn unig a bod hynny yn gallu arwain at eithrio digidol, a phobl yn colli allan ar fargeinion pan mae’n dod i siopa neu ddewis cyflenwyr trydan, nwy ayb.

Yn siarad yn y Senedd ddoe, dywedodd Rhun ap Iorwerth:

“Nid ymwrthod a thechnoleg newydd ydw i. Dwi’n gyfforddus iawn fy hun yn defnyddio gwasanethau ar lein. A fel cymaint o bobl mae technoleg o’r math yma wedi gwneud fy mywyd i’n haws mewn llawer ffordd.

“Ond fel mae mwy a mwy o wasanaethau yn mynd ar lein – yn wasnaethau bancio, post, adnewyddu tocyn bws, llysoedd hyd yn oed, mae mwy o bobl mewn peryg o golli allan. A dwi’n gweld o waith achos yn fy swyddfa i bod hyn yn gallu bod yn boen meddwl go iawn i rai, yn enwedig pobl hŷn.”

Cyfeiriodd at yr enghraifft ddiweddar gan Lywodraeth Cymru o wneud i bobl orfod gwneud cais i adnewyddu eu tocynnau bws ar-lein. Penderfyniad annoeth, medd Rhun, yn enwedig o ystyried y grŵp targed ar gyfer hyn.

“Mi ddaeth hi’n amlwg yn fuan iawn o sgwrsio gydag etholwyr fod pobl yn poeni am orfod gwneud hyn ar lein a nifer ddim yn gwybod lle i ddechrau. Roeddan ni’n clywed straeon am bobl wedi colli cwsg yn poeni am sut oedda nhw’n mynd i adnewyddu eu tocyn, am eu bod nhw’n ddibynnol ar fysus.

“Fe wnaeth fy swyddfa i felly gynnig y byddem ni yn helpu pobl i wneud eu ceisiadau tocyn bws ar-lein ac ers mis Medi, mae fy swyddfa wedi delio efo dros 300 o geisiadau am gerdyn bws Newydd ar wefan Trafnidiaeth Cymru. 300 o bobl oedd unai ddim yn teimlo’n gyfforddus yn gwneud y cais eu hunain, neu hefo dim mynediad at ryngrwyd heblaw trwy ein swyddfa ni.”

Cyfeiriodd hefyd at wasanaethau bancio ac am yr enghreifftiau niferus ar draws Cymru o ganghennau banc yn cau, gan orfodi pobl i wneud eu bancio ar-lein:

“Mi glywch chi fanc yn dweud weithiau ‘peidiwch poeni, mi geith pobl ddefnyddio’r gangen yn y dref nesaf’ ond yn cau honno’n ddiweddarach hefyd. Ar ben hynny, mi oedd gynnoch chi’r sefyllfa lle gwnaeth Barclays benderfynu na ddyla’u cwsmeriiad nhw allu tynnu’u harian allan yn Swyddfa’r Post chwaith – er o’n i’n falch ein bod ni wedi llwyddo i roi pwysau arnyn nhw i sgrapio’r syniad hwnnw. Ond mae o YN dangos diffyg ymrwymiad y banciau mawr i feddwl am eu cwsmeriaid, yn enwedig rhai hŷn, neu mewn ardaloedd gwledig.

“Dyna pam dwi’n galw ar i’r Llywodraeth roi pwysau ar y sector breifat i sicrhau nad ydy cwsmeriaid yn cael eu hynysu ac yn dod dan anfantais os mai dim ond gwasnaethau ar-lein sy’n cael ei gynnig.”

Yn ymateb dros y Llywodraeth, dywedodd y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan:

“Er ein bod yn cydnabod fod pawb ddim yn gyffyrddus â’r rhyngrwyd, rydym am gefnogi pobl i wneud dewisiadau gwybodus ynghylch sut y maent yn cymryd rhan yn ddiogel mewn byd sy’n fwyfwy digidol. Felly, rydyn ni eisiau annog pobl i ddefnyddio’r rhyngrwyd, oherwydd rydyn ni’n gwybod bod y manteision yno, ond mae’n rhaid i ni ddarparu ar gyfer y bobl hynny nad ydyn nhw am ddefnyddio’r rhyngrwyd neu nad ydyn nhw’n gallu defnyddio’r rhyngrwyd. Felly, rydym yn ymdrechu i annog defnyddio’r rhyngrwyd: Mae menter arwyr digidol Cymunedau Digidol Cymru wedi hyfforddi dros 5,000 o wirfoddolwyr ifanc i helpu pobl hŷn mewn ysbytai a chartrefi gofal i fynd ar-lein, a phrosiect arloesol arall yw cynllun benthyciad tabled y Fro, sydd yn caniatáu i breswylwyr ledled Bro Morgannwg fenthyg iPads wedi’u galluogi ar y rhyngrwyd o lyfrgelloedd lleol bron mor hawdd ag y byddent yn ei wneud mewn llyfr.

“Rwy’n credu mai egwyddor allweddol hyn i gyd yw y dylem ddylunio gwasanaethau cyhoeddus o amgylch anghenion y defnyddiwr terfynol, ac yn nodweddiadol bydd hyn yn golygu gwasanaeth sy’n gweithio’n ddigidol ond sydd hefyd yn diwallu anghenion defnyddwyr terfynol sydd wedi’u gwahardd yn ddigidol, a dyna beth mae Llywodraeth Cymru eisiau gwneud.”

Wrth gloi’r ddadl dywedodd Rhun ap Iorwerth:

“Mae technoleg yn rasio ymlaen. Daw llawer iawn o dda o newid a datblygu technoleg, yn amlwg, ond mae yna rai risgiau hefyd. Un o’r risgiau hynny yw bod pobl, o bryd i’w gilydd, yn cael eu gadael ar ôl. Ni allwn adael i hynny ddigwydd. Hyderaf fod ein neges wedi’i chlywed yma heddiw a byddwn yn cadw llygad barcud ar gamau cadarnach y Llywodraeth ar hyn mewn misoedd a blynyddoedd i ddod.”

Amseroedd aros orthopedig – wedi mynd tu hwnt i argyfwng

Rhun ap Iorwerth yn galw am ddadl brys i drafod amseroedd aros yn Ysbyty Gwynedd

Mae AC Ynys Môn Rhun ap Iorwerth wedi gofynam ddadl yn amser y Llywodraeth i drafod yr argyfwng gwirioneddol sydd yna o ran amseroedd aros am lawdriniaeth orthopedig yn Ysbyty Gwynedd, a’r pryder bod yr argyfwng yna wedi troi yn rhywbeth llawer gwaeth na hynny.

Yn siarad yn y Senedd ddoe, dywedodd Rhun:

“Mis Mai oedd y tro diwethaf i mi ofyn am ffigyrau aros ar gyfer llawdriniaeth orthopedig yn Ysbyty Gwynedd. Mi oedd yna 2,200 o bobl yn aros bryd hynny am 110 o wythnosau. Erbyn i fi gael yr ateb diwethaf gan fwrdd iechyd Betsi Cadwaladr yn yr wythnosau diwethaf, mae’r ffigwr hwnnw wedi codi i 2,900 o bobl ac amser aros o 115 o wythnosau.

“Does dim angen i fi ddweud bod hynny’n annerbyniol. Mae prif weithredwr y bwrdd iechyd yn ymddiheuro yn ei lythyr diweddar i fi ac yn derbyn bod hyn yn annerbyniol, ond nid ymddiheuriad rydyn ni’n chwilio amdano fo ond trefn sydd yn galluogi cleifion yn fy etholaeth i ac etholaethau cyfagos i gael triniaeth mewn amser teg.

“Mae yna ddau o lawfeddygon yn mynd i gael eu penodi o fis Ionawr, fel rydw i’n deall. Y gwir amdani ydy bod hyn yn rhy ychydig ac yn rhy hwyr, ac maen nhw’n delio rŵan efo amser aros o 700 yn fwy o bobl na pe bai’r penderfyniad wedi cael ei wneud chwe mis yn ôl neu fwy i benodi pan oedd gwir angen. Felly, a gawn ni ddadl frys ar hyn oherwydd, fel dwi’n dweud, mi oedd gennym ni argyfwng yn flaenorol, ond mae wedi mynd tu hwnt i hynny erbyn hyn hyd yn oed?”

Ewch i gael eich brechlyn ffliw!

Mae Aelod Cynulliad Ynys Môn, Rhun ap Iorwerth, yn annog pobl 65 oed neu drosodd, gofalwyr, menywod beichiog a’r rheini â rhai afiechydon cronig neu dymor hir i gael y brechlyn ffliw am ddim i amddiffyn eu hunain a’r rhai o’u cwmpas.

Mae ffliw yn salwch anadlol, sy’n effeithio ar yr ysgyfaint a’r llwybrau anadlu, ac mae’n ganlyniad haint a achosir gan firws ffliw. Gan fod y ffliw yn cylchredeg bob blwyddyn yn y DU yn ystod misoedd y gaeaf (Hydref i Ebrill yn gyffredinol), fe’i gelwir weithiau’n ffliw tymhorol ac mae’n deillio o newidiadau bach i’r firws o’r flwyddyn flaenorol sy’n golygu efallai na fydd rhai pobl sy’n dod ar draws y firws newydd bellach yn gwbl imiwn.

Wrth siarad ar ôl derbyn ei bigiad ffliw gan Fferyllfeydd Cymunedol Cymru heddiw, dywedodd Rhun ap Iorwerth:

“Rwy’n annog y rhai sydd mewn grwpiau sydd mewn perygl i wneud apwyntiad gyda’u meddyg teulu lleol neu fynd i’w fferyllfa gymunedol a chael y brechlyn ffliw am ddim. Mae’n cymryd munud, yn para blwyddyn a gallai arbed bywyd. ”

Mae brechlyn yn cael ei ddatblygu ar gyfer pob tymor sy’n cael ei gynnig am ddim i rai plant, pawb 65 oed a hŷn, pobl mewn rhai grwpiau ‘mewn perygl’ sy’n fwy tebygol o ddatblygu cymhlethdodau o ganlyniad i gael ffliw a hefyd y rhai sy’n gofalu am bobl mewn mwy o berygl.

I gael mwy o wybodaeth am amddiffyn eich hun rhag ffliw, ewch i https://phw.nhs.wales/services-and-teams/beat-flu/

AC Môn yn mynd ar ei feic i gefnogi teithio llesol

Fe ymunodd Aelod Cynulliad Ynys Môn Rhun ap Iorwerth gydag ymgyrchwyr o bob rhan o Gymru a oedd yn seiclo i’r Senedd heddiw.

Roeddynt yno i ymgyrchu am gynydd yn y gwariant ar deithio llesol yng Nghymru i £20 y pen y flwyddyn ac i Lywodraeth Cymru roi strategaeth teithio llesol wedi’i seilio ar dystiolaeth.

Roedd y digwyddiad yn cael ei gefnogi gan ystod eang o fudiadau gan gynnwys Beicio Bangor, British Heart Foundation, a British Lung Foundation.

Yn dilyn y daith beicio, bu Rhun ap Iorwerth yn annerch ymgyrchwyr o risiau’r Senedd.

Dywedodd Mr ap Iorwerth:

“Fe wnes i wir fwynhau seiclo i’r Senedd heddiw fel rhan o ddigwyddiad i hyrwyddo teithio llesol. Rydym eisoes yn ymwybodol o’r buddiannau o deithio llesol – mae deithio llesol i’r ysgol yn gallu cynyddu lefelau canolbwyntio plant hyd at 4 awr, er enghraifft, a buddiannau iechyd. Mae angen i ni nawr weld cynydd yn y gwariant ar deithio llesol er mwyn ei gwneud hi’n haws ac yn fwy diogel i bobl allu gwneud siwrneai byr dyddiol ar droed neu ar feic.”

Blog profiad gwaith – gan Madalen Reid

Ges i’r cyfle i wneud wythnos o brofiad gwaith gyda Rhun ap Iorwerth, Aelod Cynulliad Ynys Môn, ym Mehefin 2016. Rydw i’n ddisgybl chweched dosbarth yn Ysgol Tryfan ym Mangor, ac rydw i’n byw ym Mhorthaethwy ar Ynys Môn. Er bod fi ddim yn astudio gwleidyddiaeth yn yr ysgol, mae gen i ddiddordeb mawr yng ngwleidyddiaeth Cymry, Prydain a’r byd, ac rydw i’n gobeithio astudio gwleidyddiaeth yn y brifysgol ac ella mynd ymlaen i weithio ym maes gwleidyddiaeth yn y dyfodol. Wnes i ddewis gwneud mi mhrofiad gwaith hefo Rhun ap Iorwerth oherwydd roeddwn i eisiau gweld gwaith dydd i ddydd AC a dod i ddeall mwy am fyd gwleidyddiaeth, ac yn enwedig gwleidyddiaeth Cymru.

Roedd yr wythnos roeddwn i’n gwneud fy mhrofiad gwaith yn wythnos ofnadwy o bwysig a diddorol yng ngwleidyddiaeth Cymru, Prydain ac Ewrop. Yr wythnos cynt, roedd y Deyrnas Unedig wedi pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd, hefo’r rhan fwyaf o siroedd Cymru yn pleidleisio i adael. Oherwydd hyn, ges i weld yr ochr cyffroes o waith AC, wrth i faterion pwysig fel yr Undeb Ewropeaidd cael eu trafod yn y cynulliad.

Gwariais tair allan o’r pum diwrnod yn Swyddfa Etholaeth Rhun ap Iorwerth yn Llangefni, lle ges i’r cyfle i ysgrifennu llythyrau a chlywed cwynion a phroblemau etholwyr oedd yn dod i’r swyddfa. Roedd hi’n ddiddorol gweld bod rhaid i staff AS delio hefo amryw o broblemau, o rhai bach oedd yn gallu cael eu datrys yn hawdd, i bryderon ynglŷn â materion pwysig fel canlyniad refferendwm yr UE, lle doedd dim atebion sydyn a hawdd. Dangosodd hyn i mi fod gwaith AC yn ei etholaeth yn bwysig, yn ogystal â’i waith yn y Senedd.

Gwariais y ddau ddiwrnod arall o’r wythnos yn y cynulliad yng Nghaerdydd. Dyma oedd y rhan mwyaf cyffroes o fy wythnos profiad gwaith. Roedd y swyddfa yn brysur, a wnes i gyfarfod pobl oeddwn i ddim ond wedi gweld ar y teledu o’r blaen, fel arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood. Ges i’r cyfle i wylio sesiwn plenary yn y Senedd, a hefyd trafodaeth amdan ganlyniadau’r refferendwm yr wythnos cynt. Ges i weld sut roedd pobl hefo safbwyntiau gwahanol iawn yn gallu trafod materion pwysig gan drio dod i gytundeb amdan beth i wneud nesaf i wneud y peth gorau i Gymru. Roedd o’n ddiddorol gweld trafodaeth o fater mor bwysig yn cymryd lle tra roeddwn i yn gwylio, ac i weld sut mae trafodaeth yn y Senedd yn gweithio, a sut mae penderfyniadau yn cael eu gwneud. Roedd y galeri cyhoeddus yn llawn oherwydd pwysigrwydd y drafodaeth, ac roedd hi’n amlwg iawn roedd gan bawb, yn cynnwys y cyhoedd, teimladau cryf am a mater oedd yn cael ei drafod

Wnes i hefyd dysgu mwy am y ffordd roedd pwyllgorau a grwpiau trawsbleidiol yn cael eu sefydlu, eu pwrpas a sut roedden nhw’n gweithio. Roedd hyn yn agwedd o lywodraeth doeddwn i ddim wedi meddwl llawer amdan yn y gorffennol, a wnes i weld bod trafodaethau yn y Senedd dim ond yn rhan o’r gwaith roedd AC yn gwneud.

Roedd o’n wythnos ddiddorol iawn, ac rydw i rŵan yn deall mwy amdan y fath o waith mae pobl yn gwneud ym maes gwleidyddiaeth yng Nghymru, ac mae’r profiad wedi gwneud fi’n fwy sicr na gwleidyddiaeth rydw i eisiau ei astudio yn y dyfodol.

Bywyd Llangefni

Roeddwn yn falch o fod yn lansiad y cerdyn newydd ‘Bywyd Llangefni’. Mae nifer o siopau lleol yn cymryd y cerdyn sy’n annog pobl i siopa’n lleol ac arbed arian ar yr un pryd. Rwy’n gobeithio y bydd yn llwyddiant mawr i’r busnesau a’u cwsmeriaid fel ei gilydd.

Bywyd Llangefni

AC Ynys Môn yn canmol athletwyr Môn yn y Senedd a galw am gefnogaeth i gais Gemau’r Ynysoedd

Yn ystod cwestiynau i’r Prif Weinidog heddiw, bu Rhun ap Iorwerth yn canmol tim Gemau’r Ynysoedd Ynys Môn am ddod a 10 medal adref o Jerset.  Yn siarad yn y siambr, dywedodd:

“Rwy’n gwybod y gwnaiff y Prif Weinidog gytuno â mi fod chwaraeon yn arf pwysig iawn o ran denu twristiaeth i Gymru, ac, o ran hynny o beth, tybed a wnaiff y Prif Weinidog gytuno â mi y byddai rhoi cefnogaeth gynnar gan Lywodraeth Cymru i’r cais i ddenu’r Gemau’r Ynysoedd i Ynys Môn yn 2025 yn arf twristaidd pwysig iawn i’r ynys.

“A sut allwn i, wrth gwrs, a finnau ar fy nhraed, beidio â rhoi gwahoddiad i’r Prif Weinidog i estyn llongyfarchiadau gwresog i’r tîm Ynys Môn a ddaeth yn ôl o Jersey ychydig dros wythnos yn ôl efo 10 medal?”

Ymatebodd y Prif Weinidog gan ddweud:

“A gaf i ymuno â’r Aelod ynglŷn â rhoi llongyfarchiadau i dîm Ynys Môn? Ac, wrth gwrs, fe fyddwn i’n fodlon i ystyried unrhyw gais ynglŷn â chael y gemau ar yr ynys yn y pen draw.”

Teimladau cryfion am Haulfre

Roedd teimladau cryf yn Llangoed nos Wener (03/07/15) mewn Cyfarfod Cyhoeddus yn Neuadd y Pentref, lle daeth tua 200 o bobl i drafod dyfodol Haulfre. Roedd y cyfarfod cyhoeddus yn dilyn y penderfyniad gan Bwyllgor Gwaith y Cyngor ar ddydd Iau i fynd am opsiwn 2 a oedd i fynd allan i ymgynghori a allai arwain at benderfyniad i gau ym mis Hydref. Mae’r ddau aelod Plaid Cymru lleol yn ward Seiriol wedi annog Pwyllgor Gwaith y Cyngor i fabwysiadu opsiwn 1 a oedd i fuddsoddi yn y cartref.

Haulfre - cyfarfod cyhoeddus 03 07 15

Trefnwyd y cyfarfod gan y Cyng. Lewis Davies o Blaid Cymru gyda chefnogaeth ei gyd-gynghorydd yn Seiriol Carwyn Jones a’r Aelod Cynulliad Rhun ap Iorwerth. Bu’r tri chynrychiolwr etholedig yn annerch y cyfarfod cyhoeddus, gan siarad yn gryf o blaid gwneud y gwaith sy’n ofynnol fel y nodir gan y Cyngor, gan nodi y dylai Haulfre aros ar agor nes bod gan y Cyngor strategaeth a darpariaeth yn yr ardal. Cafodd uwch swyddogion y cyngor a’r Pwyllgor Gwaith eu gwahodd i’r cyfarfod cyhoeddus i egluro eu gweledigaeth ar gyfer gofal oedolion hŷn a’u penderfyniad ar Haulfre, fodd bynnag, roedd y cyhoedd yn siomedig nad oeddent wedi troi i fyny i’r cyfarfod.

Roedd y cyfarfod a fynychwyd yn dda ac a oedd yn cynnwys amrywiaeth o bobl, gan gynnwys preswylwyr, staff, teuluoedd, Cynghorwyr Tref a Chymuned, gweithwyr gofal iechyd proffesiynol ynghyd â llawer o drigolion o ar draws Ynys Môn. Gwnaed llawer o sylwadau a chodwyd nifer o gwestiynau. Dywedodd un o drigolion Haulfre fod pobl yn ei chael hi’n anodd cysgu gyda gofid ac yn llefain yn eu gwelyau. Cododd preswylydd arall o Haulfre y cwestiwn a oedd y Cyngor wedi cysylltu gyda’r Comisiwn Elusennau am fod Haulfre wedi’i sefydlu o ganlyniad i ewyllys ‘at ddibenion elusennol’?

Galwodd un teulu am i’r Cyngor esbonio pam yr oedd arian a neilltuwyd ar gyfer y lifft yn Haulfre yn cael ei wario ar ofal cartref arall, ac aeth ymlaen i ofyn sut y gall y cyngor gyfiawnhau gwario swm chwe ffigur ar atgyweirio cloc Haulfre, ond ddim yn cytuno i wario arian ar y cartref ei hun? Roedd llawer o’r siom o’r llawr ynghylch pam nad oedd yr Awdurdod wedi mynd i’r afael â’r problemau iechyd a diogelwch a thân dros y blynyddoedd a beth oedd y lleiafswm oedd angen ei wario ar yr adeilad? Yn bryderus, nododd gweithwyr gofal iechyd proffesiynol nad ydynt wedi gallu cyfeirio cleifion at Haulfre ers misoedd, a oedd yn syfrdanu llawer gan fod 6 ystafell wag yn y cartref.

Yn dilyn y cyfarfod, mae cyfres o gwestiynau wedi cael eu rhoi yn ysgrifenedig i Brif Weithredwr y Cyngor Dr Gwynne Jones a Chyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol Mrs Gwen Carrington gan ofyn iddynt ymateb o fewn pythefnos.

Dywedodd y Cynghorydd Lewis Davies:

“Codwyd nifer o gwestiynau yn y cyfarfod cyhoeddus llawn yn Llangoed nos Wener. Mae dinasyddion a threthdalwyr Ynys Môn angen y lefel uchaf posibl o dryloywder ac ymatebion manwl, ac rydym yn disgwyl atebion manwl llawn yn y pythefnos nesaf”

Ychwanegodd y Cynghorydd Carwyn Jones

“Roedd teimladau cryf yma ac mae angen i Gyngor Ynys Môn i wrando ar y bobl, mae’r neges yn glir – mae angen gwario arian i wneud y gwaith sydd ei angen i gadw Haulfre ar agor hyd nes y bydd darpariaeth newydd yn barod ar gyfer yr ardal”

Dywedodd Rhun ap Iorwerth AC

“Mae Haulfre yn cynnig gwasanaeth hanfodol i bobl y rhan yma o Ynys Môn. Yr ydym i gyd yn cefnogi moderneiddio gwasanaethau, ond ni allwn wneud i ffwrdd â’r cyfleusterau presennol yn Haulfre hyd nes bydd darpariaeth gofal newydd yn ei le – un ai ar safle Haulfre neu gerllaw. Anfonwyd neges glir iawn i’r awdurdod lleol o’r cyfarfod cyhoeddus hwn. “

Rhun yn sefyll fyny dros staff ysgolion yn y Senedd

Fe wnaeth AC Ynys Môn Rhun ap Iorwerth godi achos cymorthyddion dosbarth a staff ategol ysgolion Môn yn y Cynulliad Cenedlaethol ddoe.

Yn ystod dadl Plaid Cymru ar y gweithlu addysg, dywedodd Rhun ap Iorwerth:

“Y bwriad a fyddai gan Blaid Cymru fyddai sicrhau fframwaith cenedlaethol, nid yn unig ar gyfer cyflogau athrawon, ond hefyd ar gyfer yr holl weithlu mewn ysgol. Mi fyddai’r fframwaith yna, rwy’n meddwl, yn sicr yn fodd o osgoi un broblem ac annhegwch mawr sydd wedi codi, digwydd bod yn fy etholaeth i ar hyn o bryd, lle mae yna bryder mawr ymhlith cymorthyddion ysgolion ynglŷn â dyfodol eu swyddi nhw o ganlyniad i’r broses o werthuso swyddi mae’r awdurdod lleol wedi mynd drwyddo. Wrth gwrs, rwy’n cefnogi egwyddor y broses mae’r cyngor wedi mynd drwyddo yn ddiweddar i sicrhau bod cyflogau’n cael eu cysoni ar draws yr awdurdod – yr egwyddor bod gweithwyr sy’n gwneud gwaith tebyg i’w gilydd yn derbyn yr un cyflogau a’i gilydd – ond, un o ganlyniadau cwbl annheg y broses honno yw bod cymorthyddion dysgu a staff cefnogol eraill mewn ysgolion wedi clywed eu bod nhw’n mynd i gael eu trin fel gweithwyr rhan amser yn y dyfodol.

“Mae’r cysoni cyflogau wedi digwydd ar sail tâl yr awr. Oherwydd bod ysgolion dim ond ar agor o 9 a.m. tan 3.15 p.m. a bod mwy o wyliau i staff ysgolion nag i weithwyr eraill, oherwydd bod yr ysgol wedi cau am gyfnodau helaeth o wyliau, y casgliad oedd bod yn rhaid talu’r staff cefnogol yma pro rata am yr oriau maen nhw’n eu gweithio, a hynny, mae’n rhaid ychwanegu, yn cymryd dim ystyriaeth o gwbl o’r gwaith ychwanegol mae’r staff yma yn ei wneud ar ôl ysgol efo gweithgareddau’r Urdd ac ati.

“Y canlyniad ydy bod gweithwyr proffesiynol sydd wedi ymroi i yrfa fel cymorthyddion, yn gwneud cyfraniad amhrisiadwy i waith ysgol, yn clywed nad ydy eu gyrfa nhw bellach yn yrfa llawn amser. Yn y cyd-destun hwnnw, rwyf wedi gofyn i’r cyngor edrych eto ar ganlyniadau’r broses gwerthuso swyddi a chydnabod bod troi swyddi proffesiynol pwysig yn swyddi rhan amser yn gwbl, gwbl annheg. Rwy’n gwybod bod awdurdodau eraill a staff eraill mewn rhannau eraill o Gymru wedi bod drwy’r un peth, ond dyma’r math o beth a fyddai’n cael ei osgoi drwy greu fframwaith cyflogaeth a thelerau cyflogaeth ar gyfer Cymru gyfan, ond hefyd ar gyfer y gweithlu cyfan o fewn ysgol. Ar gyfer hynny, byddai angen datganoli pwerau, felly, i gloi, mae synnwyr cyffredin a thystiolaeth, yn awgrymu ei bod hi’n amser i wneud hynny. Mae’r amser wedi dod, rwy’n meddwl, i gymryd y cam yma.”