AC Ynys Môn yn croesawu symudiadau i ddod â phatrolau traffig i’r ynys

Mae Rhun ap Iorwerth AC wedi croesawu tro-pedol Llywodraeth Cymru a allai olygu bod Swyddogion Traffig yr A55 yn patrolio’r ffordd ar draws yr ynys yn y dyfodol. Ar hyn o bryd, nid ydynt yn dod ymhellach i’r gorllewin na Phont Britannia.

Clywodd AC Ynys Môn bryderon gan swyddogion yr Heddlu am y sefyllfa bresennol, ac fe gododd y mater ar lawr y Cynulliad yn gynharach eleni. Ym mis Mawrth, anogodd Lywodraeth Cymru Lafur i edrych eto ar y sefyllfa, gan ddweud “nid yw’r A55 yn stopio yn Llanfairpwll”.

Mae Llywodraeth Cymru bellach wedi cadarnhau mewn datganiad ysgrifenedig y gofynnir i swyddogion “ymchwilio i’r manteision posibl o ddarparu criw Swyddog Traffig ychwanegol i batrolio Ynys Môn ac ardaloedd eraill”.

Dywedodd Mr ap Iorwerth: “Nid yw’n gwneud synnwyr i ddod a’r patrolau i ben wrth y bont. Mae Swyddogion Traffig yn gwneud nifer o ddyletswyddau pwysig, ac hebddynt, mae pwysau ychwanegol ar yr Heddlu sydd eisoes wedi’i ymestyn. Os oes digwyddiad ar yr A55 ar draws Ynys Môn, er enghraifft, gall swyddogion yr heddlu gael eu clymu am gyfnodau hir, tra yng ngweddill gogledd Cymru, gall Swyddogion Traffig wneud y gwaith o gael traffig yn llifo eto.”

Ychwanegodd: “Mae gennym addewid nawr y bydd hyn yn cael ei ystyried, ond rwy’n gobeithio y bydd y newid hwn yn cael ei gyflwyno mor gyflym â phosib.”