Ymateb Rhun ap Iorwerth i’r ymgynghoriad llysoedd

Mae Aelod Cynulliad Ynys Môn Rhun ap Iorwerth wedi ymateb i’r ymgynghoriad ar lysoedd yng Nghymru i wrthwynebu’r cynnig i gau Llys Ynadon Caergybi a Llys Sifil a Theulu Llangefni.  Gallwch ddarllen ei ymateb isod.

Mae’r ymgynghoriad yn cau yfory (Hydref 8fed) os ydych eisiau lleisio eich barn.  Mae mwy o wybodaeth ar gael ar wefan yr ymgynghoriad:

https://consult.justice.gov.uk/digital-communications/proposal-on-the-provision-of-court-and-tribunal-es

Ymateb Rhun ap Iorwerth AC i’r ymgynghoriad llysoedd

Hydref 6ed 2015

HMCTS Consultation

Ministry of Justice

Post point 1.13

102 Petty France

London

SW1H 9AJ

Annwyl Syr / Madam,

Ysgrifennaf i ymateb i’r ymgynghoriad ar y cynnig ar ddarpariaeth gwasanaethau llysoedd a thribiwnlysoedd yng Nghymru ac yn benodol i leisio fy ngwrthwynebiad i’r cynnig i gau Llys Ynadon Caergybi a Llys Sifil a Theulu Llangefni.

Roeddwn yn siomedig iawn o glywed am y cynllun i gau’r ddau lys a gadael Ynys Môn heb unrhyw ddarpariaeth llysoedd o gwbl.  Byddai hyn yn siŵr o gael effaith andwyol ar gyfiawnder lleol ac yn creu anawsterau difrifol i bobl sy’n defnyddio’r llysoedd – boed hynny’n ddiffynyddion, cyfreithwyr, swyddogion heddlu neu Ynadon Heddwch.

Fel yr Aelod Cynulliad dros Ynys Môn, ac un sydd wedi derbyn gohebiaeth gan etholwyr ar y mater, hoffwn godi’r pryderon canlynol gyda’r cynigion:

Yr anhawster i bobl deithio i Gaernarfon yn hytrach na Chaergybi neu Langefni, yn enwedig o ystyried natur wledig yr etholaeth a phrinder trafnidiaeth gyhoeddus mewn rhai rhannau.  Mae’r ddogfen ymgynghori ei hun yn cydnabod cymaint mwy o amser fyddai’n ei gymryd i bobl deithio, ond nid yw’n cymryd i ystyriaeth fod llawer o bentrefi eisoes gryn bellter oddi wrth y llysoedd presennol – e.e. byddai siwrne o Amlwch neu Gemaes yn cymryd hyd yn oed mwy o amser na’r rhai a nodwyd yn y ddogfen.

  • Byddai dioddefwyr yn gorfod teithio ymhellach i roi tystiolaeth ac i gael gweld cyfiawnder yn cael ei weinyddu, ar amser sydd ddigon anodd fel y mae.
  • Y gost ychwanegol i bobl deithio i Gaernarfon yn hytrach na Chaergybi neu Langefni, yn enwedig o ystyried fod nifer o’r cleientiaid ar incwm isel neu fudd-daliadau.
  • Yr effaith fydd cau yn ei gael ar y trefi eu hunain – yn aml, mae pobl sy’n mynychu neu yn gweithio yn y llysoedd hefyd yn ymweld â busnesau lleol, megis siopau a thai bwyta.
  • Mae’r Llywodraeth yn honni y bydd gan bobl fwy o fynediad at lysoedd trwy dechnoleg ddigidol yn y dyfodol, ond bydd wastad yr angen i nifer o bobl fynychu’r llysoedd.  Hefyd, mewn nifer o ardaloedd Môn, mae cysylltiad band-eang yn araf, neu weithiau nid oes cysylltiad o gwbl, ac mae mannau gwan signal ffonau symudol ar yr ynys.  Yn ychwanegol, mae nifer o bobl sydd ddim yn gyfrifiadurol lythrennog neu ddim yn hyderus yn defnyddio technoleg gwybodaeth.
  • Caergybi a Llangefni yw trefi mwyaf poblog yr ardal, ond dylid hefyd ystyried y cannoedd o filoedd sy’n teithio trwy Borthladd Caergybi yn flynyddol (ail borthladd fferi prysuraf y DU) a’r ffaith y gallai hyd at 8,000 o weithwyr fod yn rhan o brosiect atomfa Wylfa Newydd yn y blynyddoedd nesaf.
  • Mae’n bryder a fydd pobl gogledd Môn yn dal eisiau, neu’n gallu, bod yn Ynadon os oes yn rhaid iddynt deithio i Gaernarfon i wrando ar achosion.

 

Gofynnaf i chi roi ystyriaeth fanwl i’r pryderon lleol hyn cyn dod i benderfyniad ar y cynnig i gau’r llysoedd yng Nghaergybi a Llangefni.

Yn gywir,

RHUN AP IORWERTH

Aelod Cynulliad Ynys Môn / Assembly Member for Ynys Môn