YMATEB I GYHOEDDIAD WYLFA NEWYDD

Mae penderfyniad Hitachi/Horizon i dynnu eu cais cynllunio ar gyfer Wylfa Newydd yn ôl yn golygu diwedd y daith i’w prosiect nhw. Yn y pendraw, fe fethodd Llywodraeth y DU â chyflawni, ac mae côst wirioneddol i hynny o ran cyfleoedd gwaith hirdymor.

Yn y tymor byr, mae’n rhaid i ni ganolbwyntio ar dyfu cyfleoedd cyflogaeth eraill – prosiectau newydd a rhai sydd eisoes ar y gweill. Mae llawer o’r prosiectau hynny yn y sector ynni – oddi ar ein arfordir…ynni llanw, tonnau a gwynt, yn creu swyddi gwyrdd, a datblygu technolegau newydd y gallwn ni eu hallforio i’r byd, a denu buddsoddiad i borthladd Caergybi.

Mi all parc gwyddoniaeth M-Sparc, a’n Ysgol Gwyddorau Eigion, fod yn ganolfannau ar gyfer ymchwil a datblygu yn y maesydd hynny, ac i fentrau eraill yn y maesydd technoleg a digidol. Dwi’n edrych ymlaen at weld Plaid Cymru yn cael cyfle i sefydlu ein corff Ynni Cymru yma ar yr ynys.

Ac wrth gwrs mae safle Wylfa ei hun a’r sgiliau gafodd eu datblygu yno dros flynyddoedd lawer yn werthfawr o hyd, ar gyfer datblygiad llai, o bosib, a allai fod yn fwy cynaliadwy i’n cymunedau yn y pen draw. Rydw i eisoes wedi siarad yn barod efo darpar ddatblygwyr. Ond allwn ni ddim codi gobeithion nes yr ydan nin gwybod bod cynllun realistig yn ei le.. un sy wir yn gallu cale ei ddilifro.

Wrth gwrs, mae gennym llawer mwy nag ynni i’w gynnig. Mae gennym fusnesau cyffrous ar draws llawer o sectorau. Mi allwn ni wneud cymaint mwy o ran cynhyrchu bwyd, ac mae cyfleoedd i ddatblygu mentrau twristiaeth a lletygarwch sy’dd wedi’u gwreiddio yma ac yn cael eu gyrru’n lleol.

Rydw i’n gwybod bod Wylfa wedi rhannu barn mewn sawl ffordd, ac rydw i wastad wedi parchu’r gwahanol safbwyntiau. Mi fydd y cyhoeddiad heddiw’n cael ei groesawu gan rai, ond mae’n ergyd wirioneddol i eraill, llawer ohonyn nhw’n bobl yr ydw i’n eu hadnabod yn iawn, pobl ifanc oedd wedi gobeithio gweld cynllun Wylfa’n symud mlaen yn gyflym oherwydd y cyfleon yr oedd yn ei gynnig. Rwan, mae rhaid i bob un ohonan ni ganolbwyntio ar yr holl gyfleoedd newydd yna, a’r rhai sy’n bodoli’n barod, all roi – a fydd yn rhoi gobaith iddyn nhw, a chenedlaethau i ddod yma ar Ynys Môn.

DIWEDD.