Cafodd AC Ynys Môn Rhun ap Iorwerth groeso cynnes ar ei ymweliad diweddar â Thyddyn Môn ym Mrynrefail, lle cyfarfu â’r Prif Weithredwr newydd, Dr Michelle Freeman. Yn siarad ar ôl ei ymweliad, bu’n annog eraill i ymweld â’r fferm:
“Diolch yn fawr iawn i bawb yn Nhyddyn Môn am y croeso cynnes a gefais yn ddiweddar ac mae Mrs Iorwerth yn ddiolchgar iawn am ei pherlysiau hi!
“Dymunaf yn dda i’r Prif Weithredwr newydd, Dr Michelle Freeman. Mae nhw’n chwilio am ffyrdd newydd o ddod ag arian i mewn i gynnal eu gwaith da nhw hefo pobl sydd ag anghenion dysgu. Ewch draw yno – mae’n le da i dreulio awran neu ddwy.”