Bydd ADC i’r 21ain ganrif yn sefydlu Cymru fel canolfan fasnachu – Plaid Cymru

Plaid Cymru yn gwneud addewid i hybu allforion a buddsoddi

Bydd Plaid Cymru yn ail-sefydlu enw da Cymru fel cenedl fasnachu, cyhoeddodd Gweinidog cysgodol y blaid dros yr Economi, Rhun ap Iorwerth heddiw.

Wrth siarad â’r gymuned fusnes mewn anerchiad allweddol, cyhoeddodd Rhun ap Iorwerth y byddai llywodraeth Plaid Cymru yn creu asiantaeth hybu masnach a buddsoddiad newydd, gan adfer brand ADC sydd yn dal yn frand a gydnabyddir ledled y byd.

Cyhoeddodd Rhun ap Iorwerth hefyd y bydd llywodraeth Plaid Cymru yn cychwyn ar y rhaglen fwyaf ar gyfer ail-adeiladu a welodd Cymru ers datganoli, dan arweiniad Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru (CSCC). Bydd CSCC yn gorfforaeth gyhoeddus newydd fydd yn cynllunio, cyllido ac yn cyflwyno’r dyheadau a osodir allan yn y Cynllun Buddsoddi Seilwaith Cenedlaethol.

Bydd Plaid Cymru hefyd yn sefydlu Banc Cenedlaethol Cymru i ddarparu cyllid i fusnesau Cymreig i helpu i gau’r bwlch cyllido o £500m y flwyddyn a wynebir gan fusnesau Cymreig, ac i helpu busnesau Cymru trwy gynnig rhyddhad trethi busnes i 83,000 ohonynt, gan gymryd 70,000 allan o drethi yn gyfan gwbl.

Dywedodd Gweinidog cysgodol Plaid Cymru dros yr Economi, Rhun ap Iorwerth:

“Rwy’n cyhoeddi y bydd llywodraeth Plaid Cymru yn creu asiantaeth hyd-braich newydd i hybu masnach a buddsoddi i Gymru, ADC i’r 21ain ganrif.

“Partneriaeth cyhoeddus-preifat fydd hon, gyda chynrychiolaeth gref o fusnes ar y bwrdd, yn annibynnol ar y Gwasanaeth Sifil ond yn atebol i’r llywodraeth.

“Bydd yn defnyddio brand ADC ar ei newydd wedd – fel Awdurdod Datblygu Cymru i weithio ledled y byd ac ar hyd a lled y DG, i ddenu busnesau newydd i Gymru, i hybu allforion Cymreig i bob cwr o’r byd ac o fewn y DG.”

“Nid ymgais i droi’r cloc yn ôl yw adnewyddu ADC; yn hytrach, bydd yn adeiladu ar lwyddiannau’r gorffennol a dysgu o gamgymeriadau’r gorffennol.

“Bydd yn hwyluso cyflwyno ein cynllun economaidd gartref ac yn ail-sefydlu Cymru fel canolfan adnabyddus a dymunol i fuddsoddi ar lwyfan y byd.

“Rwy’n credu fod y mentrau a ddisgrifiwyd i chi heddiw yn adlewyrchu aflonyddwch Plaid Cymru.

“Yr ydym yn barod ac yn crefu am y cyfle i lywio cyfeiriad newydd i’n cenedl.

“I godi disgwyliadau economaidd Cymru i lefel uwch.

“I dynnu holl sectorau ein gwlad ynghyd fel ein bod oll yn dyheu am yr un canlyniad.

“I ail-sefydlu Cymru fel pwerdy economaidd a diwydiannol er lles ei phobl a’i chymunedau.

“Bydd Plaid Cymru yn rhoi terfyn ar flynyddoedd o reoli dirywiad, a’n nod fydd gwneud y ddegawd nesaf yn ddegawd o ffyniant i Gymru.”