Ni fyddai dim yn rhoi mwy o bleser i fi na gallu pleidleisio heddiw dros weithredu Mesur Cymru a fyddai’n grymuso pobl Cymru o ddifrif, a fyddai’n galluogi’r Cynulliad yma i aeddfedu ymhellach fel Senedd ein gwlad, ac a fyddai’n rhoi i Lywodraeth Cymru yr arfau angenrheidiol i sefydlogi a chryfhau ein heconomi, i greu Cymru fwy iach, ac i gryfhau ein cyfundrefn addysg yn y modd yr ydym ni yma yng Nghymru am ei flaenoriaethu. Ond nid dyna i fi ydy’r Mesur y mae gofyn i ni roi sêl bendith iddo fo. Nid dyma Fesur y gallaf i fod yn hyderus ei fod yn rhoi i drigolion Ynys Môn a gweddill Cymru y math o sicrwydd y dylen nhw ei gael fod gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yr hawliau i ddilyn ei gwys ei hun, lle mae angen gwneud hynny, heb i rwystrau mympwyol gael eu rhoi yn ein ffordd gan Senedd Prydain.
Newyddion Diweddaraf
-
20/05/2022
YSTADEGAU BRAWYCHUS YN DANGOS NAD YW TARGEDAU’N CAEL EU CYRRAEDD O HYD
Mae Rhun ap Iorwerth yn galw am chwyldro yn y maes...
-
19/05/2022
GALW AM ‘YMCHWILIAD ANNIBYNNOL’ GAN AS YNYS MÔN AR ÔL CODI PRYDERON NYRSYS YN Y SENEDD
Ar ôl tynnu sylw at bryderon nyrsys Ysbyty Gwyned...
-
12/05/2022
‘CROESAWU TRO PEDOL AR ARIANNU, YNGHYD Â SICRWYDD AR HAWLIAU GWEITHWYR A’R AMGYLCHEDD’
Bydd Rhun ap Iorwerth AS yn parhau i gyflwyno’r ...