Angen gwirfoddolwyr ar gyfer gwasanaeth Aros Dros Nos gwerthfawr

Mae Rhun ap Iorwerth wedi adleisio galwadau Digartref Môn ar gyfer lletywyr gwirfoddol newydd ar Ynys Môn a Gwynedd i barhau gyda llwyddiant cynllun Nightstop.
 
Ymwelodd AC Ynys Môn Rhun ap Iorwerth gyda phrosiect Nightstop Digartref Môn yng Nghaergybi yn ystod Wythnos Gwirfoddolwyr, a chanmolodd y gwaith maent yn ei wneud yno.
 
Mae Nightstop yn darparu gwely am y noson ar gyfer pobl ifanc rhwng 16 a 25 oed sydd ei angen mewn amser o argyfwng. Mae Digartref yn rhedeg Nightstop i bobl ifanc o Ynys Môn a Gwynedd. Mae ganddynt letywyr gwirfoddol sy’n cynnig pryd gyda’r nos, gwely a brecwast mewn sefyllfa o argyfwng.
 
Dywedodd Gail, sydd wedi bod yn wirfoddolwraig Nightstop ers pum mlynedd:
 
“Clywais yn gyntaf am y gwasanaeth ar raglan Plant Mewn Angen a phenderfynais roeddwn i eisiau helpu. Roeddwn yn ddigon ffodus i fod wedi cael y ddau riant i fy nghefnogi yn ogystal â theulu estynedig, yn wahanol i lawer o bobl ifanc eraill.

“Mae’n rhaid i mi ddweud fy mod wrth fy modd! Rwyf yn ei wneud i mi fy hun mewn gwirionedd.

“Mae’n debyg y byddai rhai pobl yn poeni am bethau’n ‘mynd ar goll’ o’u cartref neu gael rhywun dieithr yn eu tŷ. Y realiti yw mai dim ond pobl ifanc sydd yn fwy nerfus na fi ydyn nhw. Fel arfer, maent yn cael eu rhuthro i mewn ac allan, ac nid wyf wedi cael unrhyw broblemau. Mae’r rhan fwyaf ohonynt yn naturiol mor flinedig fel eu bod yn cael cawod ar ôl cinio a mynd i’r gwely.

“Mae pob un o’r bobl ifanc yr wyf wedi cynnig lle iddynt yn wahanol. Nid wyf wedi cael unrhyw faterion ymddygiad neu unrhyw ymddygiad ymosodol. Rwy’n siwr ei fod yn frawychus i rywun mor ifanc ac felly rydw i’n hapus i helpu pan fyddant ei angen.
 
Mae lletywyr gwirfoddol Digartref yn cael cynnig nosweithiau sy’n cyd-fynd â’u argaeledd ac nid oes rhaid iddynt ymrwymo felly mae hwn yn hyblyg iawn. Maent hefyd yn cael hyfforddiant ac yn cael eu gwahodd i ddigwyddiadau cymdeithasol.

Ychwanegodd Rhun ap Iorwerth:

“Wrth ddarparu rhwyd ​​ddiogelwch i’r rhai sydd wedi cael eu gorfodi i adael eu cartref, ma Nightstop yn rhoi pobl ifanc mewn cartref diogel a chynnes ar gyfer y noson, a ddarperir gan wirfoddolwr wedi’u gwirio a’u cymeradwyo.

“Mae’n atal pobl ifanc rhag cysgu ar y stryd, “syrffio soffa”, neu aros mewn llety anaddas lle byddent mewn perygl o gael eu cam-drin. Mae’r defnydd o ystafelloedd sbâr mewn amgylchedd cadarnhaol yn gwneud gwahaniaeth mawr i bobl ifanc mewn argyfwng.

“Os hoffai unrhyw un helpu’r elusen, yna ewch i wefan www.digartref.co.uk i gael gwybod mwy, gwyliwch y fideo Nightstop neu ffoniwch 01407 761653 i siarad gyda Nia neu Lowri i gael gwybod mwy am y rôl.”