Fideo: ‘Dwi eisiau gweld dyfodol hyderus a ffyniannus i borthladd Caergybi’ – Rhun ap Iorwerth.

Fe siaradodd Aelod Cynulliad Ynys Môn Rhun ap Iorwerth am yr heriau sy’n wynebu Porthladd Caergybi yn sgil Brexit yn y Cynuliad Cenedlaethol ddoe.

Roedd yn siarad mewn dad lar adroddiad Pwyllgor Materion Allanol y Cynulliad ar y Goblygiadau i Borthladdoedd Cymru o Adael yr Undeb Ewropeaidd. Fel rhan o’u ymchwiliad, derbyniodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Irish Ferries a Stena Line.

Yn siarad yn Y Senedd, dywedodd Rhun:

“Ers dechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, felly, tyfu a thyfu mae’r porthladd wedi’i wneud. Roedd rhai o’m cyndeidiau i ymhlith y rhai a fu’n gwneud eu bywoliaeth yn gwasanaethu’r llongau post, y llongau nwyddau a llongau teithwyr. Mae ymhell dros 1,000 yn dal i gael eu cyflogi’n uniongyrchol ym mhorthladd Caergybi—mae llawer mwy yn yr economi ehangach yn ddibynnol ar y porthladd. Mae 4.5 miliwn o dunellau o nwyddau’n pasio drwyddo bob blwyddyn. Fel rydym ni wedi’i glywed, dim ond Dover sy’n fwy o ran llif ceir a cherbydau nwyddau ar ‘ferries’.

“Ond, os ydy Caergybi wedi cael ei greu, wedi cael ei ddiffinio drwy brysurdeb ei borthladd yn y gorffennol, nid oes cuddio’r bygythiadau sy’n ei wynebu fo rŵan. Mae unrhyw rwystr i lif cerbydau a nwyddau yn fygythiad i borthladd Caergybi, ac felly’n fygythiad i les pobl Caergybi. Petasai yna ffin galed yn cael ei chreu rhwng Caergybi a Dulyn, mi fuasai hi yn amlwg yn mynd yn llai deniadol i bobl deithio a gwneud busnes drwy Gaergybi. Rydym ni’n sôn, cofiwch, am dros 2 filiwn o deithwyr, 0.5 miliwn o geir, 400,000 o gerbydau cludo nwyddau.

“Mae’r broses o symud nwyddau wastad yn dilyn y llwybr symlaf. Felly, mae pryder gwirioneddol pe buasai yna ffin feddal rhwng Gogledd Iwerddon a Gweriniaeth Iwerddon, a ffin galed rhwng Cymru a’r weriniaeth, byddai hynny’n negyddol i ni. Mi rybuddiodd Irish Ferries y gallai hynny gael goblygiadau economaidd difrifol ar borthladdoedd Cymru mewn cyflogaeth uniongyrchol ac anuniongyrchol.

Y bygythiad arall wedyn ydy os ydy Prydain yn gadael yr undeb tollau. ers creu marchnad sengl yr Undeb Ewropeaidd, neu ei chwblhau, beth bynnag, yn 1993, a chael gwared ar y ‘checks’ tollau ar gerbydau rhwng Cymru ac Iwerddon, mae faint o nwyddau sy’n teithio rhwng Caergybi a Dulyn wedi cynyddu’n aruthrol—bron i 700 y cant ers dechrau’r 1990au. Mi fuasai angen newid strwythur y porthladd petasai yna angen am ‘checks’ newydd. Yn syml iawn, yn ôl rheolwyr y porthladd, nid yw’r lle, nid ydy’r capasiti, ganddyn nhw.

“Rydym ni’n wynebu cyfres o heriau yn y fan hyn. Nid dim ond hanes balch ond dyfodol hyderus a ffyniannus rydw i eisiau’i weld i borthladd Caergybi.”

Gallwch weld yr araith yn llawn yma: