Fideo: cefnogi’r diwydiant bwyd a diod

Mewn ymateb i ddatganiad ar y diwydiant bwyd a diod yn y Cynulliad, dywedais mai’r hyn sydd gen i ddiddordeb yn ei wneud, nid yn unig yn fy etholaeth i ond ledled Cymru hefyd, ydy datblygu y diwydiant cyfan tra rydym ni, wrth gwrs, yn hybu y busnesau unigol i dyfu. Rydw i’n edrych ymlaen i gyfarfod gyda’r Ysgrifennydd Cabinet y mis nesaf i drafod syniadau ar gyfer datblygu rhyw fath o barc cynhyrchu bwyd yn Ynys Môn.