Fideo: Dadl Plaid Cymru ar weithlu’r gwasanaeth iechyd

Roeddwn yn falch o gael arwain dadl Plaid Cymru ar weithlu’r NHS ddoe, a chael cyfle i dalu teyrnged i staff yr NHS a galw ar y Llywodraeth i weithredu cynllun gweithlu effeithiol a chynaliadwy ar gyfer GIG Cymru. Dyma ran o fy araith, neu gallwch wylio’r ddadl gyfan yma: http://www.senedd.tv/Meeting/Archive/363db281-e76b-49d4-b4b3-3d28a9257192?startPos=13026&autostart=True

“Un o’n trysorau mwyaf gwerthfawr ni, sy’n cael ei werthfawrogi uwchlaw pob gwasanaeth cyhoeddus arall yng Nghymru, rydw i’n siŵr, ydy’r gwasanaeth iechyd, yr NHS, ac adnodd mwyaf gwerthfawr yr NHS ydy’r gweithlu—y bobl hynny sydd, drwy gyfuniad o’u sgiliau nhw, a’u hymroddiad nhw, yn sicrhau bod pob un ohonom ni yn gallu cael y gofal gorau posib pan rydym ni ei angen o fwyaf. Un o’r dyletswyddau mwyaf sydd gan Lywodraeth Cymru wedyn ydy gwneud yn siŵr bod y gweithlu yna yn cael y gefnogaeth sydd ei angen arno fo—yn cael ei gynllunio yn ofalus, fel bod gennym ni y bobl iawn yn y llefydd iawn efo’r sgiliau iawn i ofalu am gleifion, a bod yna ddigon o bobl yn cael yr anogaeth i ddod i mewn i’r gwasanaeth iechyd ac yn derbyn y hyfforddiant gorau posibl i’w wneud o yn wasanaeth cynaliadwy ar gyfer y dyfodol.”