Fideo: Angen strategaeth twf glas i ardaloedd fel Môn

Yn ystod Cwestiynau i’r Prif Weinidog yr wythnos hon, gofynnodd AC Ynys Mon Rhun ap Iorwerth:

“Mi hoffwn i droi at hyfywedd economaidd cymunedau arfordirol yng Nghymru fel rhan o strategaeth twf glas, os liciwch chi. Yn ei adroddiad diweddar ar botensial yr economi forol yng Nghymru, mi wnaeth y Pwyllgor Menter a Busnes, yr wyf yn aelod ohono fo, alw am strategaeth glir yn y maes yma i gynnwys mentrau ynni, twristiaeth amgylcheddol, trafnidiaeth, ac yn y blaen. A yw’r Prif Weinidog yn cytuno â’n hargraff ni fel pwyllgor bod ymateb y Llywodraeth yma i ddatblygu’r economi forol wedi bod yn ddarniog ac nad oes yna dystiolaeth ddigonol o weithredu fel Llywodraeth gyfan, rhywbeth sydd yn hanfodol mewn ardaloedd cwbl arfordirol, fel fy etholaeth i, Ynys Môn?”