Twristiaeth a’r Post ar agenda cyfarfod AC yn Amlwch

Yn y diweddaraf yn ei gyfres o gyfarfodydd cyhoeddus agored, fe wnaeth Aelod Cynulliad Ynys Môn Rhun ap Iorwerth wahodd pobl i’r Dinorben yn Amlwch i sgwrsio am yr hyn sy’n bwysig iddyn nhw.

Yn siarad wedi’r cyfarfod, dywedodd Rhun ap Iorwerth:

“Diolch i bawb a ddaeth i’r Dinorben a chyfrannu i’n trafodaethau ar amryw o faterion lleol. Fe wnaethom sgwrsio, er enghraifft, am yr angen i wneud mwy i hyrwyddo gogledd Môn fel cyrchfan i ymwelwyr. Mae’r Deyrnas Gopr, Mynydd Parys a Phorth Amlwch yn lefydd rhyfeddol i ymweld â nhw ac i ddysgu mwy am ein gorffennol diwydiannol, ond mae angen gwneud mwy i ddenu pobl yma.

“Buom hefyd yn trafod materion s’yn effeithio’r dref ei hun, gan gynnwys y ffaith fod Amlwch heb Swyddfa Bost ac yn gorfod disgwyl tan Chwefror 2017 cyn i’r gwasanaethau fod ar gael yn y Spar. Rydw i wedi bod yn gwthio ar Swyddfa’r Bost i gynnig gwasanaeth symudol dros dro i’r ardal – yn enwedig dros gyfnod prysur y Nadolig. Roeddwn yn falch felly o allu rhannu’r ohebiaeth ddiweddaraf ges i gan Swyddfa’r Post gyda thrigolion lleol yn y cyfarfod, yn dweud eu bod nhw am adolygu’r posibilrwydd o ychwanegu Amlwch fel lleoliad ar daith y fan symudol. Byddaf yn parhau i bwyso er mwyn i hyn ddigwydd.”