Rhun yn sefyll fyny dros staff ysgolion yn y Senedd

Fe wnaeth AC Ynys Môn Rhun ap Iorwerth godi achos cymorthyddion dosbarth a staff ategol ysgolion Môn yn y Cynulliad Cenedlaethol ddoe.

Yn ystod dadl Plaid Cymru ar y gweithlu addysg, dywedodd Rhun ap Iorwerth:

“Y bwriad a fyddai gan Blaid Cymru fyddai sicrhau fframwaith cenedlaethol, nid yn unig ar gyfer cyflogau athrawon, ond hefyd ar gyfer yr holl weithlu mewn ysgol. Mi fyddai’r fframwaith yna, rwy’n meddwl, yn sicr yn fodd o osgoi un broblem ac annhegwch mawr sydd wedi codi, digwydd bod yn fy etholaeth i ar hyn o bryd, lle mae yna bryder mawr ymhlith cymorthyddion ysgolion ynglŷn â dyfodol eu swyddi nhw o ganlyniad i’r broses o werthuso swyddi mae’r awdurdod lleol wedi mynd drwyddo. Wrth gwrs, rwy’n cefnogi egwyddor y broses mae’r cyngor wedi mynd drwyddo yn ddiweddar i sicrhau bod cyflogau’n cael eu cysoni ar draws yr awdurdod – yr egwyddor bod gweithwyr sy’n gwneud gwaith tebyg i’w gilydd yn derbyn yr un cyflogau a’i gilydd – ond, un o ganlyniadau cwbl annheg y broses honno yw bod cymorthyddion dysgu a staff cefnogol eraill mewn ysgolion wedi clywed eu bod nhw’n mynd i gael eu trin fel gweithwyr rhan amser yn y dyfodol.

“Mae’r cysoni cyflogau wedi digwydd ar sail tâl yr awr. Oherwydd bod ysgolion dim ond ar agor o 9 a.m. tan 3.15 p.m. a bod mwy o wyliau i staff ysgolion nag i weithwyr eraill, oherwydd bod yr ysgol wedi cau am gyfnodau helaeth o wyliau, y casgliad oedd bod yn rhaid talu’r staff cefnogol yma pro rata am yr oriau maen nhw’n eu gweithio, a hynny, mae’n rhaid ychwanegu, yn cymryd dim ystyriaeth o gwbl o’r gwaith ychwanegol mae’r staff yma yn ei wneud ar ôl ysgol efo gweithgareddau’r Urdd ac ati.

“Y canlyniad ydy bod gweithwyr proffesiynol sydd wedi ymroi i yrfa fel cymorthyddion, yn gwneud cyfraniad amhrisiadwy i waith ysgol, yn clywed nad ydy eu gyrfa nhw bellach yn yrfa llawn amser. Yn y cyd-destun hwnnw, rwyf wedi gofyn i’r cyngor edrych eto ar ganlyniadau’r broses gwerthuso swyddi a chydnabod bod troi swyddi proffesiynol pwysig yn swyddi rhan amser yn gwbl, gwbl annheg. Rwy’n gwybod bod awdurdodau eraill a staff eraill mewn rhannau eraill o Gymru wedi bod drwy’r un peth, ond dyma’r math o beth a fyddai’n cael ei osgoi drwy greu fframwaith cyflogaeth a thelerau cyflogaeth ar gyfer Cymru gyfan, ond hefyd ar gyfer y gweithlu cyfan o fewn ysgol. Ar gyfer hynny, byddai angen datganoli pwerau, felly, i gloi, mae synnwyr cyffredin a thystiolaeth, yn awgrymu ei bod hi’n amser i wneud hynny. Mae’r amser wedi dod, rwy’n meddwl, i gymryd y cam yma.”