Dyfodol 2 Swyddfa Bost: Gobaith newydd i Amlwch wrth i ni ymladd dros ddyfodol Llangefni

Dywed Rhun ap Iorwerth AC ei fo wedi’i galonogi gan drafodaethau diweddar ar leoliad posib ar gyfer Swyddfa Bost newydd Amlwch. Mae’r dref wedi bod heb wasanaeth cownter Swyddfa’r Post ers rhai misoedd bellach. Dywedodd Rhun ap Iorwerth:

“Mae hi’n hollol annerbyniol i dref o faint Amlwch fod heb wasanaethau cownter. Rydw i wedi gwneud popeth fedrai i bwysleisio wrth Swyddfa’r Post Cyf yr angen i ailddechrau cynnig gwasanaeth mor fuan â phosibl. Rydw i’n obeithiol, ar ôl cyfarfod gyda swyddogion Swyddfa’r Post, fod newyddion da ar y gorwel.”

Fodd bynnag, mae Mr ap Iorwerth wedi dweud ei fod wedi’i gythruddo gan benderfyniad Swyddfa’r Post Cyf i ailagor ymgynghoriad ar ddyfodol Swyddfa Post y Goron yn Llangefni. Dywedodd Rhun:

“Does dim llawer o amser wedi pasio ers i ni fod yn dathlu’r penderfyniad i gadw Swyddfa Bost y Goron yn ei leoliad yng nghanol y dref, sydd yn hanfodol i gwsmeriaid ac er lles y dref. Yn awr mae Swyddfa’r Post yn dweud y bydd yn ailddechrau chwilio am rywun arall i gymryd drosodd y gwasanaethau post. Dywedwyd wrthyf ei bod hi’n anhebygol y byddai hynny’n golygu fod gwasnaethau cownter yn parhau yn y lleoliad presennol. Fel y gwnes o’r blaen, rydw i wedi ei gwneud hi’n glir i Swyddfa’r Post y dylai’r ddarpariaeth bresennol gael ei gadw.”