Fideo: Rhun yn dweud fod angen gwella signal ffonau symudol mewn ardaloedd gwledig fel Môn

Yn ystod Cwestiynau i’r Prif Weinidog yn y Cynulliad ddoe, fe dynodd AC Ynys Môn Rhun ap Iorwerth sylw at y signal ffonau symudol gwael mewn ardaloedd fel Ynys Môn. Dywedodd:

“Er bod ardaloedd gwledig fel Ynys Môn yn talu’r un faint â phawb arall ym Mhrydain am eu gwasanaeth ffôn symudol, maen nhw’n aml iawn yn cael gwasanaeth eilradd. I ddweud y gwir, mae rhai yn talu mwy am ffôn symudol mewn rhywle fel Ynys Môn—rhai yn talu am ddau ffôn, un ar gyfer y gwaith, un ar gyfer y tŷ; rhai yn talu am focs i gryfhau’r signal; ac eraill hyd yn oed yn gorfod talu ‘roaming charges’ oherwydd bod y signal o Iwerddon yn gryfach na’r signal sydd yn Ynys Môn. Mae’r ‘Daily Post’ ar hyn o bryd yn rhedeg ymgyrch i geisio gwella signal yn y gogledd, ac mi oeddent yn datgelu ffigurau ddoe ynglŷn â ‘coverage’ 4G: rwy’n meddwl yr oedd yr Iseldiroedd ar 83 y cant, Prydain ar 53 y cant a Chymru ar 20 y cant. O ystyried bod cysylltedd yn beth mor bwysig yng nghefn gwlad, beth sydd wedi rhwystro Llywodraeth Cymru rhag gallu annog cwmnïau ffonau symudol i wneud mwy i ddarparu gwell gwasanaeth a signal yng nghefn gwlad ac yn Ynys Môn?”

Ynys Môn yn ail ar restr gwyliau DU

Yn ymateb i’r newyddion fod Ynys Môn yn ail ar restr o brif fannau gwyliau’r DU, dywedodd AC Môn Rhun ap Iorwerth fod hyn yn brawf pellach o bwysigrwydd y diwydiant twristiaeth i economi’r ynys

Darganfu adroddiad diweddar gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol, wrth edrych ar y gwariant cyfartalog fesul diwrnod o ymweliad mewn lleoliadau gwyliau yn y DU, mai yn Ynys Môn y gwnaethpwyd y gwariant mwyaf ond un, gyda £48.92. Yn gyntaf oedd y rhestr oedd Caerdydd, a ellir wrth gwrs ei gyrraedd mewn 40 munud o Faes Awyr Môn!

Dywedodd yr Aelod Cynulliad lleol Rhun ap Iorwerth:

“Mae’r ystadegau diweddaraf yma yn dangos unwaith eto pa mor bwysig yw’r diwydiant twristiaeth i Ynys Môn. Maent hefyd yn deyrnged i’r gwaith caled a wneir gan fusnesau twristiaeth lleol i ddenu ymwelwyr yma a’u hannog nhw i wario yma.

“A pwy all weld bai ar ymwelwyr am fod eisiau dod yma? Pan allent edrych ar ein golygfeydd anhygoel, dysgu am ein treftadaeth unigryw, cymryd rhan mewn gweithgareddau antur, neu fwynhau ein cynnyrch bwyd a diod bendigedig.

“Mae’r ystadegau yma hefyd yn cryfhau ein dadl i’r Grid Cenedlaethol am bwysigrwydd y diwydiant twristiaeth ac felly o’r angen i ystyried opsiynau eraill yn hytrach na chodi peilonau newydd ar draws yr ynys.”