Cyfarfod agored yng Nghaergybi

Bu AC Ynys Môn Rhun ap Iorwerth yn cynnal cyfarfod cyhoeddus ddoe yng Nghaerdydd, lle’r oedd etholwyr yn gosod yr agenda.
 
Roedd y cyfarfod yn adeilad y Sea cadets yn Newry, Caergybi, yn gyfle i drigolion lleol gael dweud eu dweud ar faterion o bwys iddyn nhw neu’r dref.

Yn siarad wedi’r cyfarfod, dywedodd Rhun ap Iorwerth:
 
“Diolch i’r rhai a ddaeth i’r cyfarfod agored yng Nghaergybi. Cawsom drafodaeth adeiladol ar amryw o bynciau – o gyfleoedd swyddi lleol i’r farchnad sengl, o gysylltiadau trafnidiaeth rhwng de a gogledd i gysylltiadau trydn ar draws yr ynys.
 
“I’r rhai ohonoch nad oedd yn gallu dod, rydw i wastad ar gael i drafod unrhyw fater o bwys i chi. Cysylltwch â mi – rhun.apiorwerth@cynulliad.cymru – neu dewch if y nghyfarfod cyhoeddus nesaf yn Amlwch.”
 
Bydd Rhun ap Iorwerth yn cynnal cyfarfod cyhoeddus gyda chroeso cynnes i bawb yn y Dinorben Arms, Amlwch ar nos Iau, Tachwedd 10fed am 6:00pm.

Rhun ap Iorwerth AC yn annog pobl mewn grwpiau ‘risg’ i gael y brechiad ffliw rhad ac am ddim

Mae Rhun ap Iorwerth yn annog pawb sy’n gymwys i gael y brechiad ffliw rhad ac am ddim i amddiffyn eu hunain rhag cael neu ledu ffliw, salwch sy’n eich gwanhau’n ddifrifol ac sy’n gallu lladd.

Mae Mr ap Iorwerth, sy’n cynrychioli Ynys Môn, wedi ymuno â’r galwadau sy’n cael eu gwneud gan weithwyr iechyd proffesiynol blaenllaw yn annog pobl 65 oed neu hŷn, gofalwyr, menywod beichiog a phobl a chanddynt rai mathau o salwch hirdymor i wneud apwyntiad gyda’u meddyg teulu lleol a chael y brechlyn ffliw rhad ac am ddim yn fuan.
Mae pob plentyn dwy a thair oed ar 31 Awst 2016, a phlant yn y dosbarth derbyn a blynyddoedd un, dau a thri yn yr ysgol gynradd hefyd yn gallu cael eu hamddiffyn trwy frechlyn ffliw chwistrell trwyn. Bydd y plant dwy a thair oed yn cael eu brechlyn chwistrell trwyn gan eu meddyg teulu a bydd plant yn y dosbarth derbyn a blynyddoedd un, dau a thri (plant 4 – 7 oed fel arfer) yn cael cynnig eu brechlyn chwistrell trwyn yn yr ysgol.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth: “Mae rhaglen brechu rhag ffliw fawr ar waith ledled Cymru i gynnig brechlynnau rhad ac am ddim i unigolion sy’n wynebu’r perygl mwyaf o ddioddef cymhlethdodau difrifol o ffliw, a’m neges i iddyn nhw yw ‘curwch ffliw cyn iddo’ch curo chi!’

“Y llynedd yng Nghymru cafodd llai na hanner (47%) y bobl dan 65 oed mewn grwpiau ‘risg’ eu brechiad GIG rhad ac am ddim, ac mae mawr angen inni gynyddu’n sylweddol faint o bobl sy’n cael eu brechu er mwyn atal y salwch hwn y gellir ei rwystro i raddau helaeth rhag lledu.”

Dywedodd Dr Richard Roberts, Pennaeth Rhaglen Heintiau y Gellir eu Hatal trwy Frechlyn yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, “Argymhellir brechiad ffliw yn gryf ar gyfer pawb sy’n wynebu risg uwch o ffliw difrifol, grŵp sy’n cynnwys pobl 65 oed neu drosodd, pobl a chanddynt gyflyrau iechyd hirdymor, menywod beichiog yn ogystal â phlant dwy i saith oed. Mae brechiad ffliw ar gael yn rhad ac am ddim i’r holl grwpiau hyn, ac i bobl sy’n ofalwyr di-dâl. Eleni, mae’r GIG hefyd yn cynnig brechiad rhad ac am ddim i oedolion angheuol o ordew – sef oedolion a chanddynt fynegai màs y corff (BMI) o 40 neu’n uwch.”

Ychwanegodd Dr Roberts: “Mae’r rhan fwyaf o bobl sy’n cael ffliw fel arfer yn gwella ar ôl 4-5 diwrnod o dwymyn, cur pen/pen tost, cyhyrau’n gwynegu a dolur gwddf/gwddf tost. Ond gall ffliw fod yn fwy difrifol a gall olygu gorfod cael gofal ysbyty. Y gaeaf diwethaf, fel yn y rhan fwyaf o aeafau, cafwyd sawl marwolaeth oherwydd ffliw.”
Mae’n bosib atal ffliw trwy frechiad syml, diogel sy’n cael ei gynnig bob blwyddyn gan feddygon teulu ac mewn rhai fferyllfeydd cymunedol i bawb mewn grwpiau ‘risg’. Gwneir hynny er mwyn amddiffyn rhag haint difrifol y gellir ei osgoi gan y gall ffliw wneud cyflwr iechyd sydd gennych yn barod yn waeth.

Caiff firws y ffliw ei wasgaru’n rhwydd trwy ddiferion sy’n cael eu chwistrellu i’r awyr pan mae person sydd wedi’i heintio yn pesychu neu’n tisian. Mae cyswllt uniongyrchol â dwylo neu arwynebau a heintiwyd hefyd yn gallu gwasgaru’r haint. Gall ledu’n gyflym iawn, yn enwedig felly mewn cymunedau caeedig fel ysbytai, cartrefi preswyl ac ysgolion.
Mae’r grwpiau risg yn cynnwys: pob menyw feichiog, ac unigolion o 6 mis oed a chanddynt glefyd anadlol cronig, gan gynnwys asthma cymedrol i ddifrifol, cyflyrau cronig y galon yn cynnwys angina a methiant y galon, clefyd yr arennau, problemau â’r iau/afu neu anhwylderau niwrolegol (megis strôc a strôc ysgafn) yn ogystal ag unrhyw un â diabetes. Argymhellir hefyd y dylai oedolion angheuol o ordew gael brechiad ffliw.

Grŵp arall sy’n wynebu risg sylweddol uwch o ffliw difrifol yw’r sawl a chanddynt systemau imiwnedd gwannach oherwydd clefyd neu driniaeth gyda rhai mathau o gyffuriau, megis pobl sy’n cael triniaeth am gancr neu gyflyrau fel arthritis gwynegol difrifol.

Mae pawb sy’n 65 oed a throsodd yn wynebu mwy o risg o ffliw ac argymhellir y dylent gael brechiad ffliw bob blwyddyn.

Gall darllenwyr gael gwybod mwy am sut i gael eu brechlyn rhad ac am ddim trwy fynd i www.beatflu.org.uk neu www.curwchffliw.org.uk, neu trwy ddod o hyd i Beat Flu neu Curwch Ffliw ar twitter a facebook.

Gwarchod amgylchedd naturiol gweledol Môn rhag peilonau

Bu AC Ynys Môn Rhun ap Iorwerth yr wythnos hon yn holi’r Ysgrifennydd Amgylchedd am effaith amgylcheddol cynlluniau’r Grid Cenedlaethol ar draws Ynys Môn.

Yn siarad yn y Senedd, dywedodd Rhun ap Iorwerth:

“Mi fydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn ymwybodol o’r penderfyniad gan y Grid Cenedlaethol i roi gwifrau mewn twnnel o dan y Fenai. Rydym yn gobeithio gweld pont newydd yn cael ei chodi i ddeuoli pont Britannia; rwy’n siŵr y byddai’r Ysgrifennydd Cabinet yn cytuno â fi y bydd yna lai o impact amgylcheddol o roi gwifrau ar y bont honno yn hytrach na chodi pont a thyrchu twnnel.

“Ond hefyd, os ydy’r grid yn mynd am opsiwn y twnnel rhag niweidio amgylchedd naturiol gweledol ardal y Fenai, onid ydy’r un peth yn wir am yr angen i warchod amgylchedd naturiol gweledol Ynys Môn drwy danddaearu ar draws yr holl ynys?”

AC yn holi am effaith cynlluniau ffiniau Llywodraeth y DG ar Gaergybi ac Ynys Môn

Mae AC Ynys Môn Rhun ap Iorwerth wedi codi cwestiynau yn siambr y Cynulliad ynglŷn â’r effaith ar y cysylltiad Caergybi-Dulyn os oes ffin i gael ei gosod o amgylch ynys Iwerddon.

Yn ystod Cwestiynau i’r Prif Weinidog yr wythnos hon, siaradodd Rhun ap Iorwerth am bwysigrwydd Porthladd Caergybi. Dywedodd:

“Yn fy etholaeth i, Ynys Môn, mae’r cwestiwn o ffiniau efo Iwerddon yn un o’r cwestiynau mwyaf allweddol o ran y drafodaeth am adael yr Undeb Ewropeaidd. Os oes ffin i gael ei gosod o gwmpas ynys Iwerddon, fel sy’n cael ei hawgrymu—ac mae Ysgrifennydd Gwladol Gogledd Iwerddon wedi dweud ei fod am gryfhau rheolaeth ffiniau ym mhorthladdoedd a meysydd awyr Iwerddon—beth yw asesiad y Prif Weinidog o effaith debygol hynny ar y man croesi pwysicaf o ran masnach rhwng Prydain ac Iwerddon, sef, yn fy etholaeth i, porthladd Caergybi?”

Yn ei ymateb, fe wnaeth y Prif Weinidog hefyd daflu dŵr oer ar gynlluniau Llywodraeth y DG i osod ffin Prydain ym mhorthladdoedd a meysydd awyr Iwerddon, gan rybuddio am nifer o broblemau gyda’r cynlluniau, a gan ddweud nad oes neb eto wedi do di fyny hefo unrhyw ffordd o ddatrys y broblem a nad yw hynny o les i drigolion Ynys Môn na Chaergybi. Fodd bynnag,dywed Plaid Cymru ei bod hi’n amser i Llafur Cymru fod yn fwy pendant a chyson.

Clip fideo o’r cwestiwn ac ateb yn y Senedd yr wythnos hon:

Yn siarad yn ddiweddarach, ychwanegodd Rhun ap Iorwerth:

“Byddai’r posibilrwydd o osod ffin galed yn yr Iwerddon ddim yn ei gwneud yn ddeniadol iawn i bobl i deithio a gwneud busnes trwy Gaergybi. Mae tua 2.1 miliwn o deithwyr yn teithio trwy Caergybi yn flynyddol yn ogystal â 500,000 o geir, a 400,000 o gerbydau cludo nwyddau. Mae Llywodraeth y DG wedi datgan ei fod eisiau gosod y ffin Brydeinig ym mhorthladdoedd a meysydd awyr Iwerddon, sy’n golygu y bydd pasio drwy borthladd Caergybi yn creu anhawster difesur i’r teithwyr a cherbydau hyn.

“Mae hyn unwaith eto yn dangos bod rhwygo Cymru a’r DG allan o’r Farchnad Sengl yn ffolineb, gan y bydd yn golygu bod ffin yr UE ym mhorthladdoedd Cymru a fydd yn cynyddu costau busnes yn sylweddol ac yn rhoi masnach a swyddi mewn perygl.

“Bydd gadael y Farchnad Sengl yn cael effaith enfawr ar swyddi yng Nghymru ac eto mae’r blaid Lafur wedi methu yn llwyr i amlinellu safbwynt cydlynol arno. Er gwaethaf cydnabod y byddai rhoi ffin galed yn Iwerddon yn creu problemau, mae’r llywodraeth Lafur yng Nghymru wedi mabwysiadu dull ‘Brexit caled’ a phleidleisio i adael y Farchnad Sengl tra bod y Blaid Lafur yn ganolog wedi hyrwyddo aros yn y Farchnad Sengl.

“Mae’n amlwg mai aros yn y Farchnad Sengl sydd orau ar gyfer swyddi, masnach ac i deithwyr yng Nghymru. Bydd Plaid Cymru yn ymgyrchu dros aelodaeth o’r Farchnad Sengl oherwydd dyna beth sydd er lles gorau Cymru.”

Swyddfa Bost i Amlwch – newyddion da, ond dal yn rhy hir

Mewn ymateb i’r cyhoeddiad fod Swyddfa Bost newydd am agor yn siop Spar yn Amlwch yn Chwefror 2017, dywedodd Aelod Cynulliad Ynys Môn Rhun ap Iorwerth:

“Rydw i newydd glywed y newyddion bod Post newydd i agor yn Spar Amlwch. Mi gefais i gyfarfod efo Spar a’r Post rhyw ddeufis yn ôl ac rydw i’n falch bod Amlwch am gael Post eto. Ond, mae aros tan Chwefror yn rhy hir yn fy marn i. Mi fyddai’n cysylltu efo Swyddfa’r Post i ofyn am rhyw fath o wasanaeth dros dro. Mae’r dref wedi bod heb Swyddfa Bost am rhy hir yn barod – mae’n achos trafferth mawr i bobl, yn enwedig yr henoed a’r mwyaf bregus. Mi wna’i roi gwybod i chi pan glywa’i ymateb.”

Cyfarfod gorlawn i drafod cynlluniau Zorbio Menai

Mynychodd dros 100 o bobl y cyfarfod cyhoeddus a drefnwyd gan AC Ynys Môn Rhun ap Iorwerth i drafod y cynigion ar gyfer Canolfan ‘Zorbio’ rhwng Llanfairpwll a Phorthaethwy.
 
Roedd cynghorwyr lleol a chynrychiolwyr y datblygwyr Zorb Eryri hefyd yn bresennol yn y cyfarfod llawn dop a gynhaliwyd yng Ngwesty Carreg Bran neithiwr.
 
Yn dilyn y cyfarfod, dywedodd Rhun ap Iorwerth AC:
 
“Gyda cymaint o bobl wedi cysylltu gyda mi am hyn, roeddwn yn meddwl y byddai’n ymarfer defnyddiol i gael pawb mewn un cyfarfod, boed o blaid neu yn erbyn, a rhoi cyfle i bobl gael dweud eu dweud mewn fforwm gyhoeddus. Roeddwn wrth fy modd bod cynrychiolwyr y cwmni hefyd wedi mynychu.”
 
Mae’r AC lleol wedi dweud y bydd yn awr yn ysgrifennu at y Cyngor Sir gyda chrynodeb o’r pwyntiau a godwyd yn ystod y cyfarfod ac mewn gohebiaeth uniongyrchol gydag ef. Ychwanegodd:
 
“Ar ôl clywed barn y bobl heno, mae’n amlwg iawn nad yw pobl yn y rhan hon o Ynys Môn yn dymuno i’r datblygiad Zorb fod yn y lleoliad eiconig yma ar lan y Fenai. Felly, er bod cefnogaeth i’r bobl ifanc hyn sydd wedi dod ymlaen â’r syniad, y neges glir heno oedd y dylent ailystyried y lleoliad a’i osod mewn man arall.”

Fideo: Rhun yn dweud fod angen gwella signal ffonau symudol mewn ardaloedd gwledig fel Môn

Yn ystod Cwestiynau i’r Prif Weinidog yn y Cynulliad ddoe, fe dynodd AC Ynys Môn Rhun ap Iorwerth sylw at y signal ffonau symudol gwael mewn ardaloedd fel Ynys Môn. Dywedodd:

“Er bod ardaloedd gwledig fel Ynys Môn yn talu’r un faint â phawb arall ym Mhrydain am eu gwasanaeth ffôn symudol, maen nhw’n aml iawn yn cael gwasanaeth eilradd. I ddweud y gwir, mae rhai yn talu mwy am ffôn symudol mewn rhywle fel Ynys Môn—rhai yn talu am ddau ffôn, un ar gyfer y gwaith, un ar gyfer y tŷ; rhai yn talu am focs i gryfhau’r signal; ac eraill hyd yn oed yn gorfod talu ‘roaming charges’ oherwydd bod y signal o Iwerddon yn gryfach na’r signal sydd yn Ynys Môn. Mae’r ‘Daily Post’ ar hyn o bryd yn rhedeg ymgyrch i geisio gwella signal yn y gogledd, ac mi oeddent yn datgelu ffigurau ddoe ynglŷn â ‘coverage’ 4G: rwy’n meddwl yr oedd yr Iseldiroedd ar 83 y cant, Prydain ar 53 y cant a Chymru ar 20 y cant. O ystyried bod cysylltedd yn beth mor bwysig yng nghefn gwlad, beth sydd wedi rhwystro Llywodraeth Cymru rhag gallu annog cwmnïau ffonau symudol i wneud mwy i ddarparu gwell gwasanaeth a signal yng nghefn gwlad ac yn Ynys Môn?”

RAF Fali yn anelu’n uchel gyda buddsoddiad rhedffordd newydd

Mae RAF y Fali yn edrych ymlaen at lawer mwy o flynyddoedd ym Môn ar ôl i’w redffordd fwyaf gael arwyneb newydd.

Bydd yn cymryd tua blwyddyn i’r gwaith gael ei gwblhau, ond eglurodd comander yr orsaf, y Capten Grŵp Brian Braid, wrth AC Ynys Môn Rhun ap Iorwerth ei fod yn fuddsoddiad hollbwysig yn nyfodol prif ganolfan hyfforddi peilotiaid jetiau cyflym y RAF.

Mae’r Capten Grŵp newydd Brian Braid, yn falch iawn i fod yn ôl yng nghanolfan y Llu Awyr Brenhinol yn y Fali, gan mai yma y cafodd ef ei hun ei hyfforddi fel peilot.

Bu ef a Mr ap oedd Iorwerth yn trafod nifer o faterion yn ymwneud â gwaith y Llu Awyr Brenhinol ar yr Ynys, gan gynnwys y rhedffordd newydd, y potensial i ddatblygu mwy o hediadau sifil, cyfleoedd cyflogaeth lleol ymysg y gweithlu sifil o 1000+, a phryderon ynglŷn â sŵn awyrennau.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth AC: “Mae RAF y Fali yn gyflogwr pwysig iawn ar yr ynys, ac mae’n rhan bwysig o’m gwaith fel cynrychiolydd yr ynys yn y Cynulliad i weithio’n agos gyda’r Capten Grŵp Braid a’i dîm i sicrhau bod y berthynas rhwng RAF y Fali a’r gymuned yn parhau i fod yn un da.

“Gellir datblygu’r ganolfan ar gyfer mwy o gyfleoedd hedfan sifil, yn ogystal â’r hediad i Gaerdydd, ac mae hynny’n gyffrous dros ben. Mae sŵn awyrennau yn fater sydd wedi’i ddwyn i’m sylw ar nifer o achlysuron, ac yr wyf wedi gohebu yn ddiweddar gyda’r Weinyddiaeth Amddiffyn a Llywodraeth Cymru ar y mater hwn.”

Ychwanegodd fod rhoi arwyneb newydd ar y rhedffordd yn hanfodol ar gyfer dyfodol y ganolfan, a’i fod yn gobeithio y bydd cyn lleied o darfu a phosib ar yr ardal gyfagos yn ystod y cyfnod adeiladu.

Rhun yn cyfarfod HSBC

Yn dilyn eu cyhoeddiad i gau canghennau ym Mhorthaethwy ac Amlwch, fe wnaeth Rhun ap Iorwerth AM gyfarfod rheolwyr rhanbarthol HSBC. Yn dilyn y cyfarfod dywedodd:

“Yn fy nghyfarfod gyda HSBC, pwysleisiais pa mor siomedig oedd eu cyhoeddiad. Cefais sicrwydd na fyddai unrhyw swyddi’n cael eu colli, ond mae hyn yn ergyd arall i’r trefi, ac roedd yn amlwg nad oedd ganddynt fwriad i ail-ystyried. Gyda’r ansicrwydd ynghylch dyfodol y Swyddfa Bost yn Amlwch hefyd, gofynnais am oedi wrth wneud unrhyw benderfyniad hyd nes y byddwn yn cael mwy o sicrwydd am y gwasanaethau bancio a fydd ar gael i gwsmeriaid drwy’r swyddfa bost.

“Ydy, mae arferion bancio wedi newid ac mae hynny’n golygu llai o bobol yn mynd i’r gangen, ond mae penderfyniadau i gau yn cael eu cymryd tra bod llawer, gan gynnwys yr henoed a’r bregus, yn ei chael yn anodd neu yn methu gallu troi at ffyrdd mwy modern o fancio a dal i fod angen y cysylltiad gyda’u cangen leol.”