Diolch yn fawr

Dyma gyfle i eistedd lawr o’r diwedd ac i edrych nol ar yr etholiad a’r canlyniad yn Ynys Môn. Roedd hi’n bleser cydweithio efo criw mor rhagorol dros Blaid Cymru ym Môn ac i gael miloedd o sgyrsiau efo pobl arbennig ym mhob cwr o’r ynys.

Prin y meddyliais i bod modd rhagori ar ganlyniad is-etholiad 2013, ond dyna ddigwyddodd, gyda mwyafrif Plaid Cymru ym Môn rwan y mwyaf i unrhyw blaid yng Nghymru.

Diolch i bawb gymrodd ran – waeth pa mor fawr neu fach – yn yr ymgyrch, ac yn bennaf oll, diolch i bobl Ynys Môn am roi eich ffydd ynof i a Phlaid Cymru i’ch cynrychioli yn y Cynulliad Cenedlaethol unwaith eto. Byddaf yn gwneud fy ngorau i ad-dalu’r ffydd hwnnw.

DIOLCH!

‘Un genedl, un uchelgais’ – uchelgais Plaid dros y genedl yn apelio i Gymru gyfan: Rhun ap Iorwerth

Heddiw, bydd Gweinidog Cysgodol Plaid Cymru dros yr Economi, Rhun ap Iorwerth, yn annog pobl ledled y wlad i uno y tu ol i weledigaeth y blaid am Gymru iach, glyfrach, gyfoethocach i roi terfyn ar 17 mlynedd o dranc dan arweiniad Llafur.

Wrth siarad cyn ei araith i Gynhadledd Wanwyn Plaid Cymru yn Llanelli, dywedodd Rhun ap Iorwerth fod gan y blaid y rhaglen lywodraeth fwyaf dyfeisgar yn ei hanes, ac y gall uchelgais Plaid Cymru dros y genedl apelio I Gymru gyfan.

Ychwanegodd y gall pobl ledled y wlad, beth bynnag fo eu cefndir, eu hamgylchiadau neu eu teyrngarwch blaenorol, uno y tu ol i raglen Plaid Cymru i wrthdroi cyflwr ein gwasanaethau cyhoeddus a chreu economi Gymreig gref a gwydn.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth, Gweinidog Cysgodol Plaid Cymru dros yr Economi:

“Gwyddom pa fath o Gymru or hoffem ei gweld. Cymru ble fo unigolion a chymunedau yn cael eu parchu, ble fo amrywiaeth yn cael ei ddathlu, a ble y gall pawb geisio cefnogaeth i wireddu eu gobeithio a’u dyheadau, i’w hunain ac i’w teuluoedd.

“Mae ein hamcanion i’r economi yn glir – cefnogi busnesau bach i dyfu drwy dorri trethi busnes, sicrhau fod mwy o gytundebau o Gymru yn mynd i gwmniau yng Nghymru, a gwerthu ein cynnyrch, syniadau a sgiliau i’r byd drwy greu WDA newydd i’r unfed ganrif a’r hugain.

“Byddai ein Comisiwn Isadeiledd Cenedlaethol newydd yn adeiladu seiliau cadarn i economi gref a gwydn – yn buddsoddi mewn rhwydweithiau isadeiledd digidol, trafnidiaeth gwyrdd ym mhob cwr o’r Wlad. Gorllewin, dwyrain, gogledd, de – un genedl, un uchelgais.

“Mae pleidleisio i Blaid Cymru – drwy ystyried a gweld potensial yn y rhaglen yr ydym yn ei chyflwyno – yn golygu pleidleisio dros fath newydd o arweinyddiaeth i Gymru sy’n feiddgar a chyfrifol.

“Gall ein huchelgais dros Gymru apelio i bawb. Beth bynnag fo cefndir, amgylchiadau neu deyrngarwch blaenorol pobl, gall y genedl gyfan uno y tu ol i’n rhaglen i greu Cymru iach, glyfrach, gyfoethocach.

“Mae newid go iawn ar y papur pleidleisio yn yr etholiad hwn. Nawr yw’r amser i benderfynu. I’r gweithiwr, y perchennog busnes a’r entrepreneur sy’n edrych am oes newydd o hyder economaidd. I’r athro sy’n edrych am barch gan y llywodraeth. I deulu’r rhai sy’n dioddef dementia ac sy’n edrych am help llaw. I’r bobl ifanc sy’n edrych am gyfleoedd.

“Dros Gymru newydd, gyda llywodraeth newydd. Plaid Cymru yw’r newid sydd ei angen.”

Angen gwrando ar farn leol ac ailystyried penderfyniad llysoedd, medd AC

Mae AC Ynys Môn Rhun ap Iorwerth yn gofyn i’r Llywodraeth wrando ar farn lleol ac ailystyried eu penderfyniad i gau llysoedd Môn.

Yn dilyn datganiad diweddar Llywodraeth y DG eu bod am gau’r llysoedd yng Nghaergybi a Llangefni, er gwaethaf gwrthwynebiad lleol yn ystod y broses ymgynghori, mae Rhun wedi ysgrifennu atynt yn galw arnynt i ailystyried. Dywed:

“Fe ddangosodd y broses ymgynghori fod gwrthwynebiad clir i gau’r llysoedd. Allan o bob un a wnaeth ymateb am Lys Ynadon Caergybi, er enghraifft, nid oedd yr un ohonynt yn cefnogi’r cynnig i gau.

“Ond er gwaethaf hyn, ac er gwaetha’r achos cryf a oedd wedi cael ei wneud gan gynrychiolwyr etholedig o sawl plaid ar sawl lefel, yn ogystal â gan gyfreithwyr ac ynadon lleol a defnyddwyr eraill o’r llysoedd i gadw llysoedd Caergybi a Llangefni ar agor, daeth y llywodraeth i’r casgliad y dylid cau’r ddau.

“Er eu bod nhw’n dweud eu bod yn chwilio am ffyrdd eraill o ddarparu gwasanaethau ar Ynys Môn, siawns y dylid fod wedi gwneud hyn cyn gwneud y penderfyniad i gau.

Rydw i’n dal i gredu y byddai’r penderfyniad i gau yn cael effaith andwyol ar gyfiawnder lleol ac felly wedi galw arnynt i ailystyried ac i wrando ar farn mwyafrif y rhai a wnaeth ymateb i’r ymgynghoriad.”

Bydd colli’r Swyddfa Bost yn ergyd fawr i Amlwch, medd AC

Mewn ymateb i’r newyddion fod Swyddfa Bost Amlwch yn cau, dywedodd AC Ynys Môn Rhun ap Iorwerth:

“Bydd colli’r Swyddfa Bost yn ergyd fawr i Amlwch. Dim ond wythnosau yn ôl, fe gyhoeddodd HSBC eu bwriad i gau eu cangen yn y dref, a dywedwyd wrth gwsmeriaid y dylen nhw allu gael mynediad at eu cyfrif trwy’r Swyddfa Bost! Rhybuddiais mewn dadl Cynulliad ar fancio wythnos yn ôl bod ansicrwydd dros ddyfodol Swyddfa Bost Amlwch, ac ysgrifennais at Swyddfa’r Post Cyf i godi’r pryderon hynny.

“Er bod Swyddfa’r Post Cyf yn dweud eu bod nhw’n benderfynol o adfer gwasanaeth yn y dref ar y ‘cyfle cyntaf’, mae hi’n siomedig iawn na allwyd datrys hyn yn gynt. Byddaf yn cadw’r pwysau ar Swyddfa’r Post i ddod o hyd i ddarparwr newydd cyn gynted â phosib – all Amlwch ddim gwneud heb y gwasanaeth yma.”

Trist clywed am Castle Bakery

Mewn ymateb i’r newyddion fod Castle Bakery yn cau eu siopau, dywedodd Aelod Cynulliad Ynys Môn Rhun ap Iorwerth:

“Trist oedd clywed y newyddion fod Castle Bakery yn cau eu siopau – gan gynnwys y rhai yng Nghaergybi, Porthaethwy a Biwmares. Mae fy meddyliau gyda’r staff sydd yn colli ei swyddi ar Ynys Môn ac ymhellach.

“Fel gymaint o bobl eraill ar yr ynys, cefais fy magu ar fara Castle Bakery ac roedd ymweld â’u siopau neu gaffis wastad yn bleser. Mae bron yn frand eiconig ym Môn, ac mae hyd yn oed wedi ymddangos yn y Rough Guide to Britain. Bydd yn drist iawn ei weld yn mynd.

“Mae newyddion drwg fel hyn am golli swyddi ac ergydion i’n strydoedd mawr yn pwysleisio’r angen i wneud popeth gallwn ni i greu cyfleoedd cyflogaeth newydd ar yr ynys ac i adfywio canol ein trefi.”

Fideo: Rhun yn codi pryderon gwasanaeth tân gyda’r Gweinidog

Yn dilyn cyfarfod gyda swyddogion tân yng Nghaergybi, fe soniodd AC Ynys Môn Rhun ap Iorwerth am bryderon ynglŷn â recriwtio gyda’r Gweinidog Gwasanaethau Cymdeithasol yn siambr y Cynulliad.

Nid dyma’r tro cyntaf iddo godi’r mater yn y Cynulliad, wedi iddo ddos a’r pet hi sylw’r llywodraeth yn dilyn y tân yn y siop sglodion yn Llangefni y llynedd a’r amser a gymerodd hi i injan dân gyrraedd gan nad oedd gorsaf Llangefni yn cael ei manio.

Yn siarad yn y Senedd, dywedodd Rhun ap Iorwerth:

“Mi gefais i gyfarfod ardderchog efo swyddogion tân yng Nghaergybi yn ddiweddar. Maen nhw’n griw cwbl ymroddedig i’w gwaith nhw, ond mae’n bryder ganddyn nhw, fel finnau, fod problem recriwtio swyddogion tân wrth gefn, neu ‘retained’, yn creu problemau gwirioneddol i ddarparu cyfar tân mewn ardaloedd gwledig fel Ynys Môn. A ydy’r Gweinidog yn cytuno, felly, fod angen i ymgyrchoedd recriwtio ganolbwyntio’n wirioneddol ar y lleol a phwysleisio bod swyddogion tân ‘retained’ yn darparu gwasanaeth hanfodol i’w cymunedau nhw?”

Yn ei ymateb, fe wnaeth y Gweinidog gymeradwyo datganiad Rhun am y rôl bwysig a chwaraeir gan ddiffoddwyr tân wrth gefn mewn gorsafoedd megis Caergybi. Dywedodd hefyd ei fod yn hyderus fod y recriwtio sy’n cael ei wneud gan y gwasanaeth tân ac achub yn cyflawni’r hyn sydd ei angen, ar ôl i ymarfer recriwtio ar gyfer Cymru gyfan gan yr awdurdodau tân ac achub cyfunol ddenu lefel uchel iawn o ymgeiswyr.

Fideo: Rhun yn siarad mewn dadl ar fancio yn y Senedd

Mewn dadl yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru ar gau banciau, siaradodd AC Ynys Môn Rhun ap Iorwerth am y ddwy enghraifft yn Amlwch a Phorthaethwy, a bu’n dadlau y dylai banciau rhoi ystyriaeth lawn i effaith eu penderfyniadau ar gymunedau.

Araith Rhun yn llawn:

Wrth gwrs, mae colli banc lleol yn ergyd fawr i unrhyw un yn unrhyw gymuned. Ar y gorau, gallai hynny olygu bod rhywun yn gorfod newid cyfrif banc i’r banc arall lawr y ffordd; ar y gwaethaf, ac yn llawer rhy aml, y realiti, wrth gwrs, ydy mai’r banc sy’n gadael ydy’r banc olaf yn y gymuned.

Y ddwy enghraifft sydd gen i o fy etholaeth i yn ddiweddar ydy Porthaethwy ac Amlwch. Ym Mhorthaethwy, mae HSBC yn cau yn y fan honno—tref ffyniannus, llawn bwrlwm economaidd, ac nid yw’n gwneud dim synnwyr i unrhyw un sy’n edrych o’r tu allan pam y byddai HSBC yn bwriadu cau’r gangen honno, yn enwedig o ystyried mai mater o flwyddyn neu ddwy sydd yna ers i’r gangen ym Miwmares gau. Yr hyn a ddywedwyd wrth gwsmeriaid y banc ar y pryd oedd: ‘Peidiwch â phoeni, ewch i Borthaethwy i wneud eich bancio.’ Yn Amlwch, mae’r gangen yn y fan honno’n cau. Mae Amlwch yn dref sydd yn mynd i fod yng nghanol bwrlwm economaidd rhyfeddol yn y degawd nesaf, ond mae’n amlwg nad oes edrych ymlaen tua’r dyfodol wedi digwydd gan y banc yn y cyd-destun hwnnw. Beth sy’n cael ei ddweud wrth gwsmeriaid rŵan? ‘Peidiwch â phoeni, mi allwch chi wneud eich bancio yn y post.’ Ond rydym yn gwybod yn Amlwch fod yna ansicrwydd ynglŷn â dyfodol y post yn y fan honno ac rydym yn gwybod am ormod o gymunedau yng Nghymru lle mae’r post wedi cael ei golli hefyd.

Rydym yn gwybod bod hyn, yn ôl y banciau, yn cael ei yrru gan newid yn ein harferion bancio, ac, wrth gwrs, rydym ni, bob un ohonom ni, rwy’n siŵr, yn y Siambr yma yn gwneud mwy o’n bancio ar-lein ac ati. Ond mae’r penderfyniadau i gau’r canghennau yn digwydd ar adeg lle nad yw’n cymunedau ni drwyddi draw yn barod i allu dweud, ‘Ydyn, rydym yn gymunedau sy’n llwyr fancio ar-lein.’ Mae yna ormod o bobl sy’n fregus, yn oedrannus yn ein cymunedau ni nad ydynt yn barod i allu cymryd rhan yn yr oes fodern o fancio ar-lein. Rydym yn siarad hefyd yn y Siambr yma’n ddigon aml am broblemau efo band llydan yn ein hardaloedd gwledig ni. Mae yna ormod o ardaloedd nad oes ganddynt y gallu o ran yr isadeiledd digidol i allu cymryd rhan lawn mewn bancio ar-lein.

Yr hyn mae’r banciau yn ei ddweud, wrth gwrs, ydy nad ydy’r canghennau yma’n broffidiol. Mae’n siŵr eu bod nhw’n iawn, o ystyried y canghennau eu hunain. Mi gyfeiriaf at bapur a gafodd ei gyhoeddi gan yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd ym mis Awst y llynedd fel rhan o ymchwiliad i’r farchnad bancio a manwerthu:

Mae’r banciau’n gwneud arian oddi ar eu bancio manwerthu. Beth ddylai ddigwydd ydy bod banciau yn gweithredu fel rhwydwaith, efo canghennau proffidiol yn helpu, yn eu tro, i gynnal y rhai llai proffidiol, mewn ffordd y mae rheoleiddio yn sicr yn digwydd efo marchnad breifat ffonau symudol, er enghraifft—dydy mastiau yn Ynys Môn ddim yn gwneud arian i’r cwmnïau ffôn, ond fel rhan o rwydwaith maen nhw’n gorfod, wrth gwrs, darparu gwasanaeth ehangach. Felly, dyna ddylai ddigwydd efo’r banciau, ond yn amlwg nid oes gan y banciau ddiddordeb yn hynny. Felly, mae’n rhaid inni gadw’r pwysau ar y banciau ac ar Lywodraethau i sicrhau bod yna ystyriaeth lawn yn cael ei rhoi gan y sefydliadau yma o effaith eu penderfyniadau nhw ar gymunedau.

Fe allwn ni wneud ymdrechion i sicrhau hyfywedd y stryd fawr, er enghraifft, er mwyn dod â rhagor o gwsmeriaid i’r banciau, ond, wrth gwrs, banc ydy un o’r pethau hynny sydd yn creu stryd fawr ffyniannus. Mi wnawn ni chwarae’n rhan, wrth gwrs, o ran ceisio sicrhau bod yna bobl a ‘footfall’ mewn banciau, ond mae’n rhaid i fanciau ystyried eu cyfrifoldebau fel rhan, fel rwy’n dweud, o rwydwaith sy’n gwasanaethu nid ein hardaloedd poblog a chyfoethog yn unig, ond ein hardaloedd gwledig a thlotach hefyd.