Rhun yn cefnogi Wythnos Ymwybyddiaeth Sgrinio Serfigol

Mae’r AC Rhun ap Iorwerth yn cefnogi Wythnos Ymwybyddiaeth Sgrinio Serfigol yr wythnos hon (CSAW, 12 – 18 Mehefin), trwy annog merched i fynychu’r prawf sgrinio serfigol pan mae’r gwahoddiad yn dod.

Mae canser gwddf y groth yn cymryd 2 fywyd bob diwrnod yn y DG a dyna’r canser mwyaf cyffredin mewn merched o dan 35. Mae sgrinio serfigol yn atal hyd at 75% o canserau gwdddf y groth ond eto mae’r nifer sy’n mynychu’r prawf sgrinio ar ei isaf ers 10 mlynedd yng Ngymru a mae mwy na un ym mhob 5 o ferched yn methu mynd i’w apwyntiad sgrinio.

Dywed Rhun ap Iorwerth AC: “Mae sgrinio serfigol yn arbed tua 5,000 o fywydau yn y DG bob blwyddyn ac eto dydy llawer o ferched ddim yn deall pwysigrwydd cael eu sgrinio’n rheolaidd. Yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Sgrinio Serfigol, mi fyddwn i’n annog merched i siarad gyda’u ffrindiau, mamau, a merched am y camau y gallent eu cymryd i leihau’r risg o canser gwddf y groth. Mae’n brawf pwysig sy’n cymryd pum munud ac yn gallu achub bywyd.”

Dywed Robert Music, Prif Weithredwr Jo’s Cervical Cancer Trust: “Allwn ni ddim fforddio i weld llai o bobl yn cael eu sgrinio. Mae diagnoses o ganser gwddf y groth yn y DG yn boenus o uchel a gallent gynyddu oni bai fod mwy o merched yn cael eu sgrinio. Rydym ni eisiau annog merched i edrych ar ôl eu hiechyd, gan gynnwys iechyd gwddf eu groth a mae hynny’n golygu mynychu sgrinio rheolaidd. drwy beidio mynychu, mae merched yn cynyddu eu risg o afiechyd sy’n bygwth bywyd.”

Am fwy o wybodaeth ewch i www.jostrust.org.uk/csaw

Plant Llannerchymedd yn y Cynulliad

Cafodd Aelod Cynulliad Ynys Môn Rhun ap Iorwerth gwmni disgyblion Ysgol Llannerchymedd yn y Cynulliad heddiw.

Fel rhan o’u hymweliad i Gaerdydd, cafodd y disgyblion daith o amgylch y Senedd a chael gweld sedd Ynys Môn yn y siambr, cyn holi eu Haelod Cynulliad am bopeth o deithio o Fôn i’w hoff liw (gwyrdd, wrth gwrs!)

Yn siarad wedi’r ymweliad, dywedodd Rhun:

“Roedd hi’n dda cael cyfarfod gyda phlant ac athrawon o Ysgol Llannerchymedd heddiw. Mae hi wastad yn braf cael croesawu pobl o Fôn i’r Cynulliad iddyn nhw gael gweld lle mae’r penderfyniadau sy’n effeithio arnynt yn cael eu gwneud, ac i’w hatgoffa mai eu hadeilad nhw ydy fan hyn, eu Cynulliad nhw.

“Mae codi ymwybyddiaeth ymysg pobl ifanc yn ewendig, a gwneud yn siwr eu bod nhw’n gwybod sut i gymryd rhan, yn bwysig iawn i mi. Mae’r Cynulliad cenedlaethol yn cynnal ymgynghoriad ar hyn o bryd am senedd ieuenctid, a dwi’n gobeithio y bydd cynifer o bobl a phosib yn cwblhau’r arolwg i ni gael y maen i’r wal gyda hyn a rhoi llais i’n pobl ifanc.”

Disgyblion Bodedern yn lleisio barn ar Senedd Ieuenctid gyda’u AC

Bu Aelod Cynulliad Ynys Môn Rhun ap Iorwerth yn ymweld ag Ysgol Uwchradd Bodedern gyda thîm allgymorth y Cynulliad yr wythnos hon i drafod sefydlu Senedd Ieuenctid. Dywedodd:

“Roedd hi’n braf cael sgwrs gyda disgyblion o Ysgol Uwchradd Bodedern ac i glywed eu barn nhw ar Senedd Ieuenctid i Gymru, rhywbeth yr ydw i’n teimlo’n frwdfrydig iawn amdano.

“Mae’r Cynulliad ar hyn o bryd yn gofyn am farn pobl ifanc fel cam cyntaf tuag at gael y maen i’r wal a byddwn yn annog pobl i ddweud eu dweud trwy’r wefan www.seneddieuenctid.cymru neu i gysylltu gyda mi.”

Fideo: Fy araith yn nadl Plaid Cymru ar fancio

“Mae wedi dod yn amlwg bod yna batrwm yn datblygu, ac mae sawl Aelod wedi cyfeirio ato yn barod—y patrwm yma o ganoli mewn nifer o ‘hubs’ ardal, ac mae beth sy’n digwydd ar Ynys Môn yn esiampl wych o hyn. Ar Ynys Môn, ac eithrio Ynys Gybi am eiliad, yn dilyn cyhoeddiadau diweddar, dim ond yn Llangefni fydd yna unrhyw fanc llawn-amser ar agor o gwbl. Mae Barclays rhan-amser yn Amlwch, ond mae Caergybi, fel prif ardal boblog Ynys Môn, hefyd wedi clywed yn ddiweddar ei bod hi’n colli ei HSBC. Felly, mae yna batrwm yn datblygu yma. Y cyhoeddiadau rydym ni wedi eu cael yn ddiweddar ydy: cau NatWest yn Amlwch, yng Nghaergybi, ym Miwmares ac ym Mhorthaethwy; a HSBC yn mynd yng Nghaergybi, yn Amlwch, ym Mhorthaethwy a Biwmares yn ddiweddar. Nid dim ond y banciau chwaith, ond sefydliadau ariannol yn ehangach—Yorkshire Building Society yn Llangefni i gau hefyd.

“Ac os gwnaf roi sylw i Fiwmares am eiliad, yn yr un ffordd ag y clywsom ni hanes gan Llyr Gruffydd am wasanaethau yn cael eu sugno i ffwrdd, pan gafwyd y cyhoeddiadau gan NatWest a HSBC am gau Biwmares: ‘Peidiwch â phoeni—dim ond 4 milltir i ffwrdd ydy Porthaethwy.’ Wrth gwrs, mae Porthaethwy hefyd wedi clywed bod y banciau hynny yn cau erbyn hyn.

“Y rheswm rydym yn ei glywed yw bod mwy o fancio yn digwydd ar-lein; wrth gwrs, mae hynny yn ffeithiol gywir. Mae yna lawer o wasanaethau ar gael yn y post, rydym yn ei glywed; wrth gwrs bod hynny yn wir hefyd. Ond gyda phob parch i swyddfeydd post, sydd yn cynnig mwy a mwy o wasanaethau o ran gallu talu arian i mewn a thynnu arian allan, nid yw’r cyngor, y gwasanaethau ychwanegol a’r gefnogaeth y gellid ei chael drwy ganghennau ddim ar gael. Dyna’r math o gefnogaeth mae’r pobl mwyaf bregus ei hangen. Nid wyf yn disgwyl gweld dychwelyd i’r dyddiau lle mae gan bob tref fach gangen o bob banc, ond rhywsut mae angen sicrhau bod gwasanaeth ariannol sylfaenol ar gael i bawb o fewn pellter synhwyrol a chymedrol.

“O ran yr ymgynghori sy’n digwydd, mae gen i lythyr gan NatWest yn fan hyn ynglŷn â chau cangen Porthaethwy yn dweud bod yna bump ATM—peiriant twll yn y wal—ar gael o fewn milltir i’r gangen, felly beth ydy’r ots am golli y peiriant ATM hwnnw? Wel, beth wnes i bwyntio allan i NatWest oedd bod pedwar o’r rheini ar y tir mawr—un ohonyn nhw yn Ysbyty Gwynedd ac un ohonyn nhw yng Ngholeg Menai; hynny ydy, camarwain pobl drwy roi yr argraff bod yna wasanaethau amgen ar gael. Nid oes yna ddim; un sydd yna ar gael ym Mhorthaethwy, fel mae’n digwydd, ac nid yw hwnnw, chwaith, yng nghanol y dref.”

Cynulliad Cenedlaethol yn cefnogi ffafrio ceblau dan ddaear yn hytrach na pheilonau

Mae’r Cynulliad Cenedlaethol wedi galw ar Grid Cenedlaethol i ffafrio ceblau dan ddaear mewn datblygiadau newydd i drosglwyddo trydan yng Nghymru, fel y cynllun ar gyfer Ynys Môn, o ganlyniad i gynnig a gyflwynwyd gan AC Ynys Môn Rhun ap Iorwerth.
 
Yn ystod y ddadl wedi’i harwain gan Blaid Cymru, siaradodd Rhun am y gwrthwynebdiad ar Ynys Môn i gynlluniau Grid Cenedlaethol i adeiladu rhes newydd o beilonau ar draw yr ynys a’r ffafriaeth tuag at atebion amgen a fyddai’n cael llai o effaith weledol.

Yn dilyn y ddadl, pleidleisiodd Aelodau Cynulliad yn unfrydol o blaid ffafrio ceblau o dan y ddaear neu ddewisiadau amgen yn hytrach na pheilonau trydan.
 
Yn siarad yn ystod y ddadl yn y Senedd heddiw, dywedodd Rhun ap Iorwerth:
 
“Cost sydd wrth wraidd cynlluniau y Grid ym Môn. Peilonau ydy’r cyswllt rhataf. Mae’r gost byr-dymor i’r Grid yn is nag opsiynau eraill. Ond beth am y gost o osod peilonau i bobl Môn? – ar werth eu heiddo nhw, i fusnesau, i dwristiaeth, heb sôn, wrth gwrs, am yr effaith ar safon byw?

“Yn hytrach na rhoi’r pwysau ariannol ar bobl Môn, mi ddylai’r gost gael ei rhannu dros holl ddefnyddwyr ynni. Mae grid wedi cytuno i wneud hynny mewn rhannau eraill o’r DG.”
 
Yn siarad wedi’r ddadl, dywedodd Mr ap Iorwerth:
 
“Heddiw fe wnaethom ni ofyn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ddweud ein bod ni’n credu mai tanddaearu ddylai fod y norm yma yng Nghymru – ym mhrosiect cysylltu gogledd Cymru, ar draws Ynys Môn a’r tir mawr, a phob prosiect arall.
 
“Rydw i’n falch o fod wedi derbyn cefnogaeth y mwyafrif o Aelodau Cynulliad, a Llywodraeth Cymru, i ffafrio ceblau dan ddaear.
 
“Er fy mod yn siomedig bod y llywodraeth wedi cyflwyno gwelliant yn gwanhau’r cynnig gwreiddiol rhywfaint – a bod aelod Ukip gogledd Cymru wedi siarad yn frwd o blaid peilonau! – mae’r neges yn dal yn un gref. Mae’n rhaid i’r Grid rwan ystyried fod cynrychiolwyr democrataidd Cymru wedi dweud y dylid rhoi’r gorau i’r chwilio dim ond am yr ateb rhataf.
 
“Bydd pleidlais heddiw yn anfon neges gref i Grid Cenedlaethol fod angen rhoi mwy o ystyriaeth i ddewisiadau amgen i beilonau, yn ogystal â neges gref i bobl Môn fod y Cynulliad yn eu cefnogi ar y pwnc yma.”

Rhun yn gwahodd Gweinidog i Fôn i weld problemau band eang dros ei hunan

Yn ystod datganiad gan Llywodraeth Cymru ar ‘Fand Eang Cyflym Iawn – y Camau Nesaf’ ddoe, dywedodd Rhun ap Iorwerth mai i lawer o bobl Môn, doedd y gwasanaeth ddim yn gyflym heb son am fod yn gyflym iawn!

Yn siarad yn siambr y Cynulliad, dywedodd Aelod Cynulliad Ynys Môn Rhun ap Iorwerth:

“Yn amlwg, mewn egwyddor, mae hi’n wych gweld Superfast Cymru yn symud. Yn anffodus, yr ydym i gyd yn gwybod o’n bagiau post fel Aelodau Cynulliad, i lawer gormod o’n hetholwyr, dydy Superfast Cymru ddim wedi darparu band eang cyflym ac yn sicr nid yw wedi cyflwyno unrhyw beth yn agos at fod yn gyflym iawn.

“Soniasoch am yr ychydig o ffermwyr sy’n dal heb gysylltiad band eang cyflym. Mae’n llawer mwy na dim ond rhai ffermwyr; mae’n gymunedau gwledig cyfan sydd dal heb gael eu cysylltu. Hyd yn oed pan fydd y cabinet gwyrdd yn eich pentref, efallai na fydd hyny’n golygu bod gennych gysylltiad if and eang cyflym iawn. Mae angen i ni wneud yn siŵr, ac mae hwn yn bwynt yr wyf wedi ei godi ar nifer o achlysuron yma yn y Siambr, bod cyfathrebu llawer gwell rhwng Openreach a Llywodraeth Cymru a’r cwsmeriaid hynny a chwsmeriaid posibl y dyfodol sy’n clywed dro ar ôl tro, ‘Na, dydych chi ddim yno eto, ond byddwch yn fuan’. Ond pa bryd? A allaf apelio ar y Llywodraeth i sicrhau bod unrhyw gytundebau ar ddilynwr Superfast Cymru yn cynnwys yr angen i sicrhau cyfathrebu gyda’r bobl hynny sydd yn hynod rwystredig?
 
“Felly, plis cyfathrebwch. Gwnewch yn siwr fod y cymunedau hynny sydd ei eisiau o yn cael gwybod pam ddim, beth sydd angen ei wneud er mwyn iddynt ei gael, a gwneud yn siwr fod problemau yr ydym yn ymwybodol ohoynt yn cael eu goresgyn wrth i ni symud i gam nesaf y cynllun.”

Yn ei hymateb, dywedodd y Gweinidog dros Sgiliau a Gwyddoniaeth y byddai hi’n hapus i ddod i Ynys Môn i edrych ar y materion yma, ac ers hynny, mae Rhun wedi anfon gwahoddiad swyddogol iddi hi. Ychwanegodd Rhun:

“Edrychaf ymlaen at groesawu’r Gweinidog i Ynys Môn a gobeithiaf ei bod yn gallu gwneud hynny’n fuan er mwyn iddi gael gweld dros ei hunain y problemau sy’n ein hwynebu yma.”

Cyfarfod Cyhoeddus i drafod cynlluniau canolfan zorbio

Bydd Aelod Cynulliad Ynys Môn Rhun ap Iorwerth yn cynnal cyfarfod cyhoeddus i roi’r cyfle i etholwyr drafod cynlluniau i ddatblygu canolfan zorbio newydd rhwng Llanfairpwll a Phorthaethwy.

Dywed Mr ap Iorwerth:

“Mae nifer ohonoch wedi cysylltu ynglyn â’r cais ar gyfer canolfan Zorbio ym Mhorthaethwy. Bydd y cyfarfod yma yn gyfle i drafod eich pryderon mewn fforwm cyhoeddus.”

Pa bryd? Dydd Iau, Medi 15fed 6:00pm

Ble? Gwety Carreg Bran, LL61 5YH

AC yn ymuno gyda phlant ysgol i gael llwybr saff i’r ysgol

Mae Rhun ap Iorwerth AC wedi dod ynghyd gyda disgyblion Ysgol Rhosybol er mwyn gweld be ellid ei wneud i wella diogelwch are u ffordd i’r ysgol.

Yn dilyn llythyr gan Gyngor yr Ysgol, aeth Rhun draw yno i siarad gyda disgyblion blynyddoedd 5 a 6. Yn siarad wedi’r ymweliad, dywedodd Rhun:

“Roedd yn braf cael cyfarfod disgyblion blwyddyn 5 a 6 yn ysgol Rhosybol wedi i’r cyngor ysgol ysgrifennu ataf am gerdded i’r ysgol yn ddiogel. Roeddent wedi gobeithio cael croesiad sebra wrth yr ysgol, ond dywedwyd wrthym nad yw hyn yn opsiwn.

“Ond doedd y plant ddim yn barod i roi’r ffidil yn y to, felly es draw i’r ysgol i drafod gyda nhw pa opsiynau eraill hoffent eu gweld. Rydym yn awr wedi penderfynu ysgrifennu ar y cyd at y Cyngor i weld os byddai’n bosib cael arwydd sy’n fflachio 20mya yn ystod amseroedd cerdded i ac o’r ysgol, neu os oes unrhyw fesurau diogelwch eraill y gallent eu hystyried.

“Roedd yn braf iawn gweld y plant mor frwd dros weithredu er lles eu hysgol a’u cymuned. Tra roeddwn yno, cawsom gyfle i drafod pob math o bynciau eraill hefyd – o’n hoff bynciau ysgol i ba mor gyffroes oeddem ni i gyd am wylio tîm pêl-droed Cymru yn yr Ewros!”

Diolch yn fawr

Dyma gyfle i eistedd lawr o’r diwedd ac i edrych nol ar yr etholiad a’r canlyniad yn Ynys Môn. Roedd hi’n bleser cydweithio efo criw mor rhagorol dros Blaid Cymru ym Môn ac i gael miloedd o sgyrsiau efo pobl arbennig ym mhob cwr o’r ynys.

Prin y meddyliais i bod modd rhagori ar ganlyniad is-etholiad 2013, ond dyna ddigwyddodd, gyda mwyafrif Plaid Cymru ym Môn rwan y mwyaf i unrhyw blaid yng Nghymru.

Diolch i bawb gymrodd ran – waeth pa mor fawr neu fach – yn yr ymgyrch, ac yn bennaf oll, diolch i bobl Ynys Môn am roi eich ffydd ynof i a Phlaid Cymru i’ch cynrychioli yn y Cynulliad Cenedlaethol unwaith eto. Byddaf yn gwneud fy ngorau i ad-dalu’r ffydd hwnnw.

DIOLCH!