Rhaid amddiffyn rhaglenni i gefnogi pobl ddigartref ar Ynys Môn, medd AC

Yr wythnos hon, gofynnodd Aelod Cynulliad Ynys Môn, Rhun ap Iorwerth i Lywodraeth Cymru gynnal y gefnogaeth ariannol i fudiadau sy’n delio ac yn mynd i’r afael â digartrefedd a dywedodd na fyddai gwneud hynny yn rhoi pwysau ar rai o’r bobl fwyaf bregus yn ein cymdeithas.

Yn ystod Cwestiynau Gweinidogol yn y Cynulliad ddoe, canmolodd Rhun waith rhagorol sefydliadau ar Ynys Môn megis The Wallich, Digartref Môn a Gorwel.

Roedd hyn yn dilyn ymweliad Rhun â Phrosiect Housing First Wallich yn Llangefni yr wythnos diwethaf, lle dysgodd fwy am y gwaith y maen nhw’n ei wneud a phwysigrwydd y rhaglen Cefnogi Pobl.

Mae Housing First Môn yn helpu pobl ddigartref i ddod o hyd i gartref parhaol yn gyflym, gan ddarparu cefnogaeth parhaus i’w helpu i ymgartrefu a chynnal eu cartref newydd. Mae’r prosiect yn darparu pecyn cymorth dwys i fynd i’r afael â materion mewn modd creadigol ac arloesol.

Dywedodd Shian Thomas, Rheolwr Prosiect Housing First Anglesey yn The Wallich:

“Bu’n bleser siarad â Rhun ap Iorwerth AC am ein gwaith ar Ynys Môn a manteision Housing First fel model o gefnogaeth i’r rhai sy’n dioddef o ddigartrefedd.

“Housing First Môn yw’r unig brosiect Housing First yng Nghymru ac rydym yn falch o weithio gyda’r awdurdod lleol a landlordiaid ar draws yr ynys i leddfu digartrefedd a darparu tai i rai o’r rhai mwyaf bregus yn ein cymdeithas.

“Mae gwasanaethau fel rhai ni’n allweddol i helpu i leddfu ac atal digartrefedd a sicrhau bod pobl yn derbyn y gefnogaeth iawn tra’n byw’n annibynnol.”

Meddai AC Ynys Môn Rhun ap Iorwerth:

“Cefais gyfarfod da gyda thîm The Wallich yn Llangefni am eu gwaith yn mynd i’r afael â digartrefedd.

“Rhaid i Lywodraeth Cymru amddiffyn y rhaglen Cefnogi Pobl. Ariennir llawer o brosiectau Wallich drwy’r rhaglen, ac felly roeddwn yn falch o allu codi’r mater yn siambr y Cynulliad yr wythnos hon.”

Yn ei gwestiwn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau Carl Sargeant, gofynnodd Rhun ap Iorwerth:

“Rydw i wedi cyfarfod, y mis yma, efo staff a rheolwyr rhai o’r cyrff ac elusennau sy’n gwneud gwaith rhagorol yn Ynys Môn yn mynd i’r afael ac yn delio â digartrefedd, gan gynnwys y Wallich a Digartref Môn a Gorwel hefyd.

“Yn anffodus, mae gofyn iddyn nhw wneud mwy a mwy efo llai a llai o adnoddau yn cyrraedd at y pwynt rŵan lle mae’n gwbl amhosib i’w gyflawni, ac mae bygythiad o doriad i gyllid Cefnogi Pobl gan Lywodraeth Cymru yn berig o ddadwneud a thanseilio llawer o’r gwaith da sydd yn ac wedi bod yn cael ei wneud yn Ynys Môn a rhannau eraill o Gymru.

“A ydy’r Gweinidog yn cydnabod hynny ac yn derbyn os na wnaiff Llywodraeth Cymru gynnal y gefnogaeth ariannol i’r cyrff yma, y byddan nhw’n gwneud cam gwag ac yn gwasgu ar rai o’r bobl fwyaf bregus yn ein cymdeithas ni?”

Yn anffodus, ni wnaeth Ysgrifennydd y Cabinet warantu’r rhaglen Cefnogi Pobl ond dywedodd ei fod wedi gwrando ar bryderon cyn y cyhoeddiad ar y gyllideb ddrafft ar Hydref 3ydd.

Plaid: Byddai modd hyfforddi deugain o feddygon y flwyddyn ym Mangor

Plaid Cymru yn cynnig ffordd ymlaen wedi i Lywodraeth Cymru gau’r drws ar gwrs meddygaeth yn y gogledd

Mae Plaid Cymru wedi cynnig ffordd ymlaen i gryfhau gwasanaethau’r Gig yn y gogledd wedi i Lywodraeth Cymru wrthod cymryd cam i sefydlu ysgol feddygol ym Mangor. Mae Ysgrifennydd Cabinet cysgodol y Blaid dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol Rhun ap Iorwerth wedi cynnig y gellid sefydlu campws hyfforddi ar y cyd rhwng Prifysgolion Caerdydd, Abertawe a Bangor gyda deugain o fyfyrwyr y flwyddyn yn cael eu lleoli ym Mangor.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth, er nad oes modd sefydlu ysgol feddygol newydd dros nos, y byddai cynnig Plaid Cymru yn cychwyn y broses o hyfforddi israddedigion ym Mangor.

Meddai Ysgrifennydd Cabinet cysgodol Plaid Cymru dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol Rhun ap Iorwerth:

“Yr oedd penderfyniad Llywodraeth Cymru i wfftio datblygu hyfforddiant meddygol ym Mangor yn siom enfawr i bobl yn y gogledd ac yn ergyd i weithwyr y GIG yno sydd ar hyn o bryd wedi eu llethu â gwaith oherwydd nad yw’r llywodraeth wedi cynllunio’r gweithlu yn ddigonol.

“Nid dim ond Plaid Cymru sydd eisiau hyn – mae’r arbenigwyr wedi galw amdano, mae gweithwyr y GIG ei eisiau, a galwodd adroddiad diweddar gan Bwyllgor Iechyd y Cynulliad Cenedlaethol am yr un peth.

“Mae’n bwysig ein bod yn angori myfyrwyr yn y gogledd. Trwy anelu i gael nifer cynyddol o israddedigion wedi eu lleoli yma, gallwn gryfhau gwasanaethau’r GIG ar draws y rhanbarth. Byddai modd i ni hefyd ddatblygu arbenigedd mewn meddygaeth wledig a hyfforddi meddygon i ddarparu gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg.

“Bydd Plaid Cymru yn parhau i weithio tuag at sefydlu ysgol feddygol annibynnol yn y pen draw ym Mangor, ond mae ein cynigion heddiw yn rhoi ffordd ymlaen i ni gyrraedd y nod o ddarparu gwasanaethau ysbyty cryf a chynaliadwy ar draws y gogledd.”

Angen strategaeth newydd i gysylltu â Chymry dramor

Mewn darlith ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Ynys Môn, mae’r Aelod Cynulliad lleol wedi galw am strategaeth glir gan Lywodraeth Cymru i gysylltu â’r diaspora Cymreig. Dywedodd y gallai Cymru elwa’n fawr drwy gryfhau ei pherthynas gyda Chymry alltud, neu rai o dras Cymreig sy’n byw mewn gwledydd dramor a dywedodd bod angen “eu perswadio nhw – hyd yn oed o bell – i wneud cyfraniad at ddyfodol ac at ddatblygiad ein cenedl”.

Wrth draddodi araith flynyddol Undeb Cymru a’r Byd, dywedodd yr AC, sy’n cadeirio’r Grwp Trawsbleidiol yn y Cynulliad, ‘Cymru Rhyngwladol’:

“Mae Cymru wedi bod yn hael ei hallforion, a’i glo, ei llechi, ei haearn wedi gadael marc ym mhedwar ban byd, ond yr allforion y gallwn ni fanteisio arnyn nhw o hyd ydi’n pobl ni.”

Cymharodd sefyllfa Cymru gydag Iwerddon a’r Alban, sydd â strategaethau clir ar gysylltu â’i halltudion. Ers 2014 mae gan Lywodraeth Iwerddon Weinidog sydd yn gyfrifol am ddatblygu’r berthynas gyda Gwyddelod dramor. Mae Llywodraeth Yr Alban wedi cynnal dau brosiect ‘Homecoming Scotland’ i annog Albanwyr alltud i ailgysylltu a’u mamwlad.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth bod Llywodraeth Cymru yn gwneud ymdrechion mewn nifer o wahanol ffyrdd i adeiladu cysylltiadau dramor, yn cynnwys gyda Chymry alltud, ond yn ol AC Ynys Môn, mae angen strategaeth glir i glymu’r cyfan ynghyd a gosod amcanion pendant:

“Rydan ni angen ein Homecoming Scotland ein hunain, rydan ni angen ein Gweinidog Diaspora fel sydd gan Iwerddon. Rydan ni angen cymryd hyn o ddifri, i ddangos y tu hwnt i amheuaeth ein bod ni’n gweld hyn fel blaenoriaeth.”

Croesawu ymgynghoriad i ostwng yr oed pleidleisio i 16 oed.

Mae Aelod Cynulliad Ynys Môn wedi croesawu’r penderfyniad i ymgynghori ar ganiatáu i bobl 16 oed bleidleisio mewn etholiadau lleol. Mae’n rhan o bapur ymgynghori gan Lywodraeth Cymru sy’n cynnwys cynnigion am nifer o newidiadau i’r system etholiadol bresennol.
 
Dywedodd Rhun ap Iorwerth, AC:
 
“Rwyf yn gredwr cryf mewn gostwng yr oed pleidleisio i 16, ac mae Plaid Cymru wedi ymgyrchu dros hyn ers amser. Mae’n bwysig bod pobl ifanc yn gweld bod ganddyn nhw le yn nemocratiaeth Cymru. Drwy ostwng yr oed pleidleisio ar gyfer yr etholiadau lleol, rydym yn agor drws democratiaeth yn fwy llydan ar gyfer cenhedlaeth newydd o bleidleiswyr. Rwy’n gobeithio y byddai pobl ifanc yn manteisio’n fawr ar y cyfle i allu pleidleisio i newid pethau yn y byd gwleidyddol.”
 
Ychwanegodd Elin Lloyd Griffiths, myfyrwraig 17 oed o Ysgol David Hughes sy’n gwneud cyfnod o brofiad gwaith gyda Rhun yr wythnos yma:
 
“Dwi’n hapus iawn o weld fod y Llywodraeth yn ystyried gostwng yr oed pleidleisio i 16 oed mewn etholiadau lleol. Fel person ifanc dwy ar bymtheg oed, mae hi’n hynod o rhwystredig nad ydw i’n gallu defnyddio fy mhleidlais oherwydd fy oed, yn enwedig gan bod gwleidyddiaeth mor ddiddorol yn yr oes sydd ohoni. Ond, mae gweld fod Llywodraeth Cymru yn ymwybodol o lais yr ifanc yn codi calon rhywun, a dwi’n gobeithio mai dim ond y cychwyn fydd hyn ar gyfer sicrhau fod llais y person ifanc yn cael ei glywed yn iawn.”

Siom ddiweddaraf Llafur i’r gogledd: Dim ysgol feddygol i Fangor

Cyhoeddodd y llywodraeth Lafur heddiw na fydd yn bwrw ymlaen gyda chynlluniau i sefydlu ysgol feddygol yn y gogledd. Mynegodd ACau Plaid Cymru eu siom gyda’r penderfyniad, y ceisiodd Llywodraeth Cymru ei gladdu ar wythnos olaf y tymor.

Dywedodd Ysgrifennydd Cabinet cysgodol Plaid Cymru dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol Rhun ap Iorwerth na fydd cael myfyrwyr yn treulio mwy o amser yng ngogledd Cymru yn cymryd lle sefydlu ysgol feddygol.

Galwodd AC Arfon Sian Gwenllian y mater yn frad ar ogledd Cymru.

Dywedodd AC Plaid Cymru dros Arfon Sian Gwenllian:

“Mae’r angen am ysgol feddygol ym Mangor yn glir, ac y mae Llywodraeth Cymru ei hun wedi cydnabod hyn. Ceisiodd Llywodraeth Cymru gladdu’r ergyd hon i fyfyrwyr meddygol a chleifion yn y gogledd ar ddiwrnod olaf busnes y llywodraeth.

“Brad ar bobl Bangor, Arfon a’r gogledd i gyd yw hyn. Bydd Plaid Cymru yn parhau i ymgyrchu dros greu ysgol feddygol yn y gogledd. Mae’n gam pwysig o ran datblygu gwasanaeth iechyd diogel a chynaliadwy yng ngogledd Cymru, a datblygu gwasanaethau arbenigol y tu hwnt i goridor yr M4.”

Meddai Ysgrifennydd Cabinet cysgodol Plaid Cymru dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol Rhun ap Iorwerth:

“Fe wyddom nad oes modd sefydlu ysgol feddygol dros nos, ond mae’r cyhoeddiad hwn yn ergyd ddifrifol. Rydym wastad wedi bod o blaid cydweithio i gychwyn pethau, a dydy dweud y bydd myfyrwyr “yn treulio mwy o amser yng ngogledd Cymru” ddim yn ddigon da. Mae arnom angen myfyrwyr wedi eu lleoli yn y gogledd, mae ar ein GIG eu hangen, a rhaid i ni roi cychwyn ar bethau. Mae’n amlwg nad oes gan y llywodraeth Lafur hon unrhyw uchelgais.”

Meddai AS Plaid Cymru dros Arfon Hywel Williams:

“Rwyf wedi dychryn ac yn flin gyda’r cyhoeddiad hwn. Bu’n ddealledig o’r cychwyn cyntaf mai sefydlu ysgol feddygol i Fangor oedd bwriad Llywodraeth Cymru, ac y mae Gweinidogion Iechyd blaenorol Cymru wedi dweud wrthyf i ac eraill fod Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn Fwrdd Iechyd Prifysgol oherwydd y byddai ysgol feddygol yn cael ei sefydlu mewn partneriaeth â’r brifysgol ym Mangor.”

RSPB Cors Ddyga – agor drws ar un o ryfeddodau cudd Môn

Mae cyn-bwll glo sy’n llawn o fywyd gwyllt rhyfeddol a phlanhigion prin, newydd gychwyn ar bennod newydd yn ei hanes…

Mae RSPB Cymru wrth eu bodd o gyhoeddi bod eu gwarchodfa natur dawel ar Ynys Môn, RSPB Cors Ddyga, oedd gynt wedi’i henwi yn ‘Malltraeth Marsh’, yn cael ei hagor yn swyddogol gan Aelod Cynulliad Ynys Môn Rhun ap Iorwerth am 13:00,17 Gorffennaf 2017.

Yn gynharach eleni gwobrwywyd y warchodfa gwlyptir ag arian o Gronfa Dreftadaeth y Loteri ac Ymddiriedolaeth Gaynor Cemlyn-Jones, i wella a gwarchod y cynefin a rhywogaethau prin y warchodfa. Mae’r project hefyd wedi cael cymorth gan y Gronfa Datblygu Cynaliadwy, cynllun gan Lywodraeth Cymru yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Ynys Môn.

Diolch i’r ariannu hyn, mae’r warchodfa wedi elwa mewn tri maes:

1. Crewyd paneli dehongli ynghyd â llwybr dau gilometr i ymwelwyr weld rhyfeddodau’r gwlyptir.
2. Galluogwyd tîm RSPB Cors Ddyga i osod llifddorau i wella’r gwelyau cyrs gan fod cynyddu lefel y dŵr yn dda i ddenu rhywgaethau amrwyiol i’r warchodfa.
3. Comisiynwyd Duncan Kitson i greu cerflun pren o aderyn y bwn, i ddynodi uchafbwynt diweddar y wrachodfa pan nythodd aderyn y bwn ar RSPB Cors Ddyga nol yn 2016 – y tro cyntaf yng Nghymru ers 32 mlynedd.

Meddai Ian Hawkins, Rheolwr RSPB Cors Ddyga, “Dyma le perffaith i dreulio awr neu ddwy a chael seibiant oddi wrth y byd mawr. Mae’n fwrlwm o hanes a rydym yn falch iawn o gael agor ein drysau i’r cyhoedd er mwyn dangos ffrwyth eil llafur ers inni ddechrau rheoli’r warchdfa nôl yn 1994. Dyma brofi os adeiladwch gartref i fyd natur, mae nhw’n dod iddo!”

Dywedodd Rhun ap Iorwerth AC, “Pleser fydd cael agor Cors Ddyga yn swyddogol er mwyn i bobl leol ac ymwelwyr gael gwerthfawrogi’r warchodfa.  Mae safleoedd fel Cors Ddyga yn un o’n trysorau naturiol ni, a rydw i’n ddiolchgar i’r RSOPB am y gwaith mae nhw wedi ei wneud yn gofalu am y gors.  Un o lwyddiant mawr eu gwaith caled nhw oedd fod Aderyn y Bwn wedi dewid nythu yno’r llynedd – y tro cyntaf iddo nythu yng Nghymru ers tri degawd – ac rydw i’n edrych ymlaen i gael clywed plant Ysgol Esceifiog yn perfformio’r gân ‘Deryn y Bwn’.”
 
Ychwangodd Ian Hawkins, “Mae’r cyllid hael rydym wedi derbyn wedi ei gwneud yn bosibl i RSPB Cors Ddyga i ddechrau ar bennod newydd yn ein hanes gan helpu ei datblygiad parhaus er mwyn sicrhau bod y planhigion a bywyd gwyllt yn parhau i ffynnu.

“Mae phob tymor yn dod â’i chyfoeth ei hun o fywyd gwyllt. Mae blodau gwlypdir hardd yn ymddangos yn y gwanwyn: yr yr ellesgen, pluddail y dŵr a’r pelenllys gronynnog rhedynog prin, tra yn y gaeaf gallwch weld boda tinwyn, hebogiaid tramor a’r cudyll bach – mae pob un yn bleser i’w gweld. Rwy’n aml yn cael syrpreis annisgwyl pan dwi’n cerdded o amgylch y warchodfa, o weld dyfrgwn yn popian eu pennau uwchben y dŵr i’r foment arbennig pan sylweddolais fod aderyn y bwn yn nythu ar y warchodfa – dwi’n dal i wenu. Pwy a ŵyr be’ fydda’ i’n weld yfory. ”

Mae’r warchodfa hefyd yn cynnig profiadau gwirfoddoli newydd gwych i’r gymuned leol a’r cyfle i ddarganfod treftadaeth leol y safle; trwy waith ymarferol, sgiliau treftadaeth a chyfleoedd ymchwil. Am fwy o wybodaeth am y cyfleon yma cysylltwch â Swyddog Cymunedol a Datblygu Gwirfoddolwyr RSPB Cymru, Eva Vaquez-Garcia, ar 01248 672850/ eva.vazquezgarcia@rspb.org.uk.

Felly, gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi RSPB Cors Ddyga ar eich rhestr ‘lleoedd i ymweld â nhw’ yr haf hwn…

Ymweliad Ysgolion o Fôn i’r Senedd yn ysbrydoli cwestiwn i’r Prif Weinidog!

Ysgogodd sgwrs gyda disgyblion o ddwy ysgol o Fôn yn y Cynulliad heddiw, gwestiwn gan eu AC lleol Rhun ap Iorwerth, i’r Prif Weinidog.

Cyfarfu Rhun gyda disgyblion o Ysgol y Borth, Porthaethwy, Ysgol Corn Hir, Llangefni, ac Ysgol Parc y Bont, Llanddaniel, yn y Cynulliad heddiw a cafodd gyfle i ateb eu cwestiynau ar amryw o bynciau. Dywedodd:

“Cefais gwestiynau gwych gan yr ysgolion heddiw – yn gofyn beth wnaeth fy ysbrydoli i fod yn Aelod Cynulliad, beth y buaswn yn hoffi weld yn newid yng Nghymru, ac am beth oedd y drafodaeth ddiweddaraf yn y Cynulliad, a llawer mwy.

“Trafodon ni hefyd ieithoedd tramor modern, a dywedodd y disgyblion eu bod yn credu ei bod hi’n bwysig iawn bod ieithoedd tramor yn cael eu dysgu yn yr ysgol. Rwyf felly yn pasio’r neges hon ymlaen i’r Prif Wenidog yn y senedd y prynhawn yma.”

Wrth siarad yn ystod cwestiynau i’r Prif Weinidog yn y Cynulliad heddiw, gofynodd Rhun ap Iorwerth:

“Mae wedi bod yn bleser croesawu disgyblion o dair ysgol gynradd o Ynys Môn i’r Cynulliad heddiw: Ysgol y Borth, Porthaethwy; Ysgol Corn Hir, Llangefni; a Pharc y Bont, Llanddaniel. Mi fues i’n trafod dysgu iaith ychwanegol efo disgyblion Parc y Bont a Chorn Hir, ac mae disgyblion Corn Hir eisoes yn y gynradd yn cael gwersi Ffrangeg yn wythnosol.

“Mi oedden nhw, fel disgyblion dwyieithog, wrth gwrs, yn eiddgar iawn i weld cyfleon i wthio eu ffiniau ieithyddol. Ond, wrth gwrs, mae’r dystiolaeth yn dweud wrthym ni fod cwymp mawr wedi bod yn nifer y disgyblion sy’n dysgu iaith dramor yn ysgolion uwchradd Cymru, ac mae’r adroddiad diweddaraf gan y British Council ar dueddiadau ieithoedd yng Nghymru yn dangos cwymp o bron iawn i hanner y disgyblion sy’n sefyll arholiad TGAU a lefel A rŵan mewn iaith dramor fodern o’u cymharu â 15 mlynedd yn ôl.

“Mae cyfres o Weinidogion addysg Llafur wedi methu ag atal y llithro hwnnw, ond a ydy’r Prif Weinidog yn cytuno rŵan â galwad diweddar y grŵp trawsbleidiol Cymru Ryngwladol ar i’r siarad am yr uchelgais yma o greu Cymru ddwyieithog ‘plws 1’ droi’n weithredu ar hynny, yn enwedig yng nghyd-destun y ffaith bod cwricwlwm newydd ar y ffordd?”

AC yn gwneud achos dros gryfhau darpariaeth Band eang yn Ynys Môn

Yr wythnos diwethaf, cynhaliodd Aelod Cynulliad Ynys Môn, Rhun ap Iorwerth, ymweliad gan y Gwenidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, sef y Gwenidog yn Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am fand eang, i Ynys Môn.

Yn ystod yr ymweliad, aeth a hi i Barc Diwydianol Mona ac i Llangoed, fel ei bod yn cael cipolwg o’r problemau mae busnesau, unigolion a chymunedau ar draws yr ynys yn gorfod eu gwynebu.

Cyn yr ymweliad, bu Rhun yn gwahodd etholwyr i rannu eu profiad o fand eang gydag ef, ac roedd yn gallu casglu gwybodaeth at ei gilydd i gyflwyno i’r Gwenidog
Dywedodd AC Môn, Rhun ap Iorwerth:

“Dydy cysylltiad data cyflym ddim yn ‘foethusrwydd’ y dyddiau hyn. O addysg i delefeddygaeth, o fusnes i hamdden, mae ein hangen am gcysylltiad band eang yn ran annatod o’n bywydau bob dydd, a ni ddylai’r ffaith ein bod yn wledig fod yn reswm dros beidio cael y cysylltiad hwn. Mae ardaloedd gwledig yn disgwyl, ac yn derbyn, dŵr a thrydan. Yn y 21ain ganrif, dylem gael disgwyliadau tebyg o ran cysylltedd data. Efallai bod Ynys Môn yn wledig, ond nid yw’n anghysbell!

“Mi hoffwn i weld siop-un-stop ar gyfer cymorth ymarferol a chefnogaeth i’r rhai sydd â chysylltiad anerbyniol. Ar hyn o bryd, os oes atebion amgen ar gael, anaml mae pobl yn ymwybodol o’r atebion rheini, nac yn gwybod i bwy i ofyn y cwestiwn hyd yn oed, ac nid yw’n amlwg pa gymorth all fod ar gael.

“Rwyf hefyd eisiau gweld eglurhad i’r rhai sy’n methu cael amserlen glir ar gyfer cysylltu eu heiddo drwy raglen Cyflymu Cymru (neu debyg) – yn cynnwys datganiad glir os NAD yw’n bosib i gysylltu, ac am gefnogaeth ariannol wedi’i anelu at y rheini na all gael cysylltiad ‘traddodiadol’, gan gynnwys datblygiadau ar lefel cymuned gyfan.

“Yn ystod ei hymweliad, llwyddais i wneud yr achos gyda’r Gweinidog i gryfhau band eang ar gyfer pobl Môn. Cytunodd y Gwenidog i edrych ar beth all gael ei wneud – er enghraifft, cytunwyd y byddwn yn gallu cynnal Fforwm Busnes gyda thîm cysylltiad y llywodraeth, i sicrhau bod busnesau lleol yn gallu darganfod beth all Llywodraeth Cymru wneud i’w helpu.”

Dal Te Parti Ysblennydd i helpu elusen diwedd oes

Mae AC lleol Ynys Môn, Rhun ap Iorwerth wedi ymuno gyda Marie Curie i gynorthwyo apel yr elusen y Mehefin yma, y Te Parti Ysblennydd.

O Mehefin 23 i 25, fydd pobl, gyda’i teuluoedd, ffrindiau neu gyd-weithwyr yn cael Te Parti i godi arian i helpu Marie Curie . Bydd yr arian sydd yn cael ei godi yn helpu’r elusen i ddarparu gofal a chymorth i bobl s’yn byw gyda salwch terfynnol a’u teuluoedd.

I amlygu’r elusen a sut y gall Te Parti Ysblennydd helpu Nyrsus Marie Curie, fe ymunodd AC Ynys Môn, Rhun ap Iorwerth, gyda The Parti yn y Senedd i annog pobl i cofrestru.

“Dywedodd Rhun: “Mae dal Te Parti Ysblennydd mor hawdd. Gallwch chi wneud popeth eich hunain neu siopa am felysion blasus. Rhowch pris ar y teisennau neu rowch focs ar gyfer cyfraniadau wrth y drws a byddwch yn codi arian i helpu Marie Curie roi cymorth i bobl yn ystod amser pryd mae eu angen fwyaf.”

Blwyddyn yma, mae’r seern teledu Mel Giedroyc yn helpu’r apel – ac yn gofyn i bobl i wahodd pawb mae nhw’n eu nabod – achos fe wneith pobl unrhywbeth am deisen!

Mae’r apel Te Parti Ysblenydd yn cael ei gynorthwyo gan John Lewis eleni – y tro cyntaf mae adwerthwr mawr wedi helpu. Mae siopau ar draws y wlad wedi helpu lansio’r apel ac yn dal Te Parti yn y siopau.

Blwyddyn diwethaf, fe wnaeth y Te Parti godi mwy na £500,000 i helpu Marie Curie fod yno i pobl yn ystod amser pwysig.

Am fwy o wybodaeth ac i gael pecyn codi arian, ffoniwch 0800 716 146 neu ewch i www.mariecurie.org.uk/teaparty.

AC yn canmol prosiect ‘cyntaf erioed’ sy’n digwydd yng Nghaergybi

Bu Aelod Cynulliad Ynys Môn Rhun ap Iorwerth yn ymweld â Minesto ar ddydd Gwener i weld datblygiadau diweddaraf y prosiect.

Mae’r swyddfa yng nghanol Caergybi wedi ago rei drysau ers dydd mercher ac yn cyflogi pobl leol. Y gobaith yw y bydd y ‘barcud’ cyntaf yn y dŵr erbyn mis Medi, er fod y dyddiad yn ddibynnol ar y tywydd a’r llanw.

Yn siarad wedi’r ymweliad, dywedodd Rhun:
 
“Mae’n wych gweld y weledigaeth yma’n dod yn agosach ac agosach at gael ei wireddu. Dylai gweld yr offer yn cael ei baratoi ar gyfer cael ei lawnsio yng Nghaergybi fod yn destun balchder i ni yma ym Môn.
 
“Yn barod, mae’r nifer sy’n cael eu cyflgoi – bron pawb yn lleol – yn tyfu’n raddol , a busnesau fel Iar Gychod Caergybi yn dod yn ran bwysig o brosiect Minesto.
 
“Dyma’r cyntaf yn y byd – ac mae’n digwydd yma. Mae’r potensial i ni yn nhermau swyddi a buddiannau economaidd eraill yn anferth, a rydw i’n dymuno’r gorau i holl dîm Minesto.”