SGANDAL ARALL I UNED IECHYD MEDDWL BETSI SY’N DWEUD FOD SYMUD ALLAN O FESURAU ARBENNIG YN “GYNAMSEROL”

“Rhaid i gyfrifoldeb fod gyda Llywodraeth Cymru” meddai Rhun ap Iorwerth AS, wrth i chwythwr chwiban ddatgelu bod y prif reolwyr wedi cael eu hadleoli yn dilyn marwolaeth cleifion

 

Mae llythyr gan chwythwr chwiban dienw yn datgelu bod uwch staff wedi cael eu symud o’u swyddi yn dilyn marwolaeth claf o hunanladdiad ym mis Ebrill eleni.

 

Digwyddodd y farwolaeth yn uned ddadleuol Hergest, ysbyty iechyd meddwl arbenigol sydd wedi’i leoli ar dir Ysbyty Gwynedd, sy’n cael ei redeg gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC).

 

Cadarnhawyd yr honiadau hyn gan Jo Whitehead, Prif Weithredwr BIPBC, a gafodd ei hysbysu wedyn gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) am y llythyr dienw.

 

Mewn llythyr dyddiedig 21 Mehefin 2021, cadarnhaodd Ms Whitehead wrth AGIC fod Pennaeth Gweithrediadau’r Gorllewin a Phennaeth Nyrsio’r Gorllewin wedi’u “hadleoli” i ymgymryd â dyletswyddau “amgen”, ac y byddai ymchwiliad allanol yn dechrau yn dilyn marwolaeth claf drwy hunanladdiad yn uned Hergest.

 

Mae wyth mlynedd wedi mynd heibio ers i bryderon a godwyd gan staff yn Uned Hergest gael eu cofnodi am y tro cyntaf, ac wyth mlynedd ers i Robin Holden gael ei gomisiynu i gynnal ymchwiliad i’r uned iechyd meddwl.

 

Roedd canfyddiadau adroddiad Holden yn rhagflaenu adroddiad damniol arall mewn uned iechyd meddwl arall ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, a arweiniodd at roi’r bwrdd iechyd mewn mesurau arbennig ym mis Mehefin 2015.

 

Cafodd BIPBC ei dynnu allan o fesurau arbennig yn y cyfnod cyn etholiadau’r Senedd, ond mae llefarydd iechyd, Rhun ap Iorwerth AS yn dweud bod “rhaid gofyn cwestiynau” dros y penderfyniad hwn.

 

Dywed Mr ap Iorwerth mai “digon oedd digon” a bod rhaid i Lywodraeth Cymru gael ei dal yn atebol am y penderfyniad “cynamserol” i  dynnu BIPBC allan o fesurau arbennig. 

 

Nid yw Adroddiad Holden erioed wedi’i gyhoeddi’n llawn.

 

Dywedodd y llefarydd dros iechyd, Rhun ap Iorwerth AS,

 

“Rhaid mynd i’r afael â’r sgandalau parhaus ar frys, ac mae fy nghalon yn mynd allan i’r holl deuluoedd y mae’r trychinebau hyn yn parhau i effeithio arnynt. Rhaid gofyn cwestiynau sut y llwyddodd Betsi Cadwaladr i ddod allan o fesurau arbennig pan fo problemau difrifol o fewn unedau iechyd meddwl yn amlwg yn parhau.

 

“Mae aelodau’r staff wedi dweud wrthyf yn y dyddiau diwethaf nad yw problemau tanfuddsoddi a thanariannu wedi cael sylw o hyd. Digon yw digon. Mae trefniadau yr arweinyddiaeth wedi’u hamlygu unwaith eto fel gwendid – gan y staff yr wyf wedi bod yn siarad â hwy, a’r llythyr gan y Prif Weithredwr.

 

“Rhaid i Lywodraeth Cymru dderbyn cyfrifoldeb am fynd i’r afael â’r materion hirhoedlog a dwfn hyn. Os na chymerir camau pendant, bydd y penodau trasig hyn yn parhau, gan adael rhestr gynyddol o deuluoedd mewn profedigaeth gyda chwestiynau heb eu hateb.”

 

Ailadroddodd Mr ap Iorwerth bryderon blaenorol hefyd am strwythur darparu iechyd yng ngogledd Cymru:

 

“Gall y camau a gymerwyd mewn ymateb i’r drasiedi hon gael eu gweld gan BIPBC fel arwydd o benderfyniad newydd i fynd i’r afael â materion ym maes gofal iechyd meddwl, ond mae’r ffaith ein bod yn sôn am fwrdd enfawr wedi’i  rannu’n Ddwyrain, Canol a Gorllewin yn dangos problem barhaus arall. Mae’r materion hynny’n gallu mynd allan o reolaeth mewn gwahanol rannau, yn awgrymu unwaith eto mai bwrdd yw hwn sy’n rhy fawr ac anhylaw, ac efallai mai dechrau o’r newydd yw’r unig ateb.”