Cynllun i wella signal ffôn symudol mewn canolfannau cymunedol gwledig

Mae Aelod Cynulliad Ynys Môn Rhun ap Iorwerth yn annog canolfannau cymunedol ar Ynys Môn i wneud cais ar gyfer cynllun newydd i roi gwell signal ffonau symudol i ganolfannau cymunedol gwledig mewn mannau gwan signal ffôn ar draws y DG.

Mae’r rhaglen i gael signal cadarn tu fewn i gymunedau (Community Indoor Sure Signal, neu CISS) wedi’i gynllunio i ddarparu signal llais a data 3G dibynadwy tu fewn a bydd ar gael i 100 o ganolfannau cymunedol gwledig.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth, a oedd yn noddi digwyddiad ‘galw heibio’ gan Vodafone i Aelodau Cynulliad heddiw:

“Rydym yn gwybod bod llawer o ardaloedd Ynys Môn yn dioddef o signal ffonau symudol gwael. Mae’n fater yr wyf wedi ei godi nifer o weithiau yn y Cynulliad.

“O ystyried bod cysylltedd mor bwysig mewn ardaloedd gwledig, yr wyf yn annog canolfannau cymunedol ar Ynys Môn nad oes ganddynt signal ffonau symudol dibynadwy – boed yn dafarndai neu siopau sy’n cael eu rhedeg gan y gymuned, yn neuaddau pentref neu feddygfeydd – i wneud cais am y cynllun”

Ceir manylion pellach a ffurflenni cais ar wefan Vodafone http://blog.vodafone.co.uk/2016/07/07/ciss100-reliable-indoor-signal-pub/ neu gallwch gysylltu â swyddfa Rhun ap Iorwerth ar rhun.apiorwerth@assembly.wales

Bydd angen i ymgeiswyr llwyddiannus (sydd yn gorfod bod y sawl sy’n talu’r bil band eang) fod â phecyn band eang diderfyn gyda chyflymder lawrlwytho o leiaf 4Mbps a chyflymder uwchlwytho o 2Mbps a man pŵer plygio mewn yn y cartref. Mae’r uned CISS yn syml yn plygio i mewn i llwybrydd band eang sefydlog safonol i ddarparu derbyniad ffonau symudol ar draws adeilad, neuadd neu siop.