“Rydw i eisiau i Gymru gyffroi am Hydrogen!” – Rhun ap Iorwerth AS

Cynnig Plaid Cymru yn galw am Strategaeth Hydrogen i Gymru wedi’i basio yn y Senedd

Arweiniodd Plaid Cymru ddadl yn y Senedd ar 15 Mehefin yn galw am Strategaeth Hydrogen gynhwysfawr gan Lywodraeth Cymru a fydd yn darparu buddion amgylcheddol ac economaidd hirdymor i Ynys Môn a Chymru.

Derbyniodd y cynnig gefnogaeth drawsbleidiol a chafodd ei basio yn ddiwrthwynebiad.

Mae Rhun ap Iorwerth, Aelod o’r Senedd dros Ynys Môn wedi galw dro ar ôl tro ar Lywodraeth Cymru i fod o ddifirf am y cyfleoedd yn y sector hwn sy’n “cyflymu’n gyflym”, ar ôl codi potensial Hydrogen yn y Senedd am y tro cyntaf yn 2020, lle pwysleisiodd yr angen am weithredu cyflym.

Yn y ddadl wythnos yma, cyfeiriodd Mr ap Iorwerth at Ynys Môn fel lleoliad gwych ar gyfer gweithredu Strategaeth Hydrogen oherwydd datblygiadau cynhyrchu ynni gwynt ar y môr presennol a seilwaith pibellau nwy, ond ailadroddodd fod angen am fuddsoddiad gan Lywodraeth yn y maes hwn sydd â photensial enfawr ar gyfer twf gwyrdd. Pwysleisiodd er bod gweithgarwch aml-sector cryf ym maes hydrogen yma, nid oes gan Gymru eto fframwaith cydlynol, strategol i lywio cynnydd a galwodd am ‘strategaeth gynhwysfawr gan y llywodraeth sy’n nodi nodau ac uchelgais clir – a chyn gynted â phosibl. ‘

Yn dilyn y ddadl, dywedodd Rhun ap Iorwerth, Aelod Senedd Ynys Môn:

“Rwy’n gyffrous ynglŷn â’r potensial gwirioneddol i ddatblygu’r sector hydrogen yng Nghymru – ar Ynys Môn yn arbennig, a’r cyfleoedd gwaith a allai ddod yn ei sgil, ac rwy’n falch iawn o weld Llywodraeth Cymru yn rhannu fy nghyffro.

“Mae heddiw’n cynnig datganiad clir bod Cymru eisiau bod yn arloeswr ym maes hydrogen – mynd i’r afael â newid hinsawdd, trawsnewid i fath newydd o ddiwydiant, newid cymunedau a chreu swyddi. Mae Plaid Cymru yn benderfynol bod yn rhaid i Gymru fod yn rhan o’r chwyldro hwnnw.

“Mae’n hollbwysig rwan bod Llywodraeth Cymru yn adeiladu ar y ‘llwybr hydrogen’ y maen nhw’n cyfeirio ato, ac yn sicrhau ei fod yn cynnig strategaeth glir, gyda buddsoddiad wedi’i dargedu’n effeithiol i sicrhau’n bod yn gallu gwneud y mwyaf o’r cyfleoedd enfawr y mae’r sector hydrogen yn eu cynnig i economi Cymru, i greu swyddi, i hybu ein cymunedau a’r amgylchedd a chyrraedd ein targedau datgarboneiddio.”

Mae hydrogen yn cael ei gydnabod am ei botensial i ddarparu ynni gwyrdd a datgarboneiddio’r sectorau trafnidiaeth a diwydiant. Mae ganddo’r potensial i danio HGVs a chludiant cyhoeddus, gwresogi a phweru cartrefi a lleihau dibyniaeth ar danwydd ffosil trwy arallgyfeirio ffynonellau ynni, ac mae Mr ap Iorwerth yn awyddus i sicrhau bod Ynys Môn ar flaen y gad o ran datblygiadau yng Nghymru – gan adeiladu ar y cynlluniau cyffrous am Hwb Hydrogen yng Nghaergybi, dan arweiniad Menter Môn.

Ychwanegodd Rhun ap Iorwerth AS:

“Mae hydrogen ar flaen y gad yn y ddadl ynni ac mae pethau’n cyflymu’n gyflym yn y sector hwn ledled y byd – ac mae cymaint o botensial i Ynys Môn, a Chymru chwarae ei rhan.

“Mae gennym ni gynlluniau Menter Môn ar gyfer hwb hydrogen ar raddfa fach gychwynnol yng Nghaergybi a dwi’n gwybod mai dyma’r cam cyntaf tuag at ddatblygiadau llawer mwy yn y blynyddoedd i ddod. Mae gan Ynys Môn y potensial i fod yn arwain yn y sector Hydrogen.

“Rydyn ni ar ddyfodiad diwydiant newydd a rwan yw’r amser i Gymru dorchi ei llewys a bod o ddifrif am ddod yn chwaraewr go iawn ynddo.”

DIWEDD