“Rwy’n galw ar bob dyn i addo byth i gyflawni, esgusodi neu aros yn dawel ynglŷn â thrais yn erbyn menywod a merched”

Rhun ap Iorwerth AS yn cynrychioli ei blaid mewn gwylnos yng ngolau cannwyll i nodi Diwrnod Rhuban Gwyn 2021

Heddiw (25 Tachwedd) yw Diwrnod Rhuban Gwyn – cydnabyddir ledled y byd fel y fenter fyd-eang fwyaf i ddod â thrais dynion yn erbyn menywod a merched i ben trwy alw ar ddynion i weithredu i wneud gwahaniaeth. Roedd Rhun ap Iorwerth, Aelod o’r Senedd dros Ynys Môn, yn bresennol ac yn siarad mewn gwylnos yng ngolau cannwyll a gynhaliwyd ar risiau’r Senedd yn gynharach yr wythnos hon, a drefnwyd gan Ffederasiwn Cenedlaethol Sefydliadau Merched – Cymru.

Yn dilyn y digwyddiad, dywedodd Rhun ap Iorwerth AS:

“Roedd yn anrhydedd siarad fel un o lysgenhadon y Rhuban Gwyn yn y digwyddiad y tu allan i’r Senedd eto eleni ac ailadrodd addewid y Rhuban Gwyn i beidio byth â chyflawni, esgusodi nac aros yn dawel am drais dynion yn erbyn menywod.

“Ym mis Mawrth eleni, yn sgil llofruddiaeth drasig Sarah Everard daeth sgwrs gyhoeddus ynghylch merched a menywod nad oeddent yn teimlo’n ddiogel yn ein cymdeithas. Yn anffodus dangosodd ymateb rhai ein bod yn rhy aml, fel cymdeithas, yn gosod y cyfrifoldeb ar fenywod i gadw eu hunain yn ddiogel, nid ar ddynion i roi’r gorau i ymosod ar fenywod. Rhaid inni fod yn glir nad yw’r cyfrifoldeb i ddod â thrais yn erbyn menywod a merched i ben yn gorwedd gyda menywod yn newid neu’n addasu eu hymddygiad, yn cyfyngu ar eu symudiadau, neu’n cyfyngu ar eu rhyddid neu eu hwyl. Mae’r troseddwyr yn gyfrifol am beidio â chyflawni’r troseddau hyn. “